Llanciau'n 'targedu' gweinidog gydag wyau a baw ci
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidog gyda'r Annibynwyr o'r Tymbl wedi mynegi ofnau ei fod yn dioddef ymgyrch o ymddygiad gwrthgymdeithasol gan griw o lanciau lleol am ei fod yn weinidog.
Mae'r Parchedig Emyr Gwyn Evans, sydd yn gwasanaethu chwe eglwys, wedi dweud wrth Newyddion S4C fod pobl ifanc yn ymosod ar ei gartref gydag wyau a gwrthrychau eraill hyd at ddwywaith yr wythnos erbyn hyn.
Yn ôl y Parchedig Evans, mae'r ymosodiadau yn gwaethygu ac yn cael effaith ar ei gymdogion.
"Maen nhw wedi bod yn tarfu ar y lle... yn dod yn hwyr gyda'r nos yn curo drysau a ffenestri ac yn poeni am oriau," meddai.
"Ond yn ddiweddar mae pethau wedi dwysáu yn fawr iawn. Ma' nhw wedi bod yn taflu cymaint o bethau at y tŷ - caniau cwrw, poteli gwydr cwrw, bin liners, baw cŵn, siocled...
"O'dd y sbwriel mas un nosweth - fe daflo nhw biben hoover a brwsh hoover at y ffenestri ac yn y blaen a o'dd rheiny yn galed. Alle rheiny fod wedi torri'r ffenestri.
"Ond yn waeth na'r cyfan ma' nhw wedi bod yn hyrddio wyau at y tŷ a mae wedi gwaethygu yn ystod y misoedd diwethaf ac wedi bod yn ddi-baid ers dechrau'r flwyddyn, rhyw dwy, dair gwaith yr wythnos.
"Nawr, fe ddaethon nhw nos Wener diwethaf pan o ni yn cysgu yn y gwely. Roedden nhw wedi plastro ffrynt y tŷ gyda wyau. 'Nes i ddim sylwi - o'n ni'n cysgu - a dyma nhw'n curo ar y drysau a'r ffenestri.
"Pan godes i yn y bore weles i y mess. O'dd un ŵy wedi rhoi mewn drwy flwch postio y tŷ a llawer wedi plastro ar y ffrynt y drysau, y ffenest. A gwaetha'r modd o'n nhw wedi twlu wyau ar y wal sydd yn anodd i'w glanhau ac yn mynd i fod yn gost i'w glanhau.
"Ond digwyddodd hyn wedyn wythnos hon, nos Lun diwethaf... Daethon nhw am gwarter wedi saith a weles i rhyw dri neu bedwar neu bump falle, nes bod rhai falle wedi sgathru hi o'r llwybr yn hyrddio wyau at y tŷ.
"Ffindes i yn ddiweddar ar ôl hynny bocsys wyau a 15 ymhob bocs a gweles i nhw yn hyrddio wyau at y tŷ, a ma' hynna wedi digwydd ddwywaith nawr yn yr wythnos ddiwethaf."
Elfen o 'gasineb'
Mae Emyr yn pryderu ei fod yn cael ei dargedu am ei fod yn Gristion ac yn weinidog.
"Dwi ddim yn gallu bod yn hollol siŵr ond ma' dyn wedi clywed un ohonyn nhw yn gweiddi yn 'itha cyson 'Bible Basher' so ma' rhywfaint o gasineb a ma' nhw'n gw'bod taw gweinidog ydw i ac ma' nhw'n ymosod falle ar y lle ac ar y tŷ oherwydd bod nhw gwybod [taw] gweinidog sy'n byw yma.
"Beth sy'n siomi fi yn fawr iawn - ma'r cymdogion yn cael ei tristáu, ma' 'na chwiorydd, a chwiorydd oedrannus, yn byw o nghwmpas i. Ma' nhw'n bryderus iawn ac yn ddiflas iawn ac yn drist oherwydd yr holl beth."
Yn ôl y Parchedig Evans, mae'r ymosodiadau'n effeithio nawr ar ei waith fel gweinidog.
"Mae e yn effeithio arno chi yn feddyliol. Dwi'n fachgen cryf, gyda llaw - dyw rhain ddim yn mynd i gael y gorau arna'i ac y'n ni mynd i'w trechu nhw ond mae yn cael effaith arnoch chi.
"Mae e yn ypsetio chi yn feddyliol. Pan o ni'n trio mynd i gysgu nos Sul o'n ni ffaelu rhoi 'mhen lawr i gysgu ac o'n ni yn gynddeiriog, o'n ni yn danbaid wyllt achos bod nhw'n neud y fath beth.
"Ges i ddim lot o gwsg a dihunais i'n gynnar a'r un peth oedd ar eich meddwl chi. Mae e yn amharu arnoch chi yn feddyliol.
"Trannoeth i nos Lun o'n i'n gorfod mynd i ochre Sanclêr i angladd a chymryd rhan yn gyhoeddus a gweddïo yn yr angladd, o'dd ddim yn hawdd... wedi colli noson o gwsg."
Mae cwynion wedi cael eu gwneud ynglŷn â'r ymddygiad i Heddlu Dyfed-Powys.
"Ma'r heddlu wedi bod yn dda, yn concerned iawn," meddai'r Parchedig Evans.
"Y'n ni cyn heddi, nôl ym mis Tachwedd, wedi dal rhyw ddau oedd wedi prynu wyau mewn siop leol yma a ma'r heddlu wedi ca'l gair gyda'r ieuenctid hynny.
"Dyw eu rhieni ddim bob amser yn help achos 'na gyd sydd gyda'r rhieni i ddweud wrth yr heddlu yw 'pam eu bod nhw'n pigo ar ein plant ni'.
"A dyna'r cwestiwn ma' pawb yn gofyn yn y pentre: 'Ble ma' rhieni'r plant ma' bod nhw allan yn hwyr gyda'r nos, hyd yn oed yn oriau mân y bore? Ble ma' rhieni bod nhw ddim yn gallu bod mwy gofalus bod y plant adre?' Ond ma'r broblem wedi gwaethygu nawr."
Erbyn hyn, mae'n ystyried gwario dros £1,000 i osod camerâu cylch cyfyng ar y tŷ. Mae'n apelio ar bobl leol i gysylltu gyda'r heddlu er mwyn rhoi gwybodaeth am y sawl sy'n gyfrifol.
"Ma' rhaid i ni daclo'r tacle, os cai roi fe fel 'na, a ma' pobl y lle yn awyddus os galle ni ga'l enwe a bod ni ca'l yr enwe a rhoi'r enwau hynny i'r heddlu iddyn nhw ga'l dilyn mlaen gyda'u investigations nhw. Rhaid dod â hwn i stop - allwn ni ddim para i fyw fel hyn."
Apêl heddlu i rieni
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys mae'r tîm plismona'r gymdogaeth leol "wedi bod mewn cysylltiad â'r dioddefwr ac aelodau eraill o'r gymuned" wedi i bryderon ddod i'w sylw.
Dywed y llu eu bod wedi cynnal ymholiadau gyda "siopau, tai trwyddedig, y Cyngor a phawb â CCTV yn yr ardal mewn ymgais i gadarnhau pwy yw'r troseddwyr a delio â nhw'n briodol".
Ychwanegodd llefarydd bod "dau lanc wedi eu cofnodi hyd yn hyn" a'u cyfeirio at gynllun sy'n ceisio atal mân droseddu.
Mae'r llu'n "apelio'n uniongyrchol at rieni i fod yn ymwybodol o ble mae eu plant, a beth maent yn ei wneud".
Maen nhw hefyd, "mewn ymateb i'r digwyddiadau hyn", yn trefnu bod mwy o blismyn yn yr ardal er mwyn tawelu meddyliau'r gymuned leol ac yn annog pobl i'w hysbysu ynghylch achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mewn cyfarfod nos Fercher fe awgrymodd aelodau'r eglwysi y mae'r Parchedig Evans yn gyfrifol amdanynt fod yr ymosodiadau "yn y categori 'troseddau casineb' ac y dylai'r heddlu ymchwilio iddynt fel y cyfryw".
Fe fynegodd aelodau Pwyllgor Gofalaeth Bröydd Myrddin, "sioc a dicter" ynghylch yr ymosodiadau, gan ychwanegu: "Roedd consyrn mawr bod hi'n ymddangos bod y Parchedig Evans yn cael ei dargedu am ei fod yn weinidog yr efengyl."