Sut mae bod yn greadigol yn helpu gyda iechyd meddwl?
- Cyhoeddwyd
Cyffrous - dyna un gair gellir ei ddefnyddio i ddisgrifio y sîn gerddoriaeth yng Nghymru. Mae'r artistiaid yr un mor niferus ac amrywiol â'r cynnyrch sy'n cael ei ryddhau'n wythnosol. Mae mwy a mwy o artistiaid yn torri cwys eu hunain ac yn mynd ag enw â thalent Cymru ymhell tu hwnt iddi.
Felly pa well amser i eistedd i lawr gyda rhai ohonynt a thrafod rhai materion sydd o bwys iddynt?
Mewn prosiect ar y cyd â Gorwelion mae Cymru Fyw wedi sgwrsio gyda rhai o artistiaid cyfoes y sîn gerddoriaeth yng Nghymru i drafod rhai o'r pynciau sy'n bwysig i'w hunaniaeth nhw a'u proses greadigol.
Bydd cyfres o fideos sy'n edrych ar bynciau fel yr iaith Gymraeg, bod yn fenyw yn y diwydiant, cynrychiolaeth LHDT+, hygyrchedd ac iechyd meddwl yn cael eu rhyddhau dros yr wythnosau nesaf.
Mae gan Gorwelion berthynas gref gyda llawer o artistiaid o Gymru gan fod y cynllun yn cefnogi artistiaid drwy y Gronfa Lansio - cynllun ariannol i helpu gyda datblygu'r bandiau a'r cerddorion.
Perspectif newydd
Bethan Elfyn sydd wrth lyw cynllun Gorwelion, ac am y prosiect hwn fe ddywedodd: "Mae'r pynciau llosg yma a 'chydig o'r pryder sy'n wynebu artistiaid yn bwysig i'w drafod - beth yw pwysigrwydd yr iaith, diffyg cyfleoedd i ferched, sut i uniaethu ag eraill mewn byd digidol, beth yw effaith y pandemig ar iechyd meddwl y genhedlaeth.
"Megis dechrau yw'r ymrafael hwn â'r pynciau ond mae hi wedi bod yn bwysig gwrando, a dechrau gweld perspectif newydd trwy lygaid rhai o artistiaid Cymru."
Iechyd meddwl
Ar ddechrau blwyddyn newydd fel hon, bydd sawl person yn gwneud addunedau ynglŷn a sut i fod yn iachach, yn fwy heini a mwy cynhyrchiol - tri pheth sy'n cael dylanwad enfawr ar iechyd meddwl unigolyn. Dyna pam mai iechyd meddwl yw testun fideo cyntaf y gyfres.
Yn siarad yn onest ac agored am eu profiadau nhw am sut mae cerddoriaeth a'r broses greadigol yn eu helpu nhw drwy'r heriau mae Cat Morris (Kathod), Katie Hall (CHROMA), Dead Method, a Greta Isaac.
Dywedodd Katie Hall o'r band CHROMA: "Os bysen i ddim efo cerddoriaeth, neu ganu neu'r stwff arall fi'n 'neud i kind of teimlo'n dda, sai'n meddwl bysen i yma. Geniuinely sai'n meddwl bysen i yma."
Roedd y cerddor Greta Isaac yn dweud bod cael ysgrifennu am bethau anodd yn helpu iddi edrych ar bethau'n fwy gwrthrychol: "Mae gweld [iechyd meddwl] trwy lens eitha' creadigol yn eitha' therapeutic i fi dw i'n meddwl. Fi'n meddwl bod gallu gwneud hwnna - trio versions gwahanol o fy hun ymlaen a chwarae dress-up trwy gân - yn therapeutic achos ti'n cael subjective view o bwy wyt ti. Mae hwnna wedi bod yn really helpful i fi."
I Dead Method, perfformiwr o Gaerdydd, gallu rhoi pethau lawr ar bapur a chreu rhywbeth y mae modd ei rannu ag eraill yw ei "creative outlet".
Deuoliaeth y cyfryngau cymdeithasol
Yn aml iawn, mae perfformwyr yn dibynnu llawer ar y cyfryngau cymdeithasol i rannu eu gwaith, yn enwedig ar ddechrau eu gyrfa. Ond mae'r cyfrwng yn gallu bod yn niweidiol iawn i iechyd meddwl unigolion.
Ond mae Cat Morris o'r grŵp creadigol Kathod yn credu bod gan y platfformau hynny eu rhinweddau: "Yn eironig, dwi'n teimlo bod pobl wedi dechrau siarad mwy am iechyd meddwl achos y rhwydweithiau cymdeithasol. Dwi'n dweud eironig achos mae hwnna'n broblem enfawr i iechyd meddwl pobl ond mae fe'n agor lan y drws i bobl eraill allu dweud be' ydy eu gwir nhw."
Ac wrth i bobl ddechrau siarad a bod yn agored am eu teimladau a'r heriau maen nhw'n eu hwynebu, dywedodd Greta: "Beth sy'n bwysig pan 'dach chi'n siarad am rhywbeth sydd mor delicate â iechyd meddwl yw eich bod chi'n teimlo'n saff a bod cymuned cryf yna i edrych ar ôl chi pan mae pethau'n mynd yn rhy anodd."
Os ydych chi'n cael eich effeithio gan broblemau iechyd meddwl mae rhestr o bobl y gallech chi siarad â nhw ar gael yma.
Hefyd o ddiddordeb: