Plismyn arfog yn delio â digwyddiad ger Aberdâr

  • Cyhoeddwyd
Aberdare
Disgrifiad o’r llun,

Dywed trigolion lleol eu bod wedi cael cyngor i aros yn eu tai

Mae trigolion wedi cael gorchymyn i aros yn eu tai wrth i blismyn ddelio â digwyddiad arfog yn Aberdâr.

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod swyddogion yn bresennol yn ardal Llwytgoed nos Sul.

Yn ôl un person sy'n byw yn lleol "mae tir coediog y tu cefn i'r stad dai... ac mae'n ymddangos bod rhywbeth yn digwydd yno".

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r De nad oedd modd rhoi mwy o wybodaeth tra bod y digwyddiad yn mynd yn ei flaen.

Ond cadarnhaodd bod plismyn wedi bod ar y safle ers 16:45 ddydd Sul.

Dywedodd hefyd bod yna gais ar i'r cyhoedd osgoi'r ardal nes eu bod yn cael gwybodaeth bellach.

Pynciau cysylltiedig