'Dyletswydd' newid hinsawdd yn sgil hanes glofaol Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cynllun Coedwig Cymunedol BoréFfynhonnell y llun, Tim Tyson Short
Disgrifiad o’r llun,

Menywod sy'n helpu plannu coed yn Kenya gyda chymorth un o raglenni Llywodraeth Cymru yn Affrica

Mae gan Gymru "ddyletswydd arbennig" i helpu brwydro'n erbyn newid hinsawdd oherwydd ei hanes glofaol, yn ôl amgylcheddwr blaenllaw.

Dywedodd Ru Hartwell, cyfarwyddwr Carbon Link fod y wlad wedi "dyfeisio model o ddatblygu diwydiannol" wedi'i seilio ar ecsbloetio tanwyddau ffosil.

Ei elusen ef sy'n gyfrifol am un o raglenni plannu coed Llywodraeth Cymru yn Affrica.

Mae bron i bedwar miliwn o goed wedi'u plannu hyd yma yng nghymuned Boré, Kenya.

Ffynhonnell y llun, Tim Tyson Short
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r coed sydd wedi eu plannu yn ardal Boré yn Kenya

Mae'r prosiect wedi ehangu yn sylweddol yn ystod y degawd diwethaf, o blannu 1,000 o goed cashiw yn wreiddiol i'r gobaith o blannu cyfanswm o filiwn o goed newydd eleni.

Byddan nhw'n cynnwys 14 o rywogaethau - rhai sy'n gallu darparu bwyd a phren i gymunedau lleol ac eraill yno i greu cynefinoedd bywyd gwyllt a gwella bioamrywiaeth.

Daw'r cyllid gan Lywodraeth Cymru, elusen Maint Cymru ac enillion dwy siop elusen newid hinsawdd arloesol yn Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth, dolen allanol.

'Hanes hir o ryddhau carbon'

"Y syniad yw ein bod ni'n helpu pobl leol i ddiogelu'r fforest sydd ganddyn nhw tra'n plannu coed newydd hefyd i amsugno carbon o'r atmosffer a gwella'r hinsawdd i bawb," eglurodd Mr Hartwell mewn sgwrs fideo o ganolfan prosiect coedwigaeth cymunedol Boré.

Mae'n dweud mai'r "eironi trasig ynghylch newid hinsawdd," yw bod gwledydd tlota'r byd, sydd wedi cyfrannu leiaf at broblem allyriadau carbon, yn cael eu taro waethaf gan sgil-effeithiau tymereddau uwch a thywydd eithafol.

Ffynhonnell y llun, Tim Tyson Short
Disgrifiad o’r llun,

Ru Hartwell: "Mae gan Gymru hanes hir iawn o ryddhau carbon"

"Mae gan Gymru hanes hir iawn o ryddhau carbon," meddai. "Mae gynnon ni un o'r olion traed hanesyddol hiraf o unrhyw wlad yn y byd oherwydd y datblygu diwydiannol ddaeth yn sgil meysydd glo de Cymru.

"Mae'r model yna o ddatblygu diwydiannol ar sail ecsbloetio tanwyddau ffosil yn un gafodd ei ddyfeisio yn ne Cymru a mae pob gwlad arall yn y byd wedi mynd yn eu blaen i fath o efelychu hynny. Model gafodd ei ddyfeisio yng Nghymru felly yn mynd yn ei flaen i greu'r broblem," fe honnodd.

"Felly oherwydd mai ni oedd y wlad ddiwydiannol gynta' mae gennym ni ddyletswydd arbennig i geisio tynnu yn ôl peth o'r carbon hynafol, hanesyddol yna.

"Dyna sydd mor wych am y prosiect yma - noddwyr o Gymru, cymunedau o Gymru a Llywodraeth Cymru yn dod at ei gilydd."

Ffynhonnell y llun, Tim Tyson Short
Disgrifiad o’r llun,

Meithrinfa Cynllun Coedwig Cymunedol Boré

Mae'r prosiect wedi arwain at sefydlu'r feithrinfa goed fwyaf yn nhalaith yr arfordir, Kenya - gan weithio gyda dros 3,000 o ffermwyr a 200 o ysgolion.

Dyma le fydd y coed yn cael eu tyfu ar gyfer 'The Arsenal Forest' - coetir newydd sy'n cael ei greu gan y clwb pêl-droed o Uwchgynghrair Lloegr er mwyn gwneud yn iawn am beth o'r carbon sy'n cael ei ryddhau wrth brintio eu rhaglenni gemau.

"Mae gan y bobl sy'n byw yma ôl troed carbon bychan iawn," eglurodd merch Mr Hartwell, Anna Douglas - ecolegydd sy'n byw yn Nenmarc ac sydd wedi gwirfoddoli fel rhan o'r prosiect ers y dechrau.

"Dy'n nhw ddim yn gyrru na'n hedfan o gwmpas drwy'r amser fel ry'n ni yn y gorllewin.

"Ond iddyn nhw mae effeithiau newid hinsawdd i'w gweld reit nawr," meddai, gyda chnydau'n ffaelu o ganlyniad i newidiadau mewn patrymau tywydd.

Ffynhonnell y llun, Tim Tyson Short
Disgrifiad o’r llun,

Anna Douglas, sydd wedi gwirfoddoli gyda'r cynllun yn Kenya o'r dechrau

Mae cyllid o Gymru wedi arwain hefyd at blannu 15m o goed yn Uganda yn ystod y degawd diwethaf, gyda Llywodraeth Cymru yn anelu i gyrraedd 25m erbyn 2025.

Mae'r prosiect hwnnw wedi'i leoli yn rhanbarth Mbale, lle mae cyfuniad o newid hinsawdd a datgoedwigo wedi arwain at golli bywydau o ganlyniadau i lifogydd a thirlithriadau yn ddiweddar.

Am bob plentyn sy'n cael ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru - mae coeden yn cael ei blannu yn Uganda, ag un arall 'nôl adre hefyd.

Ond mae gweinidogion wedi'u beirniadu ar sawl achlysur yn ystod y blynyddoedd diwethaf ynglŷn â methiant y llywodraeth i gyrraedd targedau plannu domestig, gyda Chymru ar ei hôl hi yn sylweddol o'i gymharu â gwledydd eraill y DU.

Fe gyhoeddodd y dirprwy weinidog newid hinsawdd Lee Waters yn ddiweddar gynlluniau i blannu 86m o goed yng Nghymru erbyn 2030, gyda phob teulu i dderbyn coeden am ddim i'w blannu yn eu gardd fel rhan o'r ymgyrch.

Pynciau cysylltiedig