Chwe Gwlad 2022: Cymru yn enwi Dan Biggar yn gapten
- Cyhoeddwyd
Mae Dan Biggar wedi ei ddewis yn gapten ar Gymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Ni fydd y capten arferol, Alun Wyn Jones, yn chwarae yn y bencampwriaeth oherwydd anaf.
Y maswr Biggar fydd yn arwain wrth i Gymru amddiffyn y teitl, gyda'r clo Adam Beard yn is-gapten.
Mae'r canolwr Jonathan Davies a'r blaenasgellwr Ellis Jenkins, sydd wedi bod yn gapteiniaid yn y gorffennol, wedi eu cynnwys yn y garfan.
Mae tri enw newydd i'r garfan eleni, y bachwr Dewi Lake a'r blaenasgellwr Jac Morgan o'r Gweilch, yn ogystal â blaenwr Caerdydd, James Ratti.
Yn ogystal ag Alun Wyn Jones, fe fydd Cymru heb sawl enw cyfarwydd, yn cynnwys Justin Tipuric, Ken Owens, George North, Dan Lydiate, Josh Navidi a Leigh Halfpenny.
Dywedodd prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, ei fod "eisiau rhywun sydd wedi profi'r gystadleuaeth sawl tro ac sy'n deall yr heriau" i fod yn gapten.
"Mae gan Dan barch y chwaraewyr eraill a'r rheolwyr felly 'da ni'n meddwl y bydd yn llwyddo."
Fe fydd Cymru'n dechrau eu hymgyrch oddi cartref yn Iwerddon ar 5 Chwefror.
Carfan Cymru:
Blaenwyr: Rhys Carre, Wyn Jones, Gareth Thomas, Ryan Elias, Dewi Lake, Bradley Roberts, Leon Brown, Tomas Francis, Dillon Lewis, Adam Beard, Ben Carter, Seb Davies, Will Rowlands, Christ Tshiunza, Taine Basham, Ellis Jenkins, Jac Morgan, Ross Moriarty, James Ratti, Aaron Wainwright.
Olwyr: Gareth Davies, Kieran Hardy, Tomos Williams, Gareth Anscombe, Dan Biggar (c), Rhys Priestland, Callum Sheedy, Jonathan Davies, Willis Halaholo, Nick Tompkins, Owen Watkin, Josh Adams, Alex Cuthbert, Louis Rees-Zammit, Johnny McNicholl, Liam Williams.
Dadansoddiad Cennydd Davies, sylwebydd BBC Cymru
Gydag anafiadau yn thema amlwg mi oedd dwylo Wayne Pivac i raddau wedi eu clymu.
Yn absenoldeb Alun Wyn Jones a nifer eraill fyddai wedi camu i'r rôl mae'r prif hyfforddwr wedi troi at y profiadol Dan Biggar i arwain, chwaraewr a môr o brofiad a rhywun, yn bwysicach, sy'n sicr o'i le yn y tîm - diddorol a fydd y cyfrifoldeb ychwanegol yn rhoi hwb neu'n ffrwyno ei gêm unigol.
Doedd dim disgwyl rhyw lawer o benderfyniadau annisgwyl ond mae presenoldeb Jac Morgan yn wobr am ei berfformiadau cyson dros y Gweilch eleni, ac er na fyddai nifer wedi clywed am James Ratti - roedd ei berfformiad yn erbyn Alex Dombarant a'r Harlequins nos Wener yn amlwg wedi creu argraff.
Yn yr un modd mae bachwr y Gweilch Dewi Lake â'r potensial i gael dyfodol disglair gyda'r safle hwnnw ymhell o fod yn sicr yn absenoldeb Ken Owens.
Does dim dwywaith mae 'na nifer o farciau cwestiwn ynglŷn â'r garfan bresennol wedi Cyfres yr Hydref digon cymysg, anafiadau a pherfformiadau siomedig y rhanbarthau yn peri gofid, ond roedd hynny i gyd yn wir y llynedd wrth gwrs pan seliwyd y bencampwriaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2022