'Geni heb gymorth meddygol yn teimlo'n fwy diogel'
- Cyhoeddwyd
Mae menyw wedi dweud iddi ddewis rhoi genedigaeth yn ei chartref heb gymorth meddygol gan ei bod hi'n teimlo mai dyma oedd yr opsiwn mwyaf diogel.
Dywedodd Jocelyn, 35, y dewisodd hi enedigaeth rydd (freebirth) wedi iddi deimlo fod yna ormod o ymyrraeth feddygol yng ngenedigaeth ei phlentyn cyntaf.
O'r 1,700 o bobl fu'n rhan o astudiaeth yn y DU yn 2020, dywedodd 4% eu bod wedi ystyried genedigaeth rydd o ddifrif, gydag un o awduron yr astudiaeth yn honni bod prinder bydwragedd yn golygu fod rhoi genedigaeth yn beryglus.
Ond dywedodd elusen genedigaeth fod genedigaethau rhydd yn peryglu bywydau mamau a babanod.
Dywedodd Kim Thomas, prif weithredwr y Gymdeithas Trawma Genedigaeth: "Rydyn ni'n annog menywod yn gryf i beidio â chael eu tynnu mewn gan bobl sy'n hyrwyddo golwg ddelfrydol o enedigaeth rydd ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Mae rhoi genedigaeth yn beryglus, ac mae rhoi genedigaeth heb fydwraig neu feddyg yn peryglu bywydau'r fam a'r babi."
Fe wnaeth Coleg Brenhinol y Bydwragedd ategu sylwadau Ms Thomas, gan ddweud bod cael bydwraig yno'n lleihau'r perygl i'r fam a'r babi.
Ychwanegodd Dr Pat O'Brien o Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynecolegwyr y gallai gofal meddygol fod yn hanfodol os oes problemau gyda'r enedigaeth, fel y fam yn gwaedu'n drwm neu fod angen cymorth ar y babi i anadlu.
'Moment brydferth i'r teulu'
Dywedodd Jocelyn o Gaerdydd iddi roi genedigaeth i'w hail blentyn ym mis Hydref mewn pwll geni yn ei chartref.
Yn bresennol oedd ei gŵr, eu merch pump oed a'i doula - person sy'n rhoi cymorth i fenywod roi genedigaeth.
"O'dd e'n teimlo mor normal... o'dd e'n foment brydferth i ni fel teulu," meddai.
Ar ôl rhoi genedigaeth i'w phlentyn gyntaf mewn ysbyty yn Lloegr, fe benderfynodd Jocelyn: "Byth eto."
"Des i allan o'r peth yn teimlo fel fy mod i heb gael fy mharchu," meddai.
Ychwanegodd bod "ymyrraeth feddygol, a hyd yn oed arsylwi meddygol, yn rhwystro'r broses o enedigaeth naturiol".
Ond roedd hi hefyd yn poeni am y pwysau ar fydwragedd o fewn y GIG, a'r prinder ohonynt.
"Mi fyswn i'n dewis cael gofal cyson gan fydwraig dros enedigaeth rydd bob tro, ond doedd hynny ddim yn opsiwn," meddai.
Ychwanegodd bod cyfyngiadau Covid hefyd yn rhan o'i phenderfyniad, am ei bod yn dymuno i'w merch fod yn bresennol.
Dywedodd Jocelyn ei bod wedi gyrru e-bost at bennaeth bydwreigiaeth ei bwrdd iechyd yn gofyn iddyn nhw "stopio unrhyw nonsens gwaith papur".
Fe wnaeth hi dderbyn ymateb yn dweud bod y bwrdd iechyd yn parchu penderfyniadau menywod ac yn ei gwahodd am sgwrs, meddai, ond ni wnaeth hi anfon neges yn ôl.
Yn hytrach, fe wnaeth Jocelyn brynu peiriant pwysau gwaed i arsylwi ar ei hun yn ei chartref.
Fe ymunodd hi ag astudiaethau beichiogrwydd lle'r oedd ei hiechyd yn cael ei arsylwi, sicrhaodd ei bod yn ymwybodol o symptomau problemau beichiogrwydd, ac fe dalodd hi am sgan anomaledd 20 wythnos preifat.
Dywedodd Jocelyn y byddai hi wedi gallu gyrru i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd o fewn 10 munud petai unrhyw broblemau wedi codi wrth iddi roi genedigaeth.
Nid yw hi'n anghyfreithlon i roi genedigaeth heb fydwraig neu weithiwr meddygol proffesiynol yn bresennol, ond mae hi'n anghyfreithlon i unrhyw un sydd yn bresennol i fabwysiadu rôl bydwraig neu feddyg yn ystod yr enedigaeth, oni bai ei fod yn argyfwng.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro: "Rydyn ni'n ymddiheuro nad oedd Jocelyn yn hapus gyda'r ddarpariaeth o ofal oedd ar gael ac yn teimlo nad oedd yn ateb ei hanghenion hi."
Fe anogodd y llefarydd i bobl drafod eu hopsiynau gyda'u bydwragedd, a dywedodd y byddai cynlluniau geni'n parhau i gael eu dilyn "ond mewn rhai achosion efallai y bydden nhw mewn amgylchedd gwahanol".
Cafodd yr uned bydwreigiaeth a'r gwasanaeth genedigaeth gartref eu cau dros dro ar adegau yn ystod y pandemig "er mwyn sicrhau ein bod ni'n parhau i ddarparu gofal diogel, effeithiol, a safonol" meddai, ond eu bod ar agor ar hyn o bryd.
'Perygl yn amlwg'
Mae Dr Mari Greenfield yn gymar yn King's College yn Llundain, ac mae ei gwaith yn canolbwyntio ar wasanaethau mamolaeth.
Fe wnaeth hi gynnal arolwg ar-lein rhwng 10-24 Ebrill 2020, oedd ar agor i bobl yn nhrydydd tymor eu beichiogrwydd, rheiny oedd wedi rhoi genedigaeth ers dechrau'r cyfnod clo yn y DU, a phartneriaid y bobl hyn.
O'r 1,700 o bobl wnaeth ymateb, dywedodd 72 eu bod wedi ystyried genedigaeth rydd o ddifrif.
Roedd eu rhesymau'n cynnwys dymuno osgoi ysbytai, peidio â gallu cael eu partner gyda nhw yn ystod yr enedigaeth, diffyg mynediad at byllau geni a diffyg gofal plant yn ystod y pandemig.
Dywedodd Dr Greenfield fod gwasanaethau mamolaeth y GIG wedi cyrraedd "pwynt argyfwng".
"Y broblem fwyaf ar hyn o bryd yw nad oes digon o fydwragedd ar gyfer y nifer o fabanod sy'n cael eu geni," meddai.
Mae cymaint o bwysau ar fydwragedd nad ydyn nhw'n gallu cynnig gofal addas, meddai, ac mae'r perygl yn "amlwg".
"Mae pobl yn ystyried genedigaeth rydd nid oherwydd dyna yw eu dewis cyntaf, sy'n fater gwahanol, ond am eu bod nhw mor ofnus o sefyllfa gwasanaethau mamolaeth."
'Ddim yn ymddiried yn y gwasanaethau'
Dywedodd Samantha Gadsden, doula o Gaerffili sy'n cefnogi menywod ar draws y DU, fod mwy o fenywod yn rhoi genedigaeth ar eu pen eu hunain - ond nid wastad o ddewis.
"Mae genedigaeth gartref ar gynnydd, yn ogystal â phopeth arall - genedigaeth mewn maes parcio, cyn i fydwraig gyrraedd, mewn ambiwlans - popeth sy'n digwydd pan nad yw bydwreigiaeth wedi ei staffio'n iawn," meddai.
"Roeddwn i'n arfer siarad am enedigaeth rydd i'r bobl oedd wedi dewis genedigaeth rydd - ond nawr dwi'n siarad amdano fe fel paratoi i roi genedigaeth ar ben dy hun... oherwydd dydyn ni methu cynnig sicrwydd y bydd gennych chi rywun gyda chi bellach."
Ychwanegodd bod rhai menywod "ddim yn ymddiried mewn gwasanaethau mamolaeth, ac i ddweud y gwir, alla i ddim eu beio nhw".
"Mae bydwragedd ar y cyfan yn gwneud eu gorau - mae hyn oherwydd system sydd heb roi digon o staff nac adnoddau iddyn nhw, a nawr ry'n ni'n gweld effaith hynny."
Rhaid gwneud 'penderfyniad cytbwys'
Dywedodd cyfarwyddwr Cymru Coleg Brenhinol y Bydwragedd, Helen Rogers: "Er ein bod ni'n cydnabod a pharchu hawl pob dynes i ddatblygu cynllun geni sy'n gywir iddi hi, dydyn ni ddim yn credu y dylai hi ddymuno peryglu ei hiechyd hi na'i babi trwy geisio rhoi genedigaeth heb gymorth gweithiwr meddygol proffesiynol."
Ychwanegodd y dylai menywod deimlo sicrwydd fod bydwragedd a staff mamolaeth yn "gwneud popeth yn eu gallu er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i dderbyn gofal diogel a safonol".
Yn ôl Dr O'Brien, "fe ddylai pob dynes gael yr hawl i roi genedigaeth mewn amgylchedd lle maen nhw'n teimlo'n gyfforddus, ac fe ddylen nhw gael eu cefnogi yn eu penderfyniadau".
Dywedodd ei bod yn bwysig fod menywod yn "gwbl ymwybodol" o beryglon a buddiannau rhoi genedigaeth mewn gwahanol leoedd er mwyn iddyn nhw wneud "penderfyniad cytbwys".
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i ddarparu gofal mamolaeth safonol, gan gynnwys gofal bydwraig un i un ar gyfer genedigaeth, a bod cyfleoedd hyfforddiant i fydwragedd wedi dyblu dros y pum mlynedd ddiwethaf.
Ychwanegodd fod byrddau iechyd wedi asesu darpariaeth gwasanaethau mamolaeth trwy gydol y pandemig er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn safonol.
"Ar adegau pan mae hyn wedi galw am ganoli gwasanaethau i unedau ymgynghorwyr, mae bydwragedd wedi gweithio gyda theuluoedd i sicrhau eu bod nhw'n cael profiadau geni positif," meddai llefarydd.
Beth yw sefyllfa gwasanaethau mamolaeth drwy Gymru?
Bae Abertawe: Mae'r gwasanaeth genedigaeth gartref a'r ganolfan geni bydwragedd ger Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn parhau ar gau, ond dywedodd y bwrdd iechyd fod cynlluniau mewn lle i ailagor pob gwasanaeth yn y dyfodol agos. Ychwanegodd y bwrdd iechyd eu bod yn dechrau gweld y sefyllfa staffio'n gwella rhywfaint. Mae modd i bartner fynychu apwyntiadau cyntaf, apwyntiadau ar gyfer gwneud penderfyniadau, sgan beichiogrwydd cynnar ac 20 wythnos, a'r enedigaeth a phrosesau sydd wedi eu cynllunio fel toriad Cesaraidd. Yn dilyn yr enedigaeth, mae modd i'r partner ymweld â'r ysbyty am ddwy awr bob dydd os yn cynllunio o flaen llaw.
Hywel Dda: Mae genedigaethau cartref ac unedau bydwragedd yn parhau fel yr arfer. Mae modd cymryd un person gyda chi ar gyfer pob apwyntiad, a sgan cyn yr enedigaeth. Gall partner fod yn bresennol ar gyfer yr holl enedigaeth, a gall cleifion ar wardiau cyn-enedigol ac ôl-enedigol gael un person i ymweld â nhw am ddwy awr y dydd.
Betsi Cadwaladr: Mae'r gwasanaeth genedigaeth gartref ac unedau bydwragedd yn gweithredu fel yr arfer. Mae llai na phum swydd gwag yn y bwrdd iechyd, a'r gyfradd salwch o fewn bydwreigiaeth ar hyn o bryd yw 6.5%. Mae ymweliadau ôl-enedigol wedi eu cyfyngu i un partner geni gydag apwyntiad wedi ei drefnu o flaen llaw.
Aneurin Bevan: Mae'r gwasanaeth genedigaeth gartref ac unedau bydwragedd ar gael. Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod wedi staffio'n ddigonol ar gyfer y gyfradd geni bresennol, ond eu bod yn recriwtio ar gyfer ambell swydd wag. Gall un partner geni fynychu'r enedigaeth a'r wardiau ôl-enedigol a chyn-enedigol rhwng 08:00 ac 20:00. Dywedodd mai nifer fach iawn o fenywod sy'n dewis genedigaeth rydd yn yr ardal, ac nad oedd un fenyw wedi dewis genedigaeth rydd o fewn y mis diwethaf.
Cwm Taf Morgannwg: Mae'r bwrdd iechyd wedi cael cais am wybodaeth.
Caerdydd a'r Fro: Mae'r uned fydwreigiaeth a'r gwasanaeth genedigaeth gartref wedi bod ar gau dros dro ar adegau, ond maen nhw ar agor ar hyn o bryd. Gall un partner geni fynychu sgan 12 wythnos, sgan 20 wythnos, yr adran feddygaeth ffetysol, a'r uned asesu beichiogrwydd cynnar. Gall un partner geni fod yn bresennol yn ystod yr enedigaeth a'r cyfnod yn syth wedi'r enedigaeth, ac ymweld â'r uned famolaeth am ddwy awr y dydd.
Powys: Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod wedi cynnal darpariaeth lawn o'r gwasanaeth, gan gynnwys genedigaethau gartref a chanolfannau geni bydwragedd, a'u bod heb gael unrhyw gyfnodau sylweddol o brinder staff. Gall un partner geni fod yn bresennol yn ystod yr enedigaeth a, lle bo'n bosib, nes gadael yr ysbyty. Dywedon nhw eu bod yn anelu at gael menywod adref o fewn chwe awr wedi'r enedigaeth lle nad oes angen am ddarparu ymwelwyr. Dywedon nhw fod eu cofnodion yn awgrymu nad oedd unrhyw un o dan eu gofal wedi dewis genedigaeth rydd yn 2021.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2021