Cannoedd mewn gwylnos i gofio athrawes fu farw
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o bobl wedi cynnal gwylnos yng Nghaerdydd yn dilyn marwolaeth dynes 23 oed yn Iwerddon.
Roedd Ashling Murphy, athrawes 23 oed, allan yn rhedeg pan fu farw. Cafwyd hyd i'w chorff yn nhref Tullamore ddydd Mercher diwethaf.
Dywedodd trefnydd y digwyddiad yng Nghaerdydd bod y farwolaeth wedi gwneud i fenywod deimlo'n anghyfforddus.
Mae'r heddlu Iwerddon wedi cyhuddo dyn 31 oed, Jozef Puska o Tullamore, o lofruddiaeth Ms Murphy.
Daeth tua 300 i gofio Ms Murphy yn ardal Grangetown, cyn i rai fynd i redeg yn yr ardal "er mwyn dangos bod cymuned Caerdydd yn dweud bod gan fenywod yr hawl i fyw yn ddiogel".
Yn debyg i'r teimladau a darodd cymunedau yn dilyn marwolaeth Sarah Everard yn Llundain llynedd, mae'r achos diweddaraf wedi creu "galar a dicter", meddai'r trefnydd, Katie Elin-Salt.
"Dy'n ni yma i sefyll fel cymuned ochr yn ochr ag Ashling Murphy a'i theulu, a'r rhai oedd yn ei charu," meddai.
"Dy'n ni yma'n bennaf i'w chofio ac i alaru, a dy'n ni yma hefyd i sefyll gyda phob menyw i ddangos bod cymuned Caerdydd yn dweud bod gan fenywod yr hawl i fyw yn ddiogel."
Un o'r rhai oedd yn yr wylnos oedd Elan Richards o Gaerdydd, a ddywedodd bod menywod yn gorfod ystyried y risg wrth fynd i redeg bob tro.
"Os yw hi'n dywyll 'wna i ddim rhedeg yn y parc," meddai.
"Dwi'n hyfforddi ar gyfer marathon felly dwi'n gorfod rhedeg ar ôl gwaith. Dwi'n rhedeg gyda golau. Dwi'n rhedeg gyda fy ffôn, un clustffon i mewn a'r llall allan.
"Dwi'n dweud wrth bobl i ble dwi'n mynd a phryd y bydda i 'nôl."
Dywedodd un arall, Jane Cohen o Gaerdydd, ei bod "mor drist bod menywod yn teimlo ofn wrth fynd mas ar ben eu hunain - yn enwedig gyda'r nos - ond dwi'n gwybod fy mod i".
Ychwanegodd y fam i ddau ei bod yn ceisio osgoi unrhyw ardaloedd sy'n dywyll neu ble nad oes llawer o bobl o gwmpas.
"Dwi'n cofio cerdded yn ôl o orsaf Caerdydd yn hwyr iawn un noson a theimlo bod rhywun yn fy nilyn," meddai.
"Cerddais mor sydyn â phosib at fy nghar a neidio i mewn a chloi'r drws.
"Roedd yn deimlad ofnadwy."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2021