Ifan Phillips yn 'bositif' wrth ddisgwyl am goes prosthetig
- Cyhoeddwyd
Mae chwaraewr rygbi a gollodd ei goes mewn damwain beic modur wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at allu cerdded eto'n fuan.
Nid oedd hi'n bosib achub coes Ifan Phillips, bachwr y Gweilch, wedi'r digwyddiad ar 5 Rhagfyr.
Bu'n rhaid i ddoctoriaid dorri ei goes dde i ffwrdd uwchben ei ben-glin.
Ond mae'r dyn 25 oed bellach yn ymarfer yn y gampfa, dolen allanol yn ddyddiol ac yn disgwyl i dderbyn coes prosthetig.
"Fel allwch chi ddychmygu, mae'i 'di bod yn gwpl o wythnosau digon twff i fi a'n deulu," meddai ar raglen Ifan Evans ar Radio Cymru.
"Ond fi'n ddigon positif erbyn hyn yn trial cadw'n ffit, ymarfer a cadw'n fishi gyment fi'n gallu - ma' pethe'n mynd yn dda yma."
Y gefnogaeth yn 'hwb enfawr'
Mae ymgyrch ar-lein i godi arian i Phillips - sy'n fab i gyn-fachwr Cymru a Chastell-nedd, Kevin - bellach wedi casglu dros £75,000.
"Ma'r community rygbi i gyd wedi bod yn hwb enfawr i fi," meddai.
"Ma' sawl tîm wedi rhoi cryse' 'di cael eu harwyddo gan y garfan gyfan i helpu fi godi arian ac yn ddiweddar ma' crwtyn ifanc, Callum Powell, wedi bod yn rhedeg 5k i godi arian i fynd at y goes 'ma a'n rehab i.
"O'dd e'n overwhelming pan nes i glywed bod e moyn codi arian."
Roedd y bachwr wedi chwarae 40 o gemau dros y Gweilch, a bu hyd yn oed yn ymarfer gyda charfan Cymru.
Ond am y tro, yr uchelgais ydy cerdded unwaith eto.
"Ar hyn o bryd 'sdim unrhyw blans mawr 'da fi ar gyfer y dyfodol - 'wy jest moyn cerdded," meddai.
"Ma' clinig speshial sy'n arbenigo mewn prosthetics lan yn Lloegr a fi'n mynd 'nôl a mlaen atyn nhw'n wythnosol.
"Fi'n gobeithio mewn cwpl wythnose' falle bydd y goes yn ddigon da i falle roi socket dros y goes a gobeithio fydda i'n galler cerdded cyn hir - 'na'r plan ar hyn o bryd.
"Dwi'n edrych ymlaen. Mae wedi bod yn lot o straen i ffrindie' fi a'r teulu achos ma' nhw'n gorfod mynd â fi i bob man.
"Fi ffaelu 'neud lot o bethe' rownd y tŷ a ma'n lot o waith caled a fi'n edrych 'mlaen i allu roi'r coes 'mlaen a mynd 'nôl i ryw fath o fywyd normal a 'neud pethe fy hunan.
"Dwi'n mynd i'r gym yn ddyddiol 'da'n ffrind i, Josh. Ni'n mynd bob bore am 07:30 i gadw'n hunan yn fishi a cadw'n hunan o fod yn y tŷ yn sylcan gormod."
Ychwanegodd: "Fi wedi 'neud cwpl o nosweithi' ar [raglen] Clwb Rygbi a 'neud sylwebu ar y teledu a ma'n rhywbeth dwi wedi joio 'neud.
"Gobeithio galla'i 'neud dipyn mwy o fe nawr gyda bach mwy o amser rhydd nawr bo fi ffaelu chwarae rygbi."
Bydd Ifan Phillips yn gyfrannwr cyson ar raglen Ifan Evans drwy gydol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2021