'Gwnaeth yr ymateb i farwolaeth Huw lorio'r ynys'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

'Mae Huw yn dal i ddylanwadu ar bob dim dwi'n 'neud'

"Ma'r flwyddyn ddiwetha' wedi mynd mewn 'blur' - dwi'n dal i deimlo weithia 'mod i'n sbïo ar fywyd rhywun arall."

Mae hi bron yn 12 mis ers i Teleri Mair Jones, o Dynlon ar Ynys Môn, golli ei gŵr.

Bu farw Huw Gethin Jones yn 34 oed, ag yntau heb unrhyw gyflyrau iechyd blaenorol.

"O'dd o'n chwara' rygbi, o'dd o'n ffit, o'dd o erioed 'di smocio yn ei fywyd," meddai Teleri, a oedd yn 32 oed ar y pryd.

Roedd Huw wedi gorfod mynd i'r ysbyty ar ôl bod yn wael iawn hefo Covid.

Er bod arwyddion ei fod yn gwella, cafodd ei drosglwyddo i Ysbyty Walton yn Lerpwl ar ôl cael clot ar yr ymennydd yn sgil cymhlethdodau.

Daeth hi'n amlwg yn fanno na fyddai'n dod drwyddi, a bu farw ar 19 Chwefror 2021.

Ffynhonnell y llun, Teleri Mair Jones
Disgrifiad o’r llun,

Teleri a Huw ar ddiwrnod eu priodas

Roedd ei farwolaeth wedi achosi sioc fawr a miloedd o bobl wedi rhoi teyrngedau iddo ar wefannau cymdeithasol.

Roedd tudalen GoFundMe gafodd ei sefydlu i helpu ei deulu wedi codi £36,500 mewn ychydig wythnosau.

Ond roedd cyfyngiadau coronafeirws ar y pryd wedi'i gwneud hi'n anodd i'r teulu alaru yn iawn, meddai Teleri.

"O'ddan ni'n ganol lockdown ar y pryd, ges i'm gweld pobl," meddai. "O'dda ni 'mond yn cael 30 yn yr angladd, chafon ni ddim dathliad o'i fywyd o wedyn.

"O'dd o'n exhausting, a wedyn gorfod edrych ar ôl yr hogia' a deud wrthyn nhw bod Dad ddim yn dod adra. Un a hanner a tair a hanner o'dda nhw ar y pryd."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Gwydion, Math a Huw

Mae Teleri wedi penderfynu bod yn hollol agored hefo'i meibion o'r cychwyn ac yn "benderfynol bod yr hogia'n mynd i gofio sut ddyn o'dd eu tad nhw".

Roedd o'n chwaraewr rygbi amatur ac yn chwarae i Glwb Rygbi Llangefni ers blynyddoedd.

Roedd hefyd yn gerddor, yn chwarae gitâr mewn band ac yn canu gyda chorau fel Hogia Llanbobman.

Yn fwy diweddar, roedd o wedi gwireddu breuddwyd trwy agor bragdy.

'Llorio'r ynys - a thu hwnt'

Ychwanegodd Teleri: "O'dd 'na lot o bobl yn 'nabod o, g'wbod pwy o'dd o. O'dd y gefnogaeth yn anhygoel.

"O'dd yr ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol...'nath o'n llorio fi. 'Nath o lorio'r ynys gyfan dwi'n meddwl, a thu hwnt.

"'Nath o ddychryn pawb dwi'n meddwl, bod y feirws 'ma ddim yn dewis.

"Mi o'dd Huw yn iach, doedd 'na ddim byd yn mater 'efo fo - ond yn anffodus, 'nathon ni droi'n un o'r statistics ofnadwy 'na o'r pandemig.

"O'dda chdi'n clywed y straeon am bobl ifanc ond o'dda chdi'n meddwl bod o'n bell i ffwrdd, bod o'm yn mynd i ddigwydd i ni."

Ffynhonnell y llun, Teleri Mair Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Huw Gethin Jones yn gerddor amryddawn

Mae clywed am rai sydd ddim yn dilyn rheolau, neu ddim yn cymryd cymaint o ofal ag y gallen nhw, yn gwneud Teleri yn rhwystredig iawn.

"Mae 'na filoedd o deuluoedd ar draws y Deyrnas Unedig sy' 'di bod drwy be' 'da ni 'di bod drwy," meddai.

"Mae wedi bod yn anodd clywed am lywodraethau ddim yn parchu rheolau'u hunain.

"Ti'n meddwl 'be o'n i'n 'neud yr amser o'dda nhw'n cael partis? Galaru dros fy ngŵr ma'n siŵr'.

"Yn amlwg fydd rhaid ni ddysgu sut i fyw 'efo'r feirws 'ma ond dwi'n meddwl bod rhywbeth syml fel gwisgo masg, dydy o'm yn gofyn lot."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Huw yn chwarae rygbi dros Langefni ac yn un o sylfaenwyr Bragdy Mona

Ffynhonnell y llun, Teleri Mair Jones
Disgrifiad o’r llun,

'Mi wnawn ni gario Huw efo ni': Teleri a Huw gyda'u meibion, Gwydion a Math

Mae Teleri yn ôl wrth ei gwaith erbyn hyn fel meddyg teulu rhan-amser, ac yn delio gyda Covid o ddydd i ddydd.

"Mae o wedi bod yn anodd," meddai. "Mae'n mynd a fi'n ôl i sut o'dda ni pan o'dd o gynnon ni a bod gynnon ni ddim syniad be' o'dd o'n blaena' ni.

"Ond mae o hefyd wedi cadw fi'n brysur a meddwl ma' gynna' i rŵan y profiad 'ma yn anffodus falla neith helpu rhywun arall.

"Ti jyst yn goro switchio off weithiau a bod yn mode meddyg, a wedyn mode mam a gwraig sy'n galaru - dwi'n trio gwahanu'r ddau beth."

Ffynhonnell y llun, Teleri Mair Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Teleri yn "benderfynol bod yr hogia'n mynd i gofio sut ddyn o'dd eu tad"

Wrth agosáu at flwyddyn ers ei golli, mae Teleri a'r teulu yn gobeithio bydd modd trefnu dathliad o fywyd Huw.

"Does 'na'm byd pendant 'di drefnu eto achos yn amlwg 'mond yn ddiweddar ma'r cyfyngiadau i gyd wedi codi, neu yn codi'n ara' bach.

"Dwi'n gobeithio bydd 'na rhywbeth o gwmpas y flwyddyn... achos mae o'n haeddu cael ei ddathlu. Gafon ni'm gwneud hynna ar y pryd ac o'dd hwnna'n rhan anodd.

"Ti byth yn symud ymlaen ond mae'n rhaid i ni symud yn ein blaenau - fel fasa'r Sais yn d'eud, 'we have to move forward, not move on'.

"Mi wnawn ni gario Huw 'efo ni fel 'da ni'n trio ailadeiladu'n bywydau."