Y Vic, Porthaethwy: Llwyfan i enillwyr Grammy

  • Cyhoeddwyd
cerddoriaethFfynhonnell y llun, Owen Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Meic Stevens, Oscar Tellez a Flaco Jiménez yn rhoi sesiwn yn y bar ar ôl gig yn Y Vic. Mae Flaco, enillydd gwobr Cyfraniad Oes yng ngwobrau'r Grammys yn 2015, wedi dychwelyd i'r Vic i berfformio sawl tro ers ei gig cynta' yno yn 1986

Wyddoch chi fod y gantores Rhiannon Giddens, y gitarydd Albert Lee a'r cerddor Tex-Mex, Flaco Jiménez, tri o enillwyr gwobrau Grammy wedi chwarae yng Ngwesty Victoria ym Mhorthaethwy?

Ers yr 1980au mae 'stafell fechan yn y Vic wedi denu mawrion o'r sîn blues, canu gwlad, cajun, gwerin, jazz a mwy.

Yn gyfrifol am drefnu'r gigs chwedlonol roedd Owen Hughes, cerddor a chyn-berchennog siop gerddoriaeth Cob Records, Bangor.

Ond bu'n ddiwedd cyfnod i Owen a pherchennog y Vic ers degawdau, Anne Smeaton, ar 21 Tachwedd 2021, wrth i Anne gau drws y Vic am y tro olaf.

Cymru Fyw fu'n hel atgofion gydag Owen am ddegawdau o riffio, drymio, dawnsio a joio yn nosweithiau'r Vic.

Ffynhonnell y llun, Gareth Wynne-Williams
Disgrifiad o’r llun,

Owen Hughes fu'n trefnu gigs yng Ngwesty Victoria, Porthaethwy gan gyflwyno'r ardal i gerddoriaeth o bob cwr o'r byd

The Jukes: Dechrau'r daith

Dechreuodd y cyfan yn ystod gwyliau haf 1984. Ar y pryd, â'r Vic dan berchnogaeth Anne Smeaton ers 1978, roedd nosweithiau jazz rheolaidd yn cael eu cynnal gan Gymdeithas Jazz Gogledd Cymru.

Yn ystod gwyliau'r haf y flwyddyn honno, cymrodd y nosweithiau jazz seibiant a manteisiodd Owen a'i gyd-aelodau yn y band blues ac R&B The Jukes ar y cyfle i lenwi'r slot chwe wythnos.

Meddai Owen am y noson gyntaf honno: "Aeth y noson i lawr mor dda wnaethon ni 'neud o bob nos Fercher am bron i 10 mlynadd! O 1984 tan 1993 oeddan ni wrthi. Roedd hi'n heaving yna, yn enwedig yn yr '80au. Oedd o cyn i dancemusic gyrraedd, os oedd pobl isio dawnsio bop dyna be' oedd o, stwff i ddawnsio."

Ffynhonnell y llun, Humphrey Davies
Disgrifiad o’r llun,

The Jukes yn eu dyddiau cynnar; Pete Walton - bâs a llais cefndir, Owen Hughes - drymiau, Alan Williams - gitâr, John Wilce - gitâr, Dennis Carr - llais a harmonica

Drannoeth y Ffair

Pwy sy'n cofio'r rhaglen gerddoriaeth Drannoeth y Ffair ar S4C yn yr 1980au? Y syniad oedd cynnal gigs byw a'u darlledu ar y sgrin fach.

Roedd Owen yn ffan o'r artist Tex-Mex, Flaco Jiménez o Texas, ac wedi ei weld mewn gig yn Llundain cyn ei berswadio i ddod i Gaernarfon yn 1985 i ddiddanu torf Drannoeth y Ffair yn The Majestic, Caernarfon.

"Roedd 'na bob math o artistiaid ar Drannoeth y Ffair, enwau reit fawr fel Flaco a bandiau Cymraeg fel Jarman a'r Anhrefn," meddai Owen.

"Oedd Flaco wedi cael gymaint o amsar da yn chwara' yno, ddeudodd o y basa fo wrth ei fodd yn dod 'nôl felly wnes i a chwpl o ffrindia' feddwl ella fysa ni'n gallu trefnu cael Flaco a'i fand yn y Vic yn Borth, a dyna wnaethon ni."

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube gan Ffarout

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube gan Ffarout

Fyth ers i rhythmau Flaco godi to'r Vic ar 6 Awst 1986 gyda'i gerddoriaeth sy'n cyfuno dylanwadau Mecsicanaidd ac Americanaidd, bu Owen yn cynnal gigs rheolaidd yn y Vic hyd nes i'r pandemig daro'r wlad yn 2020.

Ffynhonnell y llun, Owen Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Flaco Jiménez a'i fand yn codi'r to yn Y Vic ar 6 Awst, 1986 - ei ymweliad cyntaf o lawer yno

Y Vic, Porthaethwy

"Mi oedd y Vic yn gadael i mi gael y 'stafall am ddim ac wedyn o'n i'n trefnu, bwcio band a rhoi cyhoeddusrwydd. Oedd rhai o'n ffrindia' eraill i yn rhan o'r peth hefyd, a Pete Walton oedd yn gwneud y PA, yn llwyddo i gael sain dda o'r stafall.

"Roedd lot o fandia'n licio bod popeth ar leoliad; oeddan nhw yn gallu aros yn y gwesty, bwyta yna, gwneud soundcheck ac yna rhoi'r gig ymlaen. Hefyd mi oedd yr artistiaid wrth eu boddau efo'r olygfa o'r Fenai."

Owen Hughes
Mi oedd Anne a'r staff yn gefnogol iawn o'r peth."

Law yn llaw â threfnu'r nosweithiau yn y Vic roedd Owen yn berchennog siop gerddoriaeth Recordiau'r Cob ym Mangor. Yn yr un modd ag y byddai'n defnyddio ei chwaeth gerddorol i ddewis recordiau, tapiau a chryno-ddisgiau i'r siop, byddai'n defnyddio ei chwaeth unigryw i ddewis artistiaid i berfformio'n y Vic.

"Ro'n i'n dewis pobl o'n i isio gweld yn chwara'n fyw, a gobeithio y basa pobl eraill yn mwynhau nhw hefyd. O ran y math o fiwsig; wnes i ddechrau trwy gynnal nosweithiau cerddoriaeth Roots; y math o fiwsig sy'n dod o dde'r Unol Daleithiau; blues, country, cajun ac yn y blaen," meddai.

Ffynhonnell y llun, Owen Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Steve Eaves, y diweddar gerddor blues a gospel Leo 'Bud' Welch ac Owen yn Y Vic yn 2016. Roedd Leo o Mississippi yn 84 ar y pryd

"Ond gathon ni fandia' o Affrica hefyd, a rhywfaint o stwff gwerin a Chymraeg fel Alun Tan Lan, Steve Eaves, Lleuwen a 9Bach.

Ffynhonnell y llun, Owen Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Cerddoriaeth Rango, Sudanese Voodoo yn Y Vic yn 2009

"Be' oedd yn gyfleus am y Vic hefyd oedd ei fod o'n le da i chwara' os oedd rhywun ar y ffordd i Iwerddon neu ar y ffordd 'nôl efo porthladd Caergybi mor agos. Dyna ddenodd Albert Lee i chwarae yn y Vic, un o'r gitarwyr gora yn y byd. Mae o wedi gigio yno sawl gwaith."

Ffynhonnell y llun, Gareth Wynne-Williams
Disgrifiad o’r llun,

Albert Lee, enillydd gwobrau Grammy yn 2002 a 2009 am berfformiad offerynnol 'gwlad'

Rhagor o fawrion Y Vic...

Ffynhonnell y llun, Gareth Wynne-Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhiannon Giddens o De Carolina, enillydd Grammy am yr Albwm Werin Draddodiadol Orau yn 2011 wedi ei henwebu am ddwy o wobrau Grammy 2022. Daeth i'r Vic i berfformio yn 2008 ac fe ddysgodd ganu Ar Hyd y Nos. Mae hi wrth ei bodd â Chymru gan bod pobl yn gwybod sut i ynganu ei henw

Ffynhonnell y llun, Owen Hughes
Disgrifiad o’r llun,

The Jukes gyda Guitar Shorty yn Y Vic; gitarydd tanllyd ac angerddol oedd hefyd yn frawd yng nghyfraith i Jimi Hendrix

Ffynhonnell y llun, Owen Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Dennis Carr, y cerddor R&B Nappy Brown, a John Woods yn mwynhau ar ddiwedd gig yn Y Vic

Ffynhonnell y llun, Gareth Wynne-Williams
Disgrifiad o’r llun,

Y gantores a'r gyfansoddwraig o Texas, Carrie Rodriguez

Diwedd cyfnod

Y noson olaf i Owen ei chynnal yn y Vic oedd ar 9 Chwefror 2020 gyda'r artistiaid o Ganada, Joe Newberry a April Verch.

Disgrifiad o’r llun,

Joe Newberry ac April Verch, y rhai olaf i chwarae yn Y Vic, Chwefror 9fed 2020

Daeth y nosweithiau i ben am y tro yn sgil pandemig Covid-19; rhywbeth sydd wedi cael effaith andwyol ar fiwsig byw yn ein cymunedau yn ôl Owen:

"Mae cerddoriaeth fyw wedi cael ei hamro go iawn. Does 'na ddim pres mewn gwerthu CDs ac ati dyddia' yma achos mae pawb yn ffrydio ar-lein. Mae pres llawar o artistiaid yn dod o chwarae'n fyw a gwerthu CDs mewn gigs.

"Mi fasa'n dda meddwl y bydd cerddoriaeth fyw yn dychwelyd i'r Vic yn Borth pan fydd y lle'n ailagor gan Greene King Brewery, ond a fydd trefnu'r nosweithiau gyda chwmni mawr mor gyfleus ag y bu dan ofal Anne Smeaton? Gawn ni weld..."

Ffynhonnell y llun, Tynwyd yng Ngwesty Victoria
Disgrifiad o’r llun,

Jimmy Johnson ac Anne Smeaton, perchnogion Gwesty Victoria, Porthaethwy dros y degawdau diwethaf ar eu diwrnod olaf yno

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig