Rhybudd rhag dioddef twyll trwy negeseuon Whatsapp
- Cyhoeddwyd
Mae pobl yn colli miloedd o bunnoedd yn sgil ffordd newydd o dwyllo drwy'r ap negeseuon WhatsApp, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.
Mae twyllwyr yn danfon negeseuon gan honni bod yn berthynas agos â rhif ffôn newydd, cyn gofyn am help gyda biliau neu gostau eraill.
Neges gyntaf y sgwrs mewn llawer o achosion yw: "Helo mam, mae gen i ffôn newydd, plîs cadwa'r rhif."
Dywed ditectifs y llu bod yna broblem ar draws y DU, ond yn yr achosion y maen nhw wedi eu hymchwilio mae dioddefwyr, ar gyfartaledd, wedi colli bron i £2,500 yr un.
Maen nhw'n cynghori pobl i stopio, meddwl a holi cyn trosglwyddo arian i unrhyw un.
'Digon o fanylion i swnio'n ddilys'
Cafodd Sarah Capper o'r Rhyl ei thwyllo trwy WhatsApp fis diwethaf.
"Cefais neges yn dechrau 'haia mam', yn dweud bod ei hen ffôn ddim yn gweithio ac i mi arbed y rhif newydd," dywedodd.
"Naethon ni sgwrsio am sbel ac roedd y twyllwr hyd yn oed yn trafod bod dan straen yn y gwaith fel tasen nhw'n ferch i mi.
"Rywsut roeddan nhw wedi darganfod digon o fanylion am ei gwaith i'r holl beth swnio'n hollol ddilys.
"Daeth neges wedyn yn gofyn os gallwn i helpu trwy dalu anfoneb achos, oherwydd y ffôn newydd, doedd 'hi' heb lwytho app ei banc eto a byddwn ni'n cael yr arian yn ôl yn syth.
"Ond y diwrnod wedyn, gofynnais i fy merch pam nad oedd hi wedi fy ad-dalu ac roedd hi'n gwybod dim byd amdano... wnes i feichio crio.
"Dwi wedi fy llorio'n llwyr. Nid yn unig wnes i ddanfon £2,100 i'r ferch ffug yma, wnes i fenthyca £1,800 gan fy nghymar, y mae'n rhaid ei ad-dalu rŵan.
"Byswn i 'di taeru 'mod i'n siarad gyda fy merch, nid person hollol ddieithr. Mae'n frawychus ac yn ofidus. Dydw i ddim eisiau iddo ddigwydd i unrhyw un arall."
"Dwi'n ymddiried 100% yn fy mhlant felly os maen nhw'n dweud eu bod angen help, 'dach chi'n eu helpu heb feddwl."
Yn ffodus i Sarah Capper, fe fownsiodd y taliad am ryw reswm. Mae'r heddlu'n ymchwilio ac yn tybio bod y banciau eisoes ag amheuon ynghylch y cyfrif roedd yn twyllwr yn ei ddefnyddio.
'Teimlo'n credadwy'
Fe dderbyniodd Zoe Burrell o Ynys Môn neges WhatsApp yn dweud: "Mam... dyma fy rhif newydd, gelli di ddileu fy hen rif xx."
Dywedodd: "Ar ôl imi gofnodi'r rhif, yn amlwg roedd pob neges yn ymddangos ar y ffôn gydag enw fy merch - rhywbeth bach sy'n gwneud iddo deimlo'n fwy credadwy.
"Dwi wedi benthyca arian i fy merch o'r blaen ac wedi ei gael yn ôl bob tro.
"Mae hi wedi newid ei rhif ffôn yn y gorffennol hefyd, felly roedd yn teimlo'n hollol iawn i ddechrau.
"Roedd yna elfen o flacmêl emosiynol hefyd - bod hi mewn trafferth, mae'n rhaid gwneud rhywbeth yn sydyn, ac fe aeth synnwyr cyffredin trwy'r ffenest."
Fe drosglwyddodd arian ar bedwar achlysur - cyfanswm o dros £4,800, ond ni aeth y swm olaf drwodd wedi i'w banc ddod yn amheus a rhewi ei chyfrif.
Pan ymwelodd â'r banc fe gadarnhaodd staff mai twyll oedd y cyfan.
"Ffoniodd y banc fy merch ac roedd hi'n gwybod dim byd amdano," meddai.
"Roedd yn sioc enfawr. Ro'n i wedi llorio. 'Dach chi'n teimlo'n ffŵl.
"Maen nhw'n glyfar iawn ac mae'r elfen bersonol, esgus bod yn berthynas agos, yn eich bachu."
Nifer achosion 'yn codi'n raddol'
Mae Sarah Capper a Zoe Burrell wedi rhannu eu profiadau yn y gobaith o atal eraill rhag cael eu twyllo yn yr un modd.
Yn ôl Heddlu'r Gogledd mae llawer o'r dioddefwyr yn famau â phlant sydd bellach yn oedolion.
Mae ditectifs yn ceisio cadarnhau a yw twyllwyr yn ymchwilio i gefndiroedd unigolion cyn cysylltu â nhw, ynteu'n mentro yn y gobaith o ddweud y pethau cywir ar hap i wneud i bobl ymddiried ynddyn nhw.
"Mae hwn yn dwyll gymharol newydd, ond mae'r ffigyrau'n codi'n raddol," medd y Ditectif Gwnstabl Rachel Roberts, Swyddog Diogelu Rhag Camddefnydd Ariannol y llu.
"Mae un dioddefwyr newydd yn cysylltu efo ni bob dydd erbyn hyn.
"Mewn pythefnos yn unig ddechrau Ionawr, fe wnaeth twyllwyr geisio dwyn £24,000 gan bobl yng ngogledd Cymru yn unig.
"Mae'n dwyll arbennig o annymunol gan fod troseddwyr yn aml yn esgus bod yn fab neu'n ferch i rywun.
"Mae pobl yn defnyddio WhatsApp i siarad efo perthnasau a ffrindiau agos, ac mae pobl yn naturiol yn ymateb i'w plant yn ddigwestiwn.
"Ein cyngor yw i bobl stopio a meddwl wedi cais am arian a manylion personol.
"Ffoniwch y person ar rif arall a gwneud yn siŵr bod y cais yn un dilys."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd22 Mai 2021
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2021