Tri'n cyfaddef ymosod ond yn gwadu llofruddio

  • Cyhoeddwyd
Lee Strickland and Jason Edwards arriving separately at courtFfynhonnell y llun, Dimitris Legakis/Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Lee Strickland a Jason Edwards yn cyrraedd Llys Y Goron Merthyr Tudful ar ddiwrnod cyntaf yr achos ddydd Llun

Mae dau ddyn a merch yn ei harddegau wedi cyfaddef iddyn nhw ymosod ar feddyg mewn parc yng Nghaerdydd, ond maen nhw wedi gwadu ei lofruddio.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar Dr Gary Jenkins, oedd yn 54 oed, ym Mharc Bute y ddinas yn oriau mân 20 Gorffennaf y llynedd.

Fe gafodd anaf difrifol i'r ymennydd a bu farw yn yr ysbyty 16 o ddiwrnodau'n ddiweddarach.

Ar ddiwrnod cyntaf yr achos yn Llys Y Goron Merthyr Tudful, fe blediodd y tri diffynnydd yn euog o ddynladdiad a lladrata.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Dr Gary Jenkins, oedd yn dad i ddau o blant, mewn ward gofal dwys ar 5 Awst y llynedd

Mae Jason Edwards, 25, Lee Strickland, 36, a merch 17 oed, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, hefyd wedi pledio'n euog i gyhuddiad o ymosod gan achosi niwed corfforol.

Fe blediodd y tri'n ddieuog i gyhuddiad o lofruddiaeth mewn gwrandawiad blaenorol.

Mae'r achos yn parhau ac mae disgwyl iddo bara am bedair wythnos.

Pynciau cysylltiedig