Sut mae cerddorion Cymru yn gweld y Gymraeg?
- Cyhoeddwyd
Mewn prosiect ar y cyd â Gorwelion mae Cymru Fyw wedi sgwrsio gyda rhai o artistiaid cyfoes y sîn gerddoriaeth yng Nghymru i drafod rhai o'r pynciau sy'n bwysig i'w hunaniaeth nhw a'u proses greadigol.
Un o'r pynciau drafodwyd oedd y Gymraeg. Yw dewis canu'n Gymraeg yn golygu bod llai o gyfleoedd ar gael i artistiaid? Oes gormod o feirniadaeth o'r math o Gymraeg sy'n cael ei defnyddio? Yw'r sefydliadau cenedlaethol yn cofleidio'r Gymraeg yn ei holl ffurfiau? Oes 'na agwedd 'elitaidd' ynghlwm â chanu yn Gymraeg ac elfen o feirniadaeth am ddewis canu'n Saesneg?
Dyma ddim ond rhai o'r cwestiynau drafododd cyfranwyr y prosiect: Izzy Rabey, Cat Morris, a Greta Isaac. Gwyliwch y fideo i wylio'r drafodaeth:
Hefyd o ddiddordeb: