2022 yn argoeli'n brysur i'r cerddor Marged Sion
- Cyhoeddwyd
Roedd 2021 yn flwyddyn fawr i Marged Sion o Gaerdydd.
Mae hi'n aelod o'r band pop arbrofol, Self Esteem ers 2018, ond dros y deuddeg mis diwethaf mae'r band wedi ennill llwyth o ganmoliaeth yn dilyn rhyddhau ail albym y band, Prioritise Pleasure.
Meddai ar raglen Byd Huw Stephens ar BBC Radio Cymru: "Fi 'di bod yna o'r dechre rili, so mae e 'di bod yn amazing gweld sut ma' fe 'di tyfu a gweld sut mae pawb wedi ymateb i'r ail record."
Mae'n obeithiol y bydd yr albym yn cael enwebiad ar gyfer y wobr Mercury eleni gan fod geiriau Rebecca Lucy Taylor, sylfaenydd a phrif leisydd Self Esteem mor bwerus a phwysig.
Mae ganddyn nhw flwyddyn brysur arall o'u blaenau gyda thaith ar draws Prydain a dyddiadau yn Efrog Newydd, Los Angeles a gŵyl South By South West yn Texas ym Mis Mawrth. Bydd tymor y gŵyliau cerddorol yn un prysur, heb sôn am daith arall ddiwedd y flwyddyn.
Mis Tachwedd llynedd cafodd Marged y cyfle i berfformio gyda Self Esteem yng Nghlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd, profiad od iddi wrth i'r gynulleidfa weiddi ei henw arni. "O'n i mor embarrassed…mae 'na dynamic o fewn y grŵp lle ni'n gwbod 'na Rebecca is Self Esteem, reit, so o'n i'n teimlo'n rili anghyfforddus bo fi'n cael gymaint o'r limelight."
Ond yn ystod y daith ym mis Mawrth gyda'r band, Marged fydd yn cefnogi Self Esteem fel artist unigol. Mae hi wrthi'n gweithio ar gerddoriaeth newydd unigol, ac yn credu bod ei cherddoriaeth wedi newid dipyn ers iddi ryddhau'n unigol ddiwethaf. Meddai:
"Y tro yma fi'n rili meddwl am be fi'n neud ac yn cymryd ysbrydoliaeth o fod yn Self Esteem a wir cymryd ownership dros be fi'n ysgrifennu a meddwl am be fi eisiau dweud…a trystio'n hunan lot mwy am y penderfyniadau fi'n neud."
Mae'n gobeithio rhyddhau ei cherddoriaeth newydd ddiwedd y flwyddyn cyn belled â bod popeth yn disgyn i'w le.
Hefyd o ddiddordeb: