Rheolau ymweld unedau mamolaeth yn 'annheg'

  • Cyhoeddwyd
rhieni Gruffydd
Disgrifiad o’r llun,

Chafodd Ifan ddim treulio llawer o amser gydag Eluned wedi genedigaeth anodd

Mae nifer o gyrff sy'n ymgyrchu dros hawliau merched wedi ysgrifennu at y gweinidog iechyd yn galw am newid i'r cyfyngiadau ar ymwelwyr i unedau mamolaeth.

Dywed ymgyrchwyr eu bod yn barod i fynd i gyfraith dros y rheolau a gafodd eu cyflwyno yn sgil y pandemig.

Mae sefydliad sy'n amddiffyn hawliau dynol yn ystod genedigaeth yn credu nad ydy rheolau ymweld presennol Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn "gymesur".

"Ry'n am gael trafodaeth gyda nhw ond ry'n yn barod i gymryd camau cyfreithiol os nad ydynt yn ystyried ein hachos yn iawn," meddai Maria Booker o sefydliad Birthrights.

Mae'r sefydliad wedi ysgrifennu llythyr at y bwrdd iechyd ac at y gweinidog iechyd, Eluned Morgan.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Maria Booker nad yw'n credu bod y rheolau ymweld presennol "yn gymesur"

Mae rheolau ymweld byrddau iechyd yn amrywio.

  • Dyw Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ddim yn caniatáu yr un ymwelydd;

  • Ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan mae hawl gan un partner ymweld rhwng 08:00 a 20:00;

  • Does 'na ddim un bwrdd arall yng Nghymru yn caniatáu ymweliadau i wardiau mamolaeth am fwy na dwy awr y dydd.

'Cyfraddau Covid yn uchel'

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg "mai diogelwch merched a babanod yw'r brif flaenoriaeth".

Mae'n ychwanegu bod "y bwrdd yn gwerthfawrogi'n llawn y gefnogaeth amhrisiadwy sy'n cael ei roi gan bartneriaid yn ystod geni plentyn".

"Er hynny, oherwydd safle'r ardaloedd lle mae merched yn cael y gofal, mae'r cyfyngiadau yn angenrheidiol," meddai, "tra bod cyfraddau'n uchel o fewn y gymuned."

Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i dad Gruffydd ei adael yn fuan wedi iddo gael ei eni

Mae Newyddion S4C wedi clywed gan sawl mam sydd wedi cael profiadau anodd iawn mewn unedau mamolaeth yn ystod y misoedd diwethaf.

Roedd geni Gruffydd fis yn ôl yn eiliad o lawenydd i'w rieni ond brin awr yn ddiweddarach, bu'n rhaid i Ifan y tad adael yr ysbyty.

Ar ôl genedigaeth anodd iawn roedd ei fam, Eluned Glyn Williams, ar ei phen ei hun i bob pwrpas.

"Ro'n i yn yr ysbyty am bedwar diwrnod ychwanegol ac o'dd fy mhartner i ond yn cael dod mewn ddwy awr y diwrnod," meddai.

Disgrifiad,

Eluned Glyn Williams: 'Ro'dd hi'n gyfnod anodd iawn'

"Roedd hi'n anodd iawn gwneud unrhyw beth o ran codi Gruffydd neu symud o gwmpas - achos o'n i wedi cael spinal block hefyd ac yn styc yn y gwely - mae mamau angen y gefnogaeth, yr help mewn cyfnod anodd.

"Doedd neb arall yn cael dod i'n gweld o gwbl."

Dywedodd Leah Lewis-McLernon fod y profiad o eni plentyn ym mis Chwefror eleni wedi bod yn "brofiad ofnadwy" iddi hithau hefyd a hynny ar ôl beichiogrwydd anodd.

Bu'n rhaid iddi aros yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin am dros ddeuddydd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Leah Lewis-McLernon ei bod wedi cael profiad hynod o anodd wrth eni Cali

"O'n i'n teimlo mor unig. Ro'n i wedi blino'n lân. Do'n i'm yn gwybod os o'n i'n mynd neu dod. Ro'n i'n teimlo bo fi ddim yn rhoi fy ngorau i'r babi achos bo fi wedi blino shwt gymaint. O'dd yr holl brofiad yn ofnadw' ac annheg.

"Ges i Cali ac mewn 40 munud ro'n i'n cael fy anfon yn ôl i'r ward ac o'dd Michael yn gorfod mynd. Ro'n i'n dal ddim yn gwybod le o'n i - beth o'dd yn digwydd ac ro'n i wrth fy hunan. Ro'dd y staff yn wych ond yn fisi iawn iawn.

"Sai'n credu bod e'n deg bod hawl 'da chi fynd i dafarn a bod dim hawl 'da chi gael cefnogaeth yn yr ysbyty pan chi newydd ga'l babi bach - dyw e ddim yn deg o gwbl.

"Mae'r cyfyngiadau wedi newid nawr i ddwy awr ond dyw dwy awr ddim yn ddigon.

"Byddai ofn arna'i fynd trwy gyfnod fel 'na eto."

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n ceisio sicrhau bod modd cael cydbwysedd "rhwng amddiffyn yr unigolion bregus sy'n derbyn triniaeth yn ein hysbytai a chaniatáu ymwelwyr - rhywbeth sy'n bwysig iawn i les mamau beichiog, eu partneriaid a'u teuluoedd".

"Fe fydd y canllawiau yn cael eu hadolygu'n gyson gan Lywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd," medd llefarydd.