49 o artistiaid cerddorol i rannu £63,000 o gronfa Gorwelion
- Cyhoeddwyd
Mae Cronfa Lansio Gorwelion wedi cyhoeddi'r 49 o artistiaid cerddorol fydd yn rhannu dros £63,000 fel rhan o'r prosiect eleni.
Mae'r bartneriaeth rhwng BBC Cymru a Chyngor y Celfyddydau wedi rhoi £273,000 er mwyn cefnogi dros 250 o unigolion a grwpiau ers ei sefydlu yn 2014.
Y cyllid eleni yw'r swm mwyaf ers i'r gronfa gael ei sefydlu.
Ymysg yr artistiaid sy'n derbyn cefnogaeth eleni mae Gwenno Morgan, Hanna Lili, KIM HON, Mali Haf, skylrk., SYBS a Tara Bandito.
Nod y cyllid yw helpu artistiaid i ddatblygu eu gyrfaoedd cerddorol, a "chefnogi gwaith talent newydd o bob cwr o'r wlad ac yn cwmpasu holl sbectrwm y byd cerddorol yng Nghymru".
Mae'r arian ar gyfer y Gronfa Lansio ar gael drwy'r Loteri Genedlaethol, ac yn cael ei ddyrannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Pwy fydd yn derbyn arian eleni?
ALICE LOW - CAERDYDD
ANWAR SIZBA - CAERDYDD
AISHA KIGS - CAERDYDD
ALEKXSANDR, CAERDYDD
ARTSHAWTY - CAERDYDD
ASHA JANE - CAERDYDD
BANDICOOT - ABERTAWE
THE BUG CLUB - CIL-Y-COED, SIR FYNWY
CHASING SHADOWS - SIR DDINBYCH
CELAVI - BANGOR
CLWB FUZZ - CAERDYDD
CERYS HAFANA - MACHYNLLETH
CI GOFOD - MAESTEG
CUPSOFTE - CAERDYDD
GWENNO MORGAN - BANGOR
HANNA LILI - ABERSILI
HEMES - PONTYPRIDD
TEDDY HUNTER - CAERDYDD
JAMES AND THE COLD GUN - CAERDYDD
K(E)NZ - ABERTAWE
KINNIGAN - CAERDYDD
KIM HON - CAERNARFON
HARRY JOWETT - BRO MORGANNWG
L E M F R E C K - GWENT
LLOYDY LEW - TORFAEN
LUKE RV - CASTELL-NEDD
MACE THE GREAT - CAERDYDD
MALAN - CAERNARFON
MALI HAF - CAERDYDD
MANTARAYBRYN - CAERDYDD
MIRARI MORE - CAERDYDD
NIQUES - CAERDYDD
PANTA RAY - CAERDYDD
REBECCA HRN - PORTHCAWL
ROMAN YASIN - CAERDYDD
SKYLRK - DYFFRYN NANTLLE
SOREN ARAUJO - CARDIFF
SYBS - CASNEWYDD
SU SANG SONG - CAERDYDD
SZWE - CAERFYRDDIN
TARA BANDITO - CAERDYDD
TAPESTRI - SIR BENFRO/SIR FÔN
THALO - PENYGROES
WINGER RECORDS - SIR GAERFYRDDIN
WOBBLI BOI - SIR GAERFYRDDIN
WYNT - RHONDDA
VOYA - CAERDYDD
YAZMEAN - CAERDYDD
XL LIFE - CAERDYDD
Dywedodd Bethan Elfyn, rheolwr prosiect gyda Gorwelion fod y cynllun yn "rhoi'r camau cyntaf hollbwysig i artistiaid yng Nghymru".
"Mae'n bwysicach nag erioed i gysylltu cymuned, i gredu yn yr artistiaid a'u taith ac i roi buddsoddiad yn niwydiant cerddoriaeth Cymru, a hynny yn yr eco-system gyfan o amgylch yr artistiaid - o'r stiwdios, i gynhyrchwyr, labeli, cwmnïau hyrwyddo a mwy," meddai.
Ychwanegodd Lisa Matthews-Jones, rheolwr portffolio yng Nghyngor Celfyddydau Cymru eu bod "wrth ein bodd o weld nifer a chyfoeth y ceisiadau a ddaeth i law".
"Mae llawer iawn o dalent cerddorol yng Nghymru ar draws pob genre ac ymhob cornel, ac mae'r Gronfa Lansio yn gyfle hollbwysig i ddyrchafu'r artistiaid hyn," meddai.
'Cymry mor lwcus'
Dywedodd Tara Bethan, sydd bellach yn perfformio dan enw Tara Bandito, y bydd yr arian yn gymorth i artistiaid cerddorol sydd wedi'i chael yn anodd yn ystod y pandemig.
"Fel Cymry 'dan ni mor lwcus. Mae bod yn gerddor - ymysg lot o jobsys eraill - yn y ddwy flynedd ddiwetha' 'ma yn sicr wedi bod yn anodd," meddai ar Dros Frecwast.
"Ond i fi yn bersonol be' fydd yr arian yma'n ei olygu ydy 'mod i'n gallu rhyddhau dau fideo cerddoriaeth arall ar ben yr un cyntaf, sef Blerr."
Ychwanegodd Mali Haf ei bod wedi ystyried gwneud cais am y cynllun ers blynyddoedd.
"O'n i'n cofio pan o'n i yn arddegau fi ac o'dd mam yn dweud 'C'mon Mali ymgeisia am Gorwelion', ag o'n i fel 'fi ddim yn barod 'to'.
"Ond o'dd e wastad ar bucket list fi ag o'dd e mor sbesial cael e y tro cyntaf i fi drio amdano fe.
"Fi 'di dilyn e ers ages, gweld pwy sy'n mynd arno fe a chael yr arian, ac maen nhw mor dalentog ac anhygoel, ti'n meddwl 'ydw i'n gallu 'neud e?'"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2021