Arestio dyn wedi i fenyw farw mewn gwrthdrawiad ger Aberteifi

  • Cyhoeddwyd
A484 rhwng Aberteifi a LlechrydFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A484 rhwng Aberteifi a Llechryd nos Sadwrn

Mae dyn wedi cael ei arestio wedi i ddynes 27 oed farw mewn gwrthdrawiad ar yr A484 rhwng Aberteifi a Llechryd nos Sadwrn.

Mae swyddogion yn awyddus i siarad ag unrhyw un oedd yn teithio ar y ffordd rhwng 22:00 a 23:00 ar 29 Ionawr.

Mae dyn 23 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Mae'r heddlu yn apelio ar dystion neu unrhyw un sydd â lluniau camera car neu ddrws i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.

Pynciau cysylltiedig