'Argyfwng' gofal mamolaeth yn sbarduno protest bydwragedd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Protest
Disgrifiad o’r llun,

Protestwyr yn Abertawe brynhawn Sul

Mae bydwragedd yn dweud bod gwasanaethau mamolaeth wedi cyrraedd lefel "anghynaladwy" wrth iddynt alw am gymorth gan y llywodraeth tra'n wynebu "argyfwng" staffio a diogelwch.

Bu rhieni a gweithwyr iechyd yn ymuno â bydwragedd mewn protestiadau mewn dros 50 o drefi a dinasoedd ar hyd y DU ddydd Sul.

"Mae gwasanaethau mamolaeth wedi cyrraedd pwynt argyfwng ac mae'n rhaid i ni ymladd drostynt," meddai arweinydd gorymdaith Caerdydd, Katie Falvey.

Mae Llywodraeth y DU wedi addo ymgyrch recriwtio gwerth £95m.

Bu protestiadau 'March With Midwives' yn digwydd mewn dinasoedd a threfi sydd ag unedau mamolaeth.

Roedd y digwyddiad yn cael ei ddisgrifio fel "gwylnos ar gyfer yr argyfwng mamolaeth".

Mae'r ymgyrchwyr eisiau i wleidyddion a phenaethiaid iechyd "wrando ar staff a defnyddwyr y gwasanaethau hyn, cynnig buddsoddiad brys a lleihau'r gofynion" sydd ar fydwragedd.

'Rhaid i rywbeth newid'

"Mae'n rhaid i ni sicrhau fod y llywodraeth a'r cyhoedd yn ymwybodol o'r argyfwng rydyn ni'n ei wynebu," meddai Ms Falvey, myfyrwraig bydwreigiaeth 21 oed o Essex sy'n astudio yng Nghymru.

"Mae'n rhywbeth sy'n effeithio ar bawb, nid bydwragedd yn unig."

Ffynhonnell y llun, Katie Falvey
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Katie Falvey ei bod wedi gweld bydwragedd yn "gorweithio" ac yn dioddef o "straen a blinder"

Ychwanegodd: "Mae hi wedi cyrraedd y pwynt nawr lle mae'n anghynaladwy iawn ac mae'n rhaid i rywbeth newid.

"Nid yw hyn yn rhywbeth sy'n gallu cael ei anwybyddu - mae'n rhaid gweithredu ar frys. Mae angen arian arnom ni ac mae angen staff arnom ni."

'Cael eu gyrru o'r proffesiwn'

Roedd yr orymdaith yn digwydd wedi arolwg gan y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) fis diwethaf oedd yn dangos fod dros hanner o fydwragedd yn cael eu "gyrru o'r proffesiwn" oherwydd "diffyg staffio a phryder nad ydyn nhw'n gallu cynnig gofal diogel i fenywod".

Mae'r corff bydwreigiaeth eisoes wedi rhybuddio am "ecsodus" wedi i'w arolwg o 1,273 o fydwragedd ar hyd y DU ddarganfod bod 57% ohonynt yn bwriadu gadael y GIG o fewn y flwyddyn nesaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 40,000 o fydwragedd cofrestredig yn y DU, meddai'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

Fe wnaeth yr RCN alw ar benaethiaid iechyd i adolygu eu lefelau staffio bydwreigiaeth "ar frys", wrth i'r prif weithredwr Gill Walton ddweud bod "diogelwch o fewn gwasanaethau mamolaeth yn y fantol, oherwydd heb ddigon o staff does dim gobaith gennym ni".

Daw hyn wedi sawl sgandal mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, yn ogystal â Dwyrain Caint, Swydd Amwythig a Bae Morecambe yn Lloegr.

'Achub fy mywyd i a fy mhlentyn'

Ffynhonnell y llun, Vikki Mill
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Vikki Mill, ei gŵr Will a'i merch Florence yn gorymdeithio ym Mangor ddydd Sul

Roedd Vikki Mill, mam newydd, yn gorymdeithio ym Mangor am ei bod yn dweud na fyddai hi na'i phlentyn yn fyw heddiw heb gymorth ei bydwragedd hi.

Ganed Florence yng nghartref Ms Mill yn Llynpenmaen, Gwynedd, fis Mehefin, gan fod yr uned famolaeth leol yn Nolgellau wedi ei throi'n ysbyty Covid dros dro.

Ond roedd angen triniaeth yn yr ysbyty ar Ms Mill wedi iddi beidio â geni ei brych, ac roedd yr ysbyty agosaf dros awr i ffwrdd ym Mangor.

Ffynhonnell y llun, Vikki Mill
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ms Mill a'i gŵr Will eu bod yn ddiolchgar iawn i'w bydwragedd fu'n gofalu am Florence

Wedi i Ms Mill "aros oriau" am yr ambiwlans, doedd dim sedd car ynddo gan fod y parafeddygon wedi'u galw i gludo oedolyn i'r ysbyty, ac felly nid oedd yn addas ar gyfer cludo Florence hefyd.

"Bu'n rhaid i Flo deithio gyda fi yn yr ambiwlans mewn sedd car, ond wedi 40 munud o'r siwrne, fe wnaeth fy mydwraig sylweddoli bod Flo'n cael trafferth anadlu," meddai Ms Mill.

Ffynhonnell y llun, Vikki Mill
Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd Florence ei diwrnodau cyntaf mewn uned gofal babanod arbennig yn yr ysbyty

"Am y 90 munud oedd yn weddill, cafodd fy mydwraig a'r parafeddyg eu taflu o gwmpas yng nghefn yr ambiwlans, gan ddal pen Flo i ffwrdd o'i brest gyda mwgwd ocsigen oedolyn dros ei hwyneb, tra hefyd yn gwylio fy mhwysau gwaed.

"Fe wnaeth y fydwraig a'r parafeddyg gadw Flo'n fyw ar y siwrne yna, ac fe wnaeth y bydwragedd ddaeth i fy nhŷ barchu fy ardal geni, fy nghysuro i ac achub fy mywyd."

'Angen bydwragedd ar bawb'

Fe wnaeth Ms Mill ddychwelyd i Fangor ddydd Sul i orymdeithio dros broffesiwn y mae hi'n credu sydd ddim yn cael ei "ariannu na'i barchu" digon gan lywodraethau.

"Nid yw fy hanes i'n unigryw," meddai.

Ffynhonnell y llun, Science Photo Library
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddylai yna fod mwy o barch tuag at fydwreigiaeth, meddai Vikki Mill

"Er mwyn rhoi genedigaeth, mi wyt ti'n dibynnu ar fydwragedd. Mae'n amser anhygoel ym mywyd rhywun, ond mae angen gweithwyr iechyd proffesiynol.

"Mae angen bydwraig ar bob un ohonom oherwydd ry'n ni gyd yn cael ein geni.

"Mae ganddyn nhw'r sgiliau, maen nhw'n gwybod beth i'w wneud mewn argyfwng pan mae babi'n cael ei eni ac mae'n angenrheidiol ein bod ni'n gwrando arnyn nhw yn codi eu lleisiau gan obeithio lleihau rhai o'r gofynion sydd arnyn nhw."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

"Mae angen bydwraig ar bob un ohonom oherwydd ry'n ni gyd yn cael ein geni"

Dywedodd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth bod y nifer o fydwragedd cofrestredig yn y DU wedi cynyddu'n barhaol dros y blynyddoedd i 39,664, gyda thua 1,400 yng Nghymru.

Mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos fod nifer y genedigaethau wedi lleihau, gyda 613,936 o enedigaethau yn Lloegr a Chymru yn 2020.

Mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd wedi galw am fwy o fuddsoddiad yn y GIG wrth i ymgyrchwyr ddweud bod bydwragedd yn gadael y proffesiwn, unedau mamolaeth yn cau, a diogelwch genedigaethau yn y DU mewn argyfwng.

'Y lle mwyaf diogel i roi genedigaeth'

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod wedi "ymrwymo i ddiogelwch cleifion" a'u bod yn dymuno sicrhau mai'r GIG yw'r "lle mwyaf diogel yn y byd i roi genedigaeth".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r argyfwng yn effeithio ar bawb, meddai myfyrwraig bydwreigiaeth

"Mae bydwragedd yn gwneud gwaith andros o bwysig ac rydyn ni'n gwybod pa mor heriol mae hi wedi bod i'r rheiny weithiodd yn ystod y pandemig," meddai llefarydd ar ran yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

"Mae mwy o fydwragedd yn gweithio yn y GIG nawr nag unrhyw amser yn ei hanes ac rydyn ni'n anelu at gyflogi 1,200 ychwanegol gydag ymgyrch recriwtio gwerth £95m."