Cymru i gystadlu yng Nghwpan Pinatar am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Merched Cymru'n dathluFfynhonnell y llun, Kunjan Malde/FAW
Disgrifiad o’r llun,

Bydd capten Cymru, Sophie Ingle, yn cystadlu yn y gwpan am y tro cyntaf

Bydd Cymru'n cystadlu yng Nghwpan Pinatar am y tro cyntaf eleni, gan chwarae tair gêm ryngwladol ym mis Chwefror.

Bydd carfan Gemma Grainger yn chwarae tair gêm mewn wythnos i geisio cyrraedd y rownd derfynol.

Wrth baratoi ar gyfer gweddill eu gemau yn yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd, bydd Cymru'n teithio i Sbaen i wynebu'r Alban ar 16 Chwefror yn gyntaf.

Gwlad Belg neu Slovakia fydd yr ail wrthwynebwyr ar 19 Chwefror.

Rwsia, Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Iwerddon neu Hwngari fydd y gwrthwynebwyr ar 22 Chwefror.

Ar hyn o bryd, mae tîm Grainger yn yr ail safle yn y grŵp rhagbrofol yn dilyn blwyddyn dda i'r garfan.

'Profiad gwych'

Dywedodd Grainger eu bod yn "edrych ymlaen" at gystadlu yng Nghwpan Pinatar am y tro cyntaf.

"Bydd y tair gêm yn gyfle i ni barhau gyda'n paratoadau i gyrraedd pencampwriaeth Cwpan y Byd.

"Mae'n gyfle i ni chwarae yn erbyn timau cryf, rhywbeth ni'n edrych i wneud pryd bynnag sy'n bosib," ychwanegodd.

"Fydd e'n awyrgylch dda i ni i ddod yn gyfarwydd â chwarae nifer o gemau mewn amser byr, sydd yn brofiad gwych ar gyfer y pencampwriaethau mawr, ar ac oddi ar y cae."

Pynciau cysylltiedig