Y 'darn jig-so coll' i adfer bywyd gwyllt Cwm Penmachno

  • Cyhoeddwyd
Cwm Penmachno
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cwm Penmachno o fewn Sir Conwy

Mae cynllun newydd ar y gweill yng Nghwm Penmachno gyda'r gobaith o hybu bywyd gwyllt a threftadaeth chwarelyddol yr ardal.

Wedi'i arwain gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y nod hefyd yw adfer y mawnogydd yno, gyda'r potensial i amsugno miloedd o dunelli o garbon ar ôl ei adfer.

Lle tawel ydy Cwm Penmachno, a dros y blynyddoedd mae'r ardal wedi gweld newidiadau mawr yn gymdeithasol ac o ran diwydiant, gyda thro ar fyd pan gaeodd y chwareli llechi.

Mae safle anghysbell y Foel, sy'n cwmpasu 1,600 erw yn gorwedd i'r de o Gonwy ac yn cynnwys tair chwarel, hefyd yn gartref i ffrydiau yn llifo lawr llethrau'r mynydd gyda golygfeydd ar draws y Parc Cenedlaethol.

Ond gyda'r safle a'r tŷ fferm wedi'i brynu gan yr ymddiriedolaeth, fydd yr elusen yn gweithio gyda chymunedau a ffermwyr er mwyn gwella mynediad ac ymchwilio i'w dreftadaeth llechi a'i sicrhau ar gyfer y dyfodol.

Disgrifiad o’r llun,

Y Foel ydy'r "darn jig-so coll" meddai Trystan Edwards o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Yn y dyfodol, y bwriad yw rheoli tir ychwanegol cyfagos hefyd gan ddatblygu pob math o gynlluniau amgylcheddol sy'n cynnwys adfer y fawnog ar yr ucheldir i gysylltu hefo cynlluniau tebyg.

Er fod disgwyl iddi gymryd blynyddoedd i wireddu'r holl gynlluniau, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn chwilio am reolwr i fferm Y Foel ac i gynorthwyo hefo'r gwaith cadwraeth.

'Daeth y Cymry ddim yn ôl'

Mae Anwen Naylor yn byw yng Nghwm Penmachno, a dywedodd wrth Cymru Fyw: "Erbyn heddiw faswn i ddim yn galw hi yn ardal Gymraeg, mi gaeodd y chwareli yn 1962 a diflannodd y Cymry o 'ma i chwilio am waith... y tai yn wag a daeth y Cymry ddim yn ôl.

"Mae'r Saeson wedi dod i Cwm ond mae genom ni un peth pwysig ofnadwy yma sef cymdeithas. Mae genom ni gymdeithas gref ofnadwy... pawb yn edrych ar ôl eu gilydd... cyfarfod yn y Seilo a pobl yn gweithio'n galed i gadw'r gymdeithas i fynd a mae genom ni lot fawr o ddysgwyr a mae hynny yn beth calonogol ofnadwy."

Disgrifiad o’r llun,

Mae chwareli'r ardal wedi hen gau, a'r swyddi oedd ynddynt wedi diflannu

Mi fydd y gymdeithas leol yn ganolog i gynlluniau yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac un sy'n croesawu hynny ydy Mary Twomey, un arall o drigolion Cwm Penmachno.

"Mae'n bwysig bod y gymuned yn gwybod be' sy'n mynd i ddigwydd 'efo'r ardal, 'efo'r fferm, 'efo'r dyffryn achos mae'r gymuned yn teimlo yn gryf am yr ardal hwn," meddai.

"De ni ddim isio i'r lle fynd i gwmni arall... cwmni sy'n mynd i blannu llawer o goed... de ni wedi gweithio 'efo'r trust ers blynyddoedd rŵan."

'Gwarchod treftadaeth gyfoethog'

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na "gyfle go iawn" i'r ardal drwy'r cynllun, meddai Trystan Edwards

"Mae'r Foel yn le trawiadol iawn, yn gyfoeth mewn hanes ac mae ganddo botensial enfawr i natur ffynnu - rydym yn falch iawn o fod yn geidwaid ar hynny," dywedodd Trystan Edwards, Rheolwr Cyffredinol Eryri ar gyfer Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.

"Mewn sawl ffordd, dyma'r darn jig-so coll a fydd yn ein galluogi ni i ymuno â sawl safle gwahanol a gweithio gyda phartneriaid yn eang ar draws y tirlun.

"Bydd mwy o le ar gyfer bywyd gwyllt, gan gynnwys rhwydwaith o berthi newydd, a'r gallu i storio symiau enfawr o ddŵr a charbon yn ddwfn yn y tir mawn.

"Mae'r haenau o ryngweithiad dynol gyda'r tirlun yn rhyfeddol, o'r hen ffordd Rufeinig i'r tair chwarel lechi a fu'n gymorth i'r wlad ennill cydnabyddiaeth fyd-eang.

"Mae gennym gyfle go iawn yma i wella mynediad at y lleoliad hanesyddol hwn a gweithio gyda'r gymuned leol i ddehongli a gwarchod ei threftadaeth gyfoethog."

Disgrifiad o’r llun,

Tir mynydd y Foel

Bydd cynefinoedd sydd wedi dirywio, gan gynnwys ehangder o dir mawn o arwyddocâd cenedlaethol, yn cael eu hadfer er mwyn iddynt amsugno symiau mawr o garbon a dŵr, gan gynorthwyo'r tirlun i amsugno effeithiau tywydd eithafol a lleihau llifogydd yn y dyffryn.

Amcangyfrifir y gallai'r safle amsugno dros 350,000 o dunelli o garbon ar ôl ei adfer, sy'n gyfwerth â thynnu bron i 80,000 o geir oddi ar y ffordd am flwyddyn.

Dywedodd Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym wedi gweithio'n agos â'r Ymddiriedolaeth ar adfer mawndiroedd, coetiroedd ac i greu cynefinoedd eraill, ac adfer afonydd yn nalgylch Conwy, gan gefnogi'r cyfle i weithio ar y raddfa mae'r Foel yn ei chynnig.

"Mae'r amseru yn hollbwysig, mae angen i ni gyflawni newidiadau i'r modd y rheolir y tir, a hynny'n gyflym iawn mewn ardaloedd allweddol.

"Mae'r Foel yn cynnig carreg gamu i'r Ymddiriedolaeth a Cyfoeth Naturiol Cymru i edrych ar y tirlun o bersbectif llawer ehangach."

Pynciau cysylltiedig