'Perygl o newyddion anghyflawn drwy rannu grant digidol'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
golwg360

Mae un o gyn-weinidogion Llywodraeth Cymru yn poeni na fydd modd cael gwasanaeth newyddion digidol "cyflawn" yn Gymraeg, o rannu'r nawdd sydd ar gael rhwng gwahanol ddarparwyr.

Mae yna awgrym y gallai'r grant o £200,000 y flwyddyn y mae Golwg360 yn ei dderbyn ar hyn o bryd gael ei haneru i £100,000 o fis Ebrill nesaf ymlaen.

Rhodri Glyn Thomas sy'n gwneud y sylwadau mewn ymateb i waith ymchwil gan Newyddion S4C.

Dywedodd y llywodraeth ei bod yn darparu £200,000 ar hyn o bryd, ac yn "cefnogi cynaliadwyedd hirdymor newyddiaduraeth".

Mae cwmni Golwg wedi dweud ei bod yn "edrych ymlaen i barhau i arloesi yn y maes".

Disgrifiad o’r llun,

Pan roedd Rhodri Glyn Thomas yn Weinidog Treftadaeth cyhoeddodd Llywodraeth Cymru grant o £200,000 i'r wasg Gymraeg

Yn ôl yn 2007 fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf y grant o £200,000 i'r wasg Gymraeg, ac mae Golwg360 yn wasanaeth sy'n deillio o hynny.

Rhodri Glyn Thomas oedd y Gweinidog Treftadaeth ar y pryd. Mae'n poeni o glywed beth allai ddigwydd i'r arian o 2022 ymlaen.

"Mae hon yn broblem barhaus mewn gwirionedd. Unwaith mae'r llywodraeth yn rhoi unrhyw swm o arian i unrhyw fudiad neu i unrhyw wasanaeth, mae yna dybiaeth wedyn fod yr arian yna yn mynd i barhau am byth," meddai.

"Y bwriad wrth gynnig arian yn y lle cyntaf ydy cynnig y cyfle i ddatblygu rhywbeth.

"Mae'n siŵr y gellid beirniadu Golwg360 ei bod nhw wedi aros yn yr unfan. Does yna ddim datblygiadau newydd, ffres, gwahanol wedi deillio o'r arian yna yn y lle cyntaf."

Wrth ddisgwyl am y cyhoeddiad swyddogol, mae Rhodri Glyn Thomas er hynny yn credu y byddai hi'n gamgymeriad i rannu'r arian.

"Gyda swm cymharol fach o arian fel £200,000 - os rannwch chi hwnnw yn ddau a chynnig £100,000 yr un am ddau wasanaeth gwahanol, y perygl ydy eich bod chi'n mynd i ddiweddu mewn sefyllfa lle nad oes yna yr un gwasanaeth cyflawn i'w gael yn y Gymraeg," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Golwg
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Golwg ei bod yn edrych ymlaen at "barhau i arloesi yn y maes"

Mae Golwg yn pwysleisio'r cyfraniad maen nhw wedi'i wneud ers sefydlu'r gwasanaeth.

Dywedodd llefarydd eu bod nhw "yn falch" o'u "hanes profedig o greu newyddiaduraeth annibynnol trwy gyfrwng y Gymraeg".

"Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ystod cyfnod o bandemig, lansiwyd Golwg360 ar ei newydd wedd a lansiwyd Golwg+ - sef cylchgrawn Golwg ar y we am y tro cyntaf.

"Gyda'n tîm talentog a gweithgar, rydym yn edrych ymlaen i barhau i arloesi yn y maes, a pharhau i wasanaethu ein darllenwyr ffyddlon."

'Y broses ddim ar ben'

Cadarnhaodd Cyngor Llyfrau Cymru "fod y tendr newydd ar gyfer darparu'r Gwasanaeth Newyddion Digidol Cymraeg ar gyfer y cyfnod Ebrill 2022-Mawrth 2026 wedi ei hysbysebu dros yr haf a bod cyfweliadau gyda phanel annibynnol wedi eu cynnal ym mis Hydref".

"Dyw'r broses ddim wedi ei chwblhau" ac fe fyddai "yn amhriodol" meddan nhw "gwneud sylw ar drafodaethau sy'n parhau".

"Fodd bynnag, gallwn gadarnhau nad oes newid wedi bod i grant cyfredol cylchgrawn Golwg na'r grant ar gyfer tendr presennol y Gwasanaeth Newyddion (Golwg 360).

"Bydd y tendr newydd ar gyfer y gwasanaeth newyddion yn dechrau ar 1 Ebrill 2022 a bydd datganiad yn cael ei wneud mewn da bryd ar gyfer hynny."

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ar hyn o bryd rydym yn darparu £200,000 bob blwyddyn drwy Cymru Greadigol a Chyngor Llyfrau Cymru ar gyfer newyddion ar-lein yn y Gymraeg bob dydd.

"Ar ben hynny, rydym wedi sefydlu Gweithgor Newyddiaduraeth Er Budd y Cyhoedd yng Nghymru yn ddiweddar i gefnogi cynaliadwyedd hirdymor newyddiaduraeth er budd y cyhoedd yng Nghymru ac i wella'r broses o gyfathrebu a chydlynu camau gweithredu ar faterion sy'n ymwneud â'r sector newyddiaduraeth."