Y Daily Post i gyhoeddi cylchlythyr Cymraeg digidol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Daily Post

Bydd y Daily Post yn cyhoeddi cylchlythyr dyddiol Cymraeg yn ddigidol yn fuan, yn ôl golygydd y papur newydd.

Dywedodd Dion Jones y byddai'n "canolbwyntio ar faterion cyfoes, diwylliant, treftadaeth a'r bywyd Cymreig".

Daw'r cyhoeddiad wedi i nifer o Gymry blaenllaw alw am dudalen ddyddiol o newyddion Cymraeg yn y papur.

Yn gynharach yn y mis roedd yna gwynion bod atodiad yr Herald Cymraeg yn y Daily Post wedi crebachu.

Cylchlythyr digidol

Mewn datganiad dywedodd Mr Jones: "Rydym yn angerddol am gadw'r iaith Gymraeg yn fyw ac oherwydd hyn fe fyddwn yn darparu cylchlythyr Cymraeg yn fuan - y cyntaf o'i fath ar y raddfa hon yng Nghymru.

"Bydd y cylchlythyr yn cynnwys eitemau newyddion a fydd yn canolbwyntio ar faterion cyfoes, diwylliant, treftadaeth a'r bywyd Cymreig ac fe fydd hefyd yn adnodd i ddysgwyr Cymraeg.

"Mae traean o'n staff yn siaradwyr Cymraeg angerddol ac rydym yn trysori ein hiaith a'n hanes."

Yn ddiweddarach fe wnaeth llefarydd ar ran cwmni Reach PLC gadarnhau mai yn ddigidol y bydd y cylchlythyr ac y bydd yn cael ei lansio ddiwedd y gwanwyn.

Disgrifiad,

Myrddin ap Dafydd: 'Beth am i'r Daily Post a'r Western Mail rannu colofnau?'

Yn gynharach yr wythnos hon fe wnaeth yr Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd, alw am gynnwys tudalen ddyddiol o newyddion Cymraeg yn y Daily Post gyda darpariaeth i ddysgwyr.

"Arferai'r papur gynnwys ychydig o eirfa ar gyfer dysgwyr, a bu hyn o gymorth mawr i lawer," meddai.

"Roedd yn dangos parch at y rhai sy'n ceisio dysgu a gwella eu Cymraeg.

"Os ydym am gyrraedd nod y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, byddai buddsoddi yn yr Herald Gymraeg/ochr Gymraeg y Daily Post yn help garw."

'A fydd rhaid tanysgrifio?'

Ar ôl clywed datganiad y golygydd Dion Jones, dywedodd Mr ap Dafydd fore Mercher ar Dros Frecwast ei fod yn newyddion calonogol.

"Be sy'n dda yw bod y Daily Post wedi ymateb yn gadarnhaol mor fuan i'r alwad a wnaed ddydd Llun," meddai.

"Newyddion da arall yw bod traean o staff llawn amser y papur yn siarad Cymraeg - felly mae'r adnoddau yna yn amlwg.

"Be' 'da ni ddim yn ei wybod ar hyn o bryd be ydy ystyr cylchlythyr.

"Oes rhaid i siaradwyr Cymraeg gofrestru, danysgrifio yn breifat i dderbyn hwn neu ydy o ar gael yn gyhoeddus i bawb?" medd yr Archdderwydd.

Brynhawn Mercher fe gadarnhaodd llefarydd ar ran cwmni Reach PLC mai ar ffurf ddigidol y bydd y cylchlythyr.

"Fe fydd y cylchlythyr yn cynnig gwasanaeth dyddiol unigryw ac annibynnol - yn llawn cynnwys cyffrous, perthnasol ac addysgiadol yn yr iaith Gymraeg ac yn addas i gynulleidfa ddigidol 2022," medd llefarydd.

"Bydd yn adnodd addysgiadol i ddysgwyr Cymraeg ac yn canolbwyntio ar fywyd, diwylliant, treftadaeth a materion cyfoes Cymraeg (nid cyfieithiad o uchafbwyntiau'r dydd i Gymraeg)."

Ffynhonnell y llun, Angharad Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna boeni yn gynharach yn y mis am ddirywiad Yr Herald sydd yn rhan o'r Daily Post ar ddydd Mercher

Ychwanegodd Mr ap Dafydd bod "angen yr iaith Gymraeg ar bob cyfrwng posib. Mae wedi tueddu i ddiflannu o'r Herald a'r Daily Post - 'da ni isio adfer hynny.

"Yn sicr ma' isio ymestyn hynny ymhob rhifyn o'r Daily Post a'r Western Mail ac wrth gwrs ar y cyfryngau digidol."

Roedd yr Archdderwydd wedi awgrymu hefyd y byddai'n syniad i'r Western Mail a'r Daily Post rannu'r un cynnwys a cholofnau Cymraeg gan mai cwmni Reach sydd biau'r ddau bapur.

"Byddai hyn yn golygu mwy o swmp heb fynd i gostau ychwanegol," meddai.

Dywedodd cyn-ddirprwy brif weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones, ddechrau'r wythnos ei fod yn cefnogi galwad yr Archdderwydd.

"Mae canran darllenwyr mwyaf ffyddlon y Daily Post yn byw yng ngogledd orllewin Cymru, lle mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf nifer sylweddol ohonynt," meddai.

"O ganlyniad cefnogaf yr ymgyrch i weld mwy o dudalennau Cymraeg yn y papur yn ddyddiol. Byddai hyn nid yn unig yn dangos parch at yr iaith, ond yn ffordd ymarferol o'i chefnogi."