Dwy ddynes yn yr ysbyty wedi ymosodiad gan gi
- Cyhoeddwyd
Mae dwy ddynes yn cael triniaeth ysbyty wedi adroddiadau o ymosodiad gan gi mewn eiddo yn Llyswyry ger Casnewydd.
Ar ran Heddlu Gwent dywedodd yr Uwch-Arolygydd Vikki Townsend: "Fe gawsom ein galw i'r eiddo oddeutu 16:50 nos Fercher wedi adroddiadau bod ci wedi ymosod ar rywun y tu mewn i eiddo.
"Roedd swyddogion arfog yn bresennol er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd.
"Mae dwy ddynes wedi cael anafiadau ac yn cael triniaeth yn yr ysbyty."
Cafodd y ddwy anafiadau i'w coesau a'u traed, a'r gred yw nad ydynt yn peryglu eu bywydau.
Ychwanegodd yr heddlu: "Aed â'r ci i gybiau lleol tra bod swyddogion yn parhau i ymchwilio yn yr ardal.
"Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru hefyd yn bresennol.
"Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu cydweithrediad."