Covid-19: Nifer uchaf o farwolaethau ers Mawrth 2021

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
uned gofal dwysFfynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd 102 o farwolaethau yn gysylltiedig â Covid-19 eu cofnodi yng Nghymru yn ystod yr wythnos hyd 21 Ionawr - y ffigwr wythnosol uchaf ers mis Mawrth y llynedd.

Mae'n cymharu â 69 o farwolaethau yn yr wythnos flaenorol, yn ôl ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae'r ffigyrau yn cyfeirio at farwolaethau lle mae meddygon wedi cofnodi Covid-19 fel ffactor ar y dystysgrif marwolaeth.

Dywed ffigyrau'r ONS fod Covid yn ffactor allweddol mewn 72.9% o achosion yn yr wythnos dan sylw.

Mae hynny'n gyfartaledd llai nag yn y misoedd blaenorol, sef 87%.

Marwolaethau Covid-19 fesul blwyddyn yng Nghymru. Marwolaethau'n gysylltiedig â Covid-19.   .

Ceredigion oedd yr unig sir lle na chafodd yr un farwolaeth yn gysylltiedig â Covid ei chofnodi.

Cafodd 15 o farwolaethau eu cofnodi yn Abertawe a 10 yn Sir Gâr.

Hyd yn hyn mae yna 9,477 o farwolaethau wedi bod yng Nghymru yn gysylltiedig â Covid.

Yn yr un wythnos yn 2021 roedd yna 406 o farwolaethau yn gysylltiedig â Covid yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae canran is o achosion positif yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty

O ran yr ysbytai, mae nifer y cleifion Covid sydd mewn unedau gofal dwys wedi gostwng i'w lefel isaf ers Gorffennaf y llynedd.

Mae'r cyfartaledd dyddiol yng Nghymru wedi gostwng o 24 i 18 mewn wythnos, hyd at 31 Ionawr, yn ôl ffigyrau Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Mae yna 11 gwaith yn fwy o gleifion heb Covid yn derbyn triniaeth gofal dwys erbyn hyn.

Nifer yr achosion positif

Yn ôl y ffigyrau mae'r nifer sy'n dioddef o Covid ac angen triniaeth ysbyty yn llawer is o'i gymharu â'r cyfnod rhwng Rhagfyr a Ionawr 2020-21.

Roedd nifer yr achosion positif oedd angen triniaeth ysbyty ychydig dros 1% o'i gymharu â 10.3% yn y cyfnod blaenorol.

Yng Nghymru 2,491 yw cyfartaledd nifer yr achosion dyddiol positif.

Casnewydd sydd â'r raddfa uchaf ymhlith awdurdodau lleol Cymru, ond mae hynny wedi gostwng i 896.1 am bob 100,000 o bobl.

Mae'r ffigyrau diweddaraf hefyd yn dangos fod 84% o'r bobl sy'n gymwys wedi derbyn trydydd brechiad.

Pynciau cysylltiedig