Ail-greu profiad efaciwî i blant dinasoedd Lloegr a chefn gwlad Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'n hanes sydd wedi ei ddysgu gan genedlaethau o blant, ond nawr mae rhai wedi cael blas ar sut beth oedd bod yn efaciwî go iawn drwy gael profiad tebyg ar gyfer rhaglen deledu.
Fe adawodd wyth o blant rhwng naw ac 14 oed eu cartrefi yn Lerpwl, Birmingham a Llundain er mwyn byw am gyfnod yn Llanuwchllyn, un o'r nifer fawr o gymunedau wnaeth roi cartref i'r efaciwîs yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ac roedd byd yr 1940au wedi ei ail-greu er mwyn iddyn nhw gael profiad mwy realistig - yn cynnwys bwyd plaen, dillad hen ffasiwn, plant Cymraeg oedd ddim yn siarad llawer o Saesneg… ac wrth gwrs dim ffonau symudol.
"Pan nes i glywed hynny dyna oedd un o'r peth anodda' i fi - dwi bob tro ar fy ffôn," meddai Alex, un o'r rhai fu'n cymryd rhan. Ond roedd yn rhaid dygymod gyda mwy na dim ond diffyg ffôn.
Roedd Alex, o Lerpwl, yn meddwl ei fod o'n adnabod Cymru yn eithaf da ar ôl mwynhau sawl gwyliau ar arfordir y gogledd - tan iddo deithio dros y ffin dros yr haf i ffilmio Efaciwî: Plant y Rhyfel.
Meddai: "Wnaethon ni basio lle 'da ni'n mynd fel arfer am wyliau - Prestatyn a Rhyl, ac wedyn mynd ymlaen. Ro'n i'n edrych allan ac roedd bob dim yn mynd yn fwy a mwy anghyfarwydd - yr holl fynyddoedd a llynnoedd a dyffrynnoedd. Nes i adael Lerpwl yn meddwl 'Dwi'n rhyw fath o adnabod Cymru' - ac yn fuan wedyn meddwl 'Dwi DDIM yn adnabod Cymru'."
Yr iaith
Ond doedd y sioc yn ddim byd o'i gymharu efo'i brofiad yn syth ar ôl cyrraedd Llanuwchllyn - ar drên stêm wrth gwrs - a cheisio cyfathrebu gyda'r plant lleol.
"Doedd gen i ddim syniad am yr iaith Gymraeg, dim cliw," meddai. "Ro'n i'n eistedd lawr a dyma nhw'n dechrau siarad iaith arall a ro'n i fel 'helo?!' Dyna oedd y plant Cymraeg yn siarad. Bydda' nhw wedi gallu bod yn dweud unrhywbeth.
"Wnaethon ni ddechrau dysgu'r iaith, ond doedden i ond yn gallu dweud rhai geiriau. Be' oedd yn ddifyr oedd eu bod nhw'n byw bywyd gwahanol iawn i fi."
Doedd ei gyd-efaciwî Navaeah, sy'n 14 ac yn byw yn ardal Crystal Palace yn Llundain, erioed wedi bod yng Nghymru o'r blaen. Gyda diddordeb mewn hanes a hen ddillad roedd hi'n edrych ymlaen am y profiad - ac wedi mwynhau cymaint mae'n awyddus i symud i Gymru pan yn hŷn.
"Nes i ddysgu ychydig o Gymraeg - dwi'n gwybod geiriau fel diolch, sut wyt ti, awyr las, bore da, nos da," meddai Navaeah (mae ei dyfyniadau hi ac Alex wedi eu cyfieithu o'r Saesneg).
"Nes i garu'r profiad - ro'n i wrth fy modd yn deffro ac yn gweld yr holl olygfeydd hardd.
"Dwi ddim yn gwybod pam, ond dwi wir yn hoffi dysgu am gyfnod y rhyfel - mae'n ddifyr sut oedd y plant adeg hynny yn gorfod mynd trwy gymaint o rwystrau - cymdeithasol ac efo'r iaith, ac i fod i ffwrdd o'u teuluoedd am gymaint o amser."
Un o'r plant lleol oedd yn ei chyflwyno i'r ardal a'r iaith oedd Jini, sy'n byw ar fferm yn Llanuwchllyn. Gan fod cymaint yn llai o ddylanwad Saesneg ar blant cefn gwlad yn ystod cyfnod y rhyfel, roedd y criw cynhyrchu wedi dweud wrth y Cymry i geisio peidio troi i siarad Saesneg gyda'r efaciwîs a chadw at eu hiaith bob dydd.
Meddai Jini: "Roedd rhaid i fi siarad Cymraeg efo nhw, ond weithia' fydden ni'n dweud wrthyn nhw yn Saesneg be' oedd o. Roedd o'n reit anodd i beidio siarad Saesneg efo nhw achos roedd o'n frustrating trio dysgu Cymraeg iddyn nhw."
Ail-greu'r cyfnod
Roedd rhai o'r plant wedi bod yn helpu ei thad gyda'r anifeiliaid, fel byddai wedi digwydd yn ystod y cyfnod, ac eraill yn cael gweld ei cheffylau hi.
Roedden nhw hefyd yn cael profiad o addysg mewn ysgol oedd wedi ei greu'n debyg i rai'r cyfnod. Nest Davies, ysgrifenyddes yn yr ysgol gynradd leol Ysgol OM Edwards, oedd yn chwarae rhan yr athrawes 'Miss Hughes'.
Dywedodd Nest, enillodd y wobr am yr actor orau yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst: "Roedd yn rhaid i mi fod yn fwy stern na'r arfer. Ro'n i'n gweld hynny'n anodd - roedd gen i wên ar fy wyneb rhan fwya' o'r amser.
"Roedd gen i ffon bren ac yn gorfod mynd drwy'r wyddor Gymraeg. Nes i wir fwynhau'r profiad, er mod i'n nerfus, ac yn teimlo mor ffodus o fod yn rhan o'r holl beth, yn enwedig ar ôl yr hyn 'da ni wedi bod drwyddo ers dwy flynedd - roedd hi'n braf gallu chwerthin a sgwrsio a chymdeithasu."
Hiraeth
Ond waeth pa ran oedden nhw'n chwarae, maen nhw i gyd yn cytuno iddyn nhw gael golwg newydd ar hanes.
Meddai Jini: "Ro'n i'n gwybod am y cyfnod cyn ffilmio ond dwi'n meddwl bod ni'n deall mwy rŵan. Achos roedd yr efaciwîs oedd yn dod o Loegr tro yma yn gorfod bod heb eu rhieni am bythefnos ac roedd yn anodd iddyn nhw. Roedd rhai yn 14 oed ac roedde nhw'n iawn mae'n siŵr, ond roedd un, fel Olivia, mond yn naw oed a dwi'n siŵr roedda nhw'n methu mam achos dwi'n gwybod baswn i yn."
Ychwanegodd Alex, sy'n or-or-nai i efaciwîs ddaeth i Gymru: "Roedda ti'n gweld drwy lygaid rhywun arall. Roedd fy modryb, oedd yn efaciwî, wedi dweud wrtha i ba mor anodd oedd bod i ffwrdd o gartref - ond doedda nhw ddim yn mynd dim ond am wythnos neu ddwy.
"Ro'n i'n cael trafferth bod i ffwrdd am 15 diwrnod, ond roedd yr efaciwîs rhyfel i ffwrdd am lot hirach ac yn poeni am eu rhieni adra mewn dinasoedd oedd yn cael eu bomio.
"Pan nes i weld Mam eto ar ddiwedd y ffilmio neshi dorri lawr. Roedd yn rhaid i fi gyffwrdd ei hwyneb a ro'n i'n gofyn 'chdi ydi hwn go iawn?' - ac roedd hi'n edrych mor fodern, efo oriawr, a ffôn… a char!"
Bydd y gyfres Efaciwîs: Plant y Rhyfel ymlaen ar S4C am bedair wythnos o nos Sul 30 Ionawr. Bydd rhaglen ddogfen Efaciwîs: Pobol y Rhyfel ymlaen am 2000 nos Sul 23 Ionawr, ac ar BBC iPlayer ac S4C Clic.