Cofio Blitz Abertawe 80 mlynedd yn ôl

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Strydoedd Abertawe wedi'r blitzFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Archif Gorllewin Morgannwg
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r strydoedd yng nghanol Abertawe a gafodd eu dinistrio yn llwyr

"O ni'n clywed y sŵn rhyfedd o'r awyrennau yn dod ac o ni'n ofnus."

80 mlynedd ar ôl i Abertawe wynebu tair noson o fomio yn olynol, mae "ofn" o'r bomio yn parhau yn fyw yn y cof i'r plant a oroesodd.

Cafodd y dref ei bomio dros 40 gwaith rhwng 1940 a 1943 yn yr Ail Ryfel Byd, ond mae dydd Gwener, 19 Chwefror yn nodi 80 mlynedd ers dechrau cyrch honno yn 1941.

Dros dair noson yn olynol cafodd 230 o bobl eu lladd, bron i 400 eu hanafu, a cafodd canol y dref ei dinistrio.

'Clywed yr awyren a sŵn hissian'

Mae un preswylydd, oedd ond yn chwe mlwydd oed ar y pryd, yn cofio "gweld y fflamau" a mynd i loches cyrch awyr bob nos gyda'i theulu wrth i fomiau syrthio ar y dref.

"Rwy'n cofio Dad yn cario fi mewn i'r shelter o' ni wedi adeiladu ar waelod yr ardd," meddai Marian Jones o Dreforys.

"Mam oedd wedi gwneud gwely bach yn y gornel, ac o' ni ffili deall pam o' ni'n gorfod mynd yng nghanol nos.

"O'dd e'n ofnus achos o' chi ddim yn gwybod lle bydde nhw'n gollwng y boms. O' chi'n clywed yr awyren, a rhyw hissian, ac o' chi'n gwybod bod nhw'n gollwng y boms."

Disgrifiad o’r llun,

Marian Jones: "O' ni'n clywed y sŵn rhyfedd o'r awyrennau yn dod, ac o'n i'n ofnus."

Fe lwyddodd Treforys i osgoi'r gwaethaf o'r dinistr, ond mae Marian yn cofio pobl yn dringo i wylio'r fflamau dros y dre.

"Rwy ddim yn cofio lot yn cael eu bwrw yn Nhreforys, ond be' dwi yn cofio oedd dynion yn mynd lan, lle oeddech chi'n gallu gweld Abertawe, a oedden nhw'n gallu gweld y fflamiau yn glir iawn, a oedd hwnna yn beth ofnadwy i weld."

Targedwyd Abertawe oherwydd ei dociau, a rhan o gynllun ymgyrch fomio'r Almaenwyr oedd mynd i'r afael ag allforion yn ogystal â digalonni pobl gyffredin a'r gwasanaethau brys drwy fomio trefi a dinasoedd.

"Ym Mrwydr Môr yr Iwerydd, roedd Abertawe yn hanfodol bwysig," meddai'r hanesydd Dr John Alban.

"Fe gyhoeddodd Adolf Hitler gyfarwyddeb ym mis Medi 1939 - o'dd Abertawe ymysg y 10 porthladd pwysicaf yn y Deyrnas Unedig - ac fe wnaeth e hi'n glir iawn y byddai angen ymosod ar Abertawe, yn enwedig er mwyn bwrw'r porthladd allan."

Disgrifiad o’r llun,

Ann Rosser: "O'dd lloches gyda ni yn y seler o dan y tŷ"

Roedd Anne Rosser yn byw ym mhentre Gellifedw ger Abertawe adeg y Blitz, ac er ei bod yn ifanc iawn ar y pryd, mae dal yn cofio ychydig o'r bomio.

"Wel y'n atgofion cynta' i erioed oedd cael fy nghario lawr i'r lloches a oedd y lloches gyda ni yn y seler o dan y tŷ," meddai.

"O' nhw'n cymell ni, os oedd seler gyda ni, i wahodd cymdogion mewn, felly o beth wy'n cofio o'dd na ryw hanner dwsin o bobl yna.

"O' chi lawr yna am gyfnod ond wedyn o' ni'n dod nol, o'dd yr all-clear yn dod, hooter gwahanol, ac yn ddiddorol iawn yn y pentre yng Ngellifedw o'dd cloch yr eglwys yn cael ei defnyddio fel siren - eironig iawn bod hwnna yn golygu rhyfel."

Dinistr yn y dre'

Methodd llu awyr yr Almaen - y Luftwaffe - i fomio porthladd Abertawe yn drwm o gwbl. Ond yn anffodus, fe gafodd 41 erw o ganol y dre eu dinistrio yn llwyr.

Cafodd strydoedd cyfan eu dinistrio, gan gynnwys Stryd Teilo ym Mayhill, a gafodd ei osod ar dân gan fomiau incendiary. Y bomiau hynod yma wnaeth achosi'r difrod mwyaf.

Yn ogystal â'r gost ddynol, roedd yr effaith ar isadeiledd Abertawe yn ddychrynllyd, gyda phrif gyflenwad dŵr, nwy a thrydan wedi torri, a bron pob siop bwyd y dre' wedi'u dinistrio dros nos.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Archif Gorllewin Morgannwg
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid dymchwel rhan helaeth o ganol Abertawe oherwydd cymaint oedd y difrod wedi'r bomio

Yn ôl yr hanesydd Dr Dinah Evans roedd Abertawe yn le llewyrchus iawn cyn y bomio.

"Roedd e'n lle lle roedd popeth ar gael. O'dd e'n soffistigedig yn ei ffordd ei hun - roedd pobl yn dod o Sir Benfro, o'r cymoedd o Bort Talbot i mewn i Abertawe oherwydd safon y siopau," meddai.

Yn ôl Dr Evans fe fethodd ymdrechion i atgyfodi Abertawe wedi'r bomio yn rhannol oherwydd bod llywodraeth Clement Attlee yn gwrthod i'r awdurdod lleol ailadeiladu'r dre' fel yr oedd hi cyn y rhyfel.

"Yn enwedig pan ddaeth y Ministry of Town and Country Planning mewn i'r ffrâm - roedd hwnnw yn ministry newydd oedd eisiau i bobl ailadeiladu Prydain fel o' nhw'n meddwl y dylen nhw ailadeiladu Prydain."

Oherwydd hyn, yn ogystal â diffyg arian a diffyg profiad swyddogion y cyngor, cafodd hanes y dre ei thrawsnewid yn llwyr.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Archif Gorllewin Morgannwg
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Stryd y Castell yn edrych yn dra gwahanol yn dilyn y bomio yn 1941

"O'dd y difrod yn ddramatig, achos roedd Abertawe yn dre' lewyrchus iawn - o'dd 'na ysgolion, sinemâu, eglwysi hyfryd, a'r cyfan yn fflat," meddai Marian Jones.

"A'r peth arall rwy'n cofio oedd y siop fawr Ben Evans, 'Harrod's Cymru', a hynny dros nos yn fflat - dim byd ar ôl. Tre' wahanol o'dd hi yn cael ei chodi wedyn."

Ymysg y rheiny a oroesodd felly, mae yna dristwch nid yn unig dros y bobl a fu farw, ond dros ddiflaniad yr Abertawe a fu hefyd.

Pynciau cysylltiedig