Cwtogi Yr Herald Cymraeg yn 'hoelen yn arch yr iaith'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Rhaid parchu'r gynulleidfa': Angharad Tomos ar raglen Dros Frecwast

Mae un o'r papurau newydd Cymraeg hynaf wedi cyhuddo'r cwmni sy'n gyfrifol am y Daily Post a Wales Online o ddangos "diffyg parch i'r Gymraeg".

Cafodd Yr Herald Cymraeg ei sefydlu fel papur annibynnol ym 1855, ond mae bellach yn ymddangos yn y Daily Post bob dydd Mercher.

Mae'r Herald yn honni fod yna "benderfyniad strategol" gan y cwmni sy'n berchen ar y Daily Post, Reach PLC, i deneuo'r hyn a arferai fod yn bapur Cymraeg annibynnol.

Fe wnaeth Yr Herald annog pobl i brotestio drwy anfon neges at Reach PLC am hanner dydd ddydd Mercher i ddwyn pwysau ar y cwmni i newid.

Yn ôl golygydd y Daily Post, "mae'r angerdd i gadw'r traddodiad yn fyw yn parhau i fod yn gryf" ond mae "rhesymau masnachol yn golygu na fydd y golofn yn cael yr un cynhwysedd a chafwyd yn y gorffennol".

Dywedodd un o'r colofnwyr wrth BBC Cymru Fyw ei bod yn dymuno gweld "unrhyw beth sy'n well na'r system bresennol".

"Dydi Reach PLC yn amlwg ddim yn malio llawer am y cynnwys Cymraeg," meddai Bethan Gwanas.

Mae'r criw, meddai, "yn gwneud eu gorau dan amgylchiadau anodd".

Mae Reach PLC yn berchen ar sawl papur newydd a gwefan newyddion, gan gynnwys y Daily Post, y Western Mail, a'r Wales Online.

'Hoelen arall yn arch yr iaith'

Ffynhonnell y llun, Hedydd Ioan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Tomos wedi cyfrannu i'r Herald ers bron i 30 mlynedd

Dywed tîm Yr Herald fod yna "gefnogaeth leol gref" i'r papur, a bod mwy yn prynu'r Daily Post ar ddydd Mercher.

Ond rhybuddiodd y colofnydd Angharad Tomos ei bod wedi gweld y papur yn "dirywio y tu hwnt i reswm" dros y 30 blynedd diwethaf.

Ychwanegodd: "Mae'i jyst yn un hoelen arall yn arch yr iaith."

Dywed mai pedwar colofnydd a golygydd oedd gan Yr Herald ers talwm, a bod ganddynt swyddfa yng Nghaernarfon.

Erbyn hyn, tri cholofnydd sy'n ffurfio'r tîm ac yn darparu'r holl gynnwys.

Ffynhonnell y llun, Bethan Gwanas
Disgrifiad o’r llun,

Hen dîm Yr Herald pan oedd pedwar colofnydd a golygydd

"Fedrwn ni ddim fforddio colli'r hynna sydd gennyn ni o newyddiaduraeth yn yr iaith Gymraeg," medd Ms Tomos.

Rhaid diogelu'r papur "oherwydd traddodiad Yr Herald a'r hyn mae'n gallu ei gynnig i bobl, sef golwg ar ogledd Cymru a Gwynedd yn benodol, ac y Cymry Cymraeg."

'Dim rheswm ariannol'

Ychwanegodd colofnydd arall nad rhesymau ariannol sy'n gyfrifol am gwtogi'r papur, gan honni i Reach PLC dynnu elw sylweddol y llynedd.

"£25-£40 bob tair wythnos yw ein tâl am dudalen lawn," meddai Bethan Jones, sydd wedi bod yn cyfrannu ers 2002.

Yn ystod Covid llynedd, bu'r colofnwyr yn cyfrannu'n ddi-dâl i'r Herald am eu bod mor frwd i weld ei barhad - gan gymryd nad oedd modd eu talu gan nad oedd arian ar gael.

"Pan 'naethon ni ganfod bod nhw'n 'neud cymaint o elw, dyna'r ddadl fel arfer, bod 'na ddim arian... mae'n amlwg bod gan gwmni mawr fel Reach PLC ddigonedd o arian," meddai Angharad Tomos.

"Dwi'm yn beio golygydd y Daily Post, dwi'n beio Reach PLC - elw 'di'r unig beth sy'n gyrru'r cwmni. 'Da ni'n haeddu gwell parch na hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ms Tomos fod angen i Reach PLC ddangos mwy o barch at Gymry Cymraeg y gogledd

Dywed Ms Tomos fod yna beryg o golli'r papur yn gyfan gwbl.

"Y peth gwaetha' am golli'r Herald fyddai colli'r berthynas efo'r darllenwyr. 'Da chi i raddau'n gwybod mai pobl gogledd Cymru neu Gwynedd 'di o fwya' lly, mae 'na deyrngarwch clos iawn."

Hoffai'r criw glywed y cwmni'n gofyn: "'Da chi 'di dyfalbarhau... sut allwn ni ymestyn a rhoi mwy o sylw i'r Herald?"

Un cynnig yw cynnwys tudalen o newyddion Cymraeg ym mhapurau Cymreig Reach PLC, gan gynnwys geirfa ar gyfer dysgwyr - syniad sydd wedi ei gefnogi gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd.

Ychwanegodd Ms Tomos: "Mae 'na ewyllys yna, mae 'na straeon yna, ffotograffydd, mae 'na ddigon o bobl fysa'n 'neud - ond mae angen y buddsoddiad."

'Angerdd i gadw traddodiad yn fyw'

Mewn ymateb i gais gam sylw gan Reach PLC, dywedodd Golygydd papur y Daily Post, Dion Jones:

"Mae gan Yr Herald Cymraeg etifeddiaeth hir o dros 160 o flynyddoedd.

"Ers 2005, mae'r Daily Post wedi bod yn falch o'i gynnwys fel atodiad o wythnos i wythnos.

"Tra bod rhesymau masnachol yn golygu na fydd y golofn yn cael yr un cynhwysedd a chafwyd yn y gorffennol, mae'r angerdd i gadw'r traddodiad yn fyw yn parhau i fod yn gryf.

"Mae traean o'n staff llawn amser yn Gymry Cymraeg i'r carn, rydym yn parchu'r iaith, ei hanes ac yn gwerthfawrogi rôl Yr Herald Cymraeg i gadw hi'n fyw ac yn iach."

Pynciau cysylltiedig