Rheithgor yn clywed recordiad o ymosodiad Parc Bute
- Cyhoeddwyd
Mae Llys Y Goron Merthyr Tudful wedi clywed recordiad o ymosodiad ar seiciatrydd mewn parc yng Nghaerdydd a arweiniodd at ei farwolaeth yn yr ysbyty 16 o ddiwrnodau'n ddiweddarach.
Yn y recordiad, sy'n para am 15 o funudau, mae'n bosib clywed Dr Gary Jenkins yn ymbil sawl tro: "Gadewch lonydd i mi - stopiwch."
Cafodd y sain ei recordio ar gamera CCTV caffi ym Mharc Bute sydd ar bwys lleoliad yr ymosodiad a ddigwyddodd ar 20 Gorffennaf y llynedd, ond ni chafodd unrhyw luniau o'r digwyddiad eu casglu.
Mae Lee Strickland, 36, Jason Edwards, 25, a merch 17 oed na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol yn gwadu llofruddio Dr Jenkins ond maen nhw wedi pleidio'n euog i ddynladdiad a lladrata.
Mae'r erlyniad yn honni bod Dr Jenkins wedi cael ei "arteithio a'i adael i farw" wedi ymosodiad "homoffobig".
Mae'n bosib ei glywed yn y recordiad yn erfyn am help, ynghyd â llais gwrywaidd yn gweiddi ar yr ymosodwyr: "Dowch oddi arno", "Be' 'dach chi'n neud?" a "Gadewch lonydd iddo", ond mae sŵn yr ymosodiad yn parhau.
Dywed yr erlyniad mai lleisiau Dr Jenkins a'r tri diffynnydd sydd i'w clywed yn bennaf yn y recordiad.
Mae'n bosib clywed lleisiau gwrywaidd yn gweiddi geiriau homoffobig ac yna sŵn Dr Jenkins yn griddfan ac yn apelio i'r ymosodiad ddod i ben.
Ar un pwynt, mae'n dweud: "Plîs, plîs na, plîs na, stopiwch, s'dim byd ar ôl, stopiwch, stopiwch, stopiwch."
Ar adeg arall, mae'r llais benywaidd yn mynnu arian ac mae llais gwrywaidd yn ateb: "Taro fe, taro fe eto". Mae hefyd yn bosib clywed disgrifiadau o weithredoedd treisgar eraill.
Ar ddiwedd y recordiad, mae'r llais benywaidd yn dweud: "Ie, ro'n i angen hynna."
Mae'r rheithgor hefyd wedi gweld lluniau camera 'bodycam' swyddogion heddlu'n cyrraedd safle'r ymosodiad ac yn darganfod Dr Jenkins wedi ei anafu'n ddifrifol a'i drowsus wedi ei dynnu i lawr.
Mae lluniau CCTV hefyd yn dangos Lee Strickland yn prynu whisgi mewn gorsaf betrol ar Ffordd y Gadeirlan wyth munud wedi'r adeg y mae'r erlyniad yn honni y gellir ei glywed yn recordiad y caffi ym Mharc Bute.
Clywodd y llys bod y diffynnydd wedi defnyddio cardiau Dr Jenkins i brynu'r whisgi.
Mae'r rheithgor hefyd wedi gweld lluniau CCTV yn Ffordd y Gogledd, ben arall y parc, lle mae'r erlyniad yn honni y rhoddodd y ferch, oedd yn 16 oed ar y pryd, ffôn Dr Jenkins i Jason Edwards cyn i'r ddau gofleidio'i gilydd a gadael gan fynd i gyfeiriadau gwahanol.
Mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd9 Awst 2021