AS Cymreig yn cefnogi Johnson er adroddiad Sue Gray
- Cyhoeddwyd
Mae AS Ceidwadol o Gymru wedi croesawu cyhoeddiad am newidiadau i Downing Street yn sgil adroddiad cychwynnol Sue Gray i bartïon yn ystod y cyfnod clo.
Dywedodd David TC Davies, AS Sir Fynwy, wrth raglen Dros Frecwast Radio Cymru nad oedd o'r farn y dylai Boris Johnson ymddiswyddo.
Ddydd Llun fe wnaeth y prif weinidog ymddiheuro ar ôl i'r adroddiad ddweud bod yna fethiannau yn yr arweinyddiaeth yn Rhif 10.
Mae'r heddlu'n dal i ymchwilio, a pharhau mae'r pwysau ar Mr Johnson i ymddiswyddo o du allan i'w blaid.
Dwedodd Mr Davies wrth Dros Frecwast fod yna gymaint ag 8,000 yn gweithio ar adegau yn y rhwydwaith o adeiladau yn Downing Street.
"S'dim dwywaith fod yr adroddiad yn feirniadol am y diwylliant yn Rhif 10", meddai.
"Dwi'n deall pam ei fod yn feirniadol oherwydd bod fi a miloedd wedi dilyn y rheolau."
Ond ychwanegodd: "Dim y prif weinidog yw line manager pobl sydd yn gweithio yn Rhif 10 a be' dwi eisiau ffeindio mas yw pwy oedd yn trefnu'r digwyddiadau."
Ychwanegodd AS Ceidwadol Ynys Môn, Virginia Crosbie ei bod yn croesawu addewid Mr Johnson "y bydd yn gweithredu yn sydyn ac yn bendant" ar argymhellion adroddiad Sue Gray.
Dywedodd fod etholwyr Môn wedi bod yn "hollol glir gyda mi dros y dyddiau diwethaf eu bod eisiau i Lywodraeth y DU weithredu ar y materion sydd wir o bwys iddyn nhw".
Erbyn hyn mae Downing Street yn dweud y bydd yr adroddiad cychwynnol yn cael ei ddiweddaru unwaith fod yr heddlu wedi cwblhau eu hymholiadau.
Pan gafodd Mr Davies ei holi ynglŷn ag ymchwiliad yr heddlu i barti yn fflat yn prif weinidog ei hun dywedodd y bod yn rhaid aros i weld yr adroddiad llawn cyn gwneud penderfyniad.
'Dim awdurdod' os oes celwydd
Ond parhau mae'r galwadau ar Mr Johnson i ymddiswyddo, gan gynnwys rhai o'i blaid ei hun.
Mae Chris Bryant AS Llafur Rhondda a Chadeirydd Pwyllgor Safonau Tŷ'r Cyffredin wedi awgrymu nad oes gan Mr Johnson yr awdurdod moesol i fod yn arweinydd bellach.
"Mae'r prif weinidog wedi dweud ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr yn Nhŷ'r Cyffredin bod yr holl reolau wedi eu hufuddhau, a'r canllawiau wedi eu dilyn ac nad oedd yna bartïon - ac os yw hi'n dod i'r amlwg fod hynny yn gelwydd yna does ganddo ddim awdurdod moesol ac ni all barhau i arwain," meddai wrth Radio Wales Breakfast.
Ychwanegodd AS Plaid Cymru, Hywel Williams, ei bod yn bryd i aelodau Ceidwadol y meinciau cefn "ddarganfod eu hesgyrn cefn" a diswyddo Mr Johnson.
Dywedodd Guto Harri, cyn-gyfarwyddwr cyfathrebu i Mr Johnson pan yn Faer Llundain, fod oedi cyhoeddi'r adroddiad llawn wedi rhoi mwy o amser i'r prif weinidog.
Dywedodd fod yna siom a rhwystredigaeth yn Nhŷ'r Cyffredin bod rhaid aros cyn clywed yr adroddiad yn llawn.
"Yr oedd yn bownd o fod yn siom o'r eiliad yr oedd Heddlu'r Met wedi penderfynu tynnu perfedd y peth mas.
"Wrth gwrs roedd pobl oedd yn chwilio am eiriau cryf i'w defnyddio yn erbyn Boris Johnson yn gallu ffeindio ambell i gymal oedd yn edrych yn wael ac 'oedd pobl yn amddiffyn Boris Johnson yn gallu dweud bod 'na ddim killer blow fel petai."
Roedd Mr Harri hefyd o'r farn fod yr etholwyr yn ymwybodol o wendidau Mr Johnson cyn ei ethol yn brif weinidog.
Mae'n bosib meddai nad yw rhai yn hapus ond bod rhywbeth "blêr iawn mewn democratiaeth ond felly mae'n gweithio," meddai ar raglen Dros Frecwast.
Mae adroddiad Sue Gray wedi dod i'r casgliad bod 16 o bartïon wedi eu cynnal yn Downing Street yn y cyfnod clo.
Mae Heddlu'r Met yn ymchwilio i 12 ohonyn nhw, gan gynnwys un yn fflat 10 Downing Street.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2022