'Siom' Llywodraeth Cymru dros wrthod gŵyl banc Dewi Sant
- Cyhoeddwyd
Mae'n "siom" fod ymdrechion i ddynodi Dydd Gŵyl Dewi fel gŵyl y banc yn parhau i gael eu gwrthod o gyfeiriad San Steffan, meddai Llywodraeth Cymru.
Gyda chorff sy'n cynrychioli busnesau bach yn feddwl agored i'r alwad, daw'r sylwadau yn sgil pwysau cynyddol i ddatganoli grymoedd tebyg i'r rhai eisoes yn nwylo Llywodraeth yr Alban.
Wrth i Gyngor Gwynedd drafod cynllun am ddiwrnod ychwanegol o wyliau ar 1 Mawrth, mae Llywodraeth y DU wedi amddiffyn diffyg gŵyl y banc oherwydd yr "integreiddio agosach" rhwng Cymru a Lloegr.
Yn bennaf oherwydd y niferoedd sy'n croesi'r ffin i weithio, dywedodd y gweinidog busnesau bychain fod pryderon am amharu ar fusnesau gan wyliau banc gwahanol ar naill ochr i Glawdd Offa.
Ond mae'r llywodraeth wedi gallu creu gwyliau i ddathlu jiwbilî'r Frenhines ym Mehefin, meddai un Aelod o'r Senedd, sy'n dadlau y byddai gŵyl banc 1 Mawrth yn galluogi pobl i "ymfalchïo yn eu Cymreictod".
Fis Hydref y llynedd fe basiwyd cynnig gan Gyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli hawliau deddfu ar wyliau cyhoeddus i Gymru - yn yr un modd â'r Alban.
Ers pasio'r ddeddf yn 2007 mae Dydd Sant Andreas wedi bod yn ŵyl cyhoeddus yn Yr Alban.
Gwrthod y cais wnaeth Llywodraeth y DU, felly ddydd Mawrth, fe fydd Cyngor Gwynedd yn trafod cynllun ei hun gwerth £200,000 fyddai'n golygu fod staff - heblaw am athrawon - yn derbyn diwrnod ychwanegol o wyliau i ddathlu diwrnod nawddsant Cymru ar 1 Mawrth eleni.
Gan ddilyn trefniant oedd yn arfer bod yn weithredol ar Ynys Môn, mae'r cyngor hefyd yn edrych ar sefydlu gwyliau parhaol i'w weithlu drwy gynnal trafodaethau dros newid amodau gwaith.
Tra fod wyth gŵyl y banc yng Nghymru a Lloegr, mae naw yn Yr Alban a 10 yng Ngogledd Iwerddon.
Yng Ngweriniaeth Iwerddon mae gweinidogion yn cysidro creu gŵyl y banc parhaol ar Ddydd Santes Bridget - yn ogystal â diwrnod ychwanegol i ddathlu Dydd Sant Padrig - ar ben y naw sy'n cael eu dathlu eisoes.
'Gofyn dro ar ôl tro'
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "siom" ynglŷn a diffyg gallu Aelodau'r Senedd i wneud penderfyniadau dros wyliau cyhoeddus.
Yn 2000 fe basiodd y Cynulliad - fel yr oedd - gynnig yn datgan cefnogaeth unfrydol i wneud 1 Mawrth yn ŵyl y banc yng Nghymru.
Yn 2013 cadarnhaodd y llywodraeth fod y cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones, wedi paratoi cais aflwyddiannus i Ysgrifennydd Cymru am ddatganoli'r hawliau angenrheidiol.
Dywedodd llefarydd: "Rydym wedi gofyn dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU i'r Senedd gael y pwerau i wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc, ac mae'n siomedig gweld y ceisiadau hyn yn parhau i gael eu gwrthod."
Yn ôl Mabon ap Gwynfor, AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, byddai gŵyl y banc ar Ddydd Gŵyl Dewi yn caniatáu i bobl Cymru ymfalchïo yn eu Cymreictod.
"Mae yna le i ddadlau y byddai'r ŵyl banc ychwanegol hyn yn gwneud lles economaidd wrth ganiatáu i bobl ymlacio ac i fwynhau gyda ffrindiau a theulu," meddai.
"Dydy'r ŵyl banc ychwanegol yn Iwerddon na'r Alban wedi creu niwed i'w heconomi nhw.
"Yn ogystal â hyn, mae 'na sawl gŵyl y banc ychwanegol eleni oherwydd dathliad jiwbilî'r Frenhines. Felly, pan mae'r wladwriaeth yn dymuno cyflwyno gwyliau banc ychwanegol, mae'n bosib iddynt wneud.
"Mae dadl Llywodraeth y DU bod gormod o bobl yn teithio dros ffin Cymru a Lloegr, ac felly na ddylid cael gŵyl banc ychwanegol, yn nonsens llwyr. Mae gan awdurdodau lleol y grym i ddewis dyddiau gwahanol i hyfforddi athrawon, er enghraifft.
"Mae'n berffaith bosib."
Beth ydy barn busnesau?
Yn ôl Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB), byddai gan ŵyl banc o'r newydd y potensial i helpu rhai busnesau ond amharu ar eraill.
Roedd cydnabyddiaeth y byddai "buddion amlwg" i'r sectorau twristiaeth a lletygarwch, meddai llefarydd.
"I sawl busnes all hyn fod yn gyfle i ddenu busnes a manteisio ar y brand Gymreig," ychwanegodd.
"Ond fe allai rhannau arall o'r economi gysidro'i hunain ar eu colled oherwydd diwrnod coll o weithgarwch.
"Beth bynnag yw diben unrhyw drafodaeth, mae'n rhaid cael ystyriaeth glir o'r buddion ac anfanteision economaidd.
"Bydd sawl busnes yng Nghymru yn parhau i ddathlu'r diwrnod, beth bynnag yw'r canlyniad."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae'r drefn bresennol o wyliau cyhoeddus wedi ei sefydlu ac er y gallai gŵyl y banc ychwanegol fod o fudd i rai cymunedau a sectorau, mae'r gost i'r economi o ŵyl y banc ychwanegol yn sylweddol."
Ychwanegodd y llefarydd bod "dim cynlluniau presennol" i newid y drefn yng Nghymru.
Yn ei ymateb gwreiddiol i gais Cyngor Gwynedd i ddatganoli'r grymoedd i Fae Caerdydd, dywedodd y Gweinidog Busnesau Bach, Paul Scully, y "gallai'r integreiddio agosach [rhwng Cymru a Lloegr] arwain at amharu mwy ar fusnes".
Dywedodd bod gŵyl ychwanegol adeg jiwbilî 2012 wedi costio £1.2bn i economi'r DU.
"Nid yw'r hyn sy'n gweithio mewn un lle yn gweithio mewn man arall pob tro ac ni ddylem dybio mai datganoli yw y datrysiad cywir oherwydd ei fod wedi'i ddatganoli mewn man arall."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2021