Pont Britannia: Cyhoeddi mai dyn o ardal Amlwch fu farw
- Cyhoeddwyd
Dywed Heddlu'r Gogledd mai dyn 52 oed o ardal Amlwch fu farw yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar Bont Britannia yn oriau mân fore Iau.
Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i'r digwyddiad - rhwng dwy lori a dau gar - ar yr A55 am 02:56.
Bu farw gyrrwr un o'r ceir, ac mae gyrrwr y car arall yn Ysbyty Gwynedd gydag anafiadau difrifol.
Mae gyrrwr un o'r lorïau, a gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth ac anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus, wedi cael ei rhyddhau dan ymchwiliad.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod tri chriw wedi eu hanfon i'r digwyddiad.
Cafodd y criwiau gymorth ambiwlans awyr a cherbyd ymateb brys.
Apelio am wybodaeth
Dywed Heddlu'r Gogledd bod y ffordd i gyfeiriad y dwyrain wedi agor toc cyn 12:30 a bod un lon o'r ffordd i gyfeiriad y gorllewin wedi ailagor ychydig wedi 16:00.
Dywedodd y Sarjant Jason Diamond o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae ein hymholiadau yn parhau ac rydym yn apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio ar yr A55 toc cyn y gwrthdrawiad am 03:00 neu a allai fod â recordiad o gamera cerbyd i gysylltu â ni.
"Rwy'n ymwybodol o'r oedi sydd wedi bod ddydd Iau ac rwy'n diolch i yrwyr am eu hamynedd.
"Gydol y dydd ry'n wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i agor y ffordd cyn gynted â phosib."
Mae perthnasau agos y dyn fu farw wedi cael gwybod am ei farwolaeth ac maent yn cael cymorth gan swyddog arbenigol.