'Angen cynllun pàs bws fel yn Yr Alban yng Nghymru'

  • Cyhoeddwyd
Dwy ferch ar fwsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ers 31 Ionawr mae pawb dan 22 oed yn cael teithio ar fysus am ddim yn Yr Alban

Wrth i bobl ifanc ar draws Yr Alban wneud cais yr wythnos hon am basys bws am ddim, mae galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno polisi tebyg.

Ers dydd Llun mae gan unrhyw un dan 22 oed yn Yr Alban hawl i wneud cais am y pas, a hynny yn dilyn cytundeb rhwng yr SNP a'r Gwyrddion yn Holyrood.

Mewn cyfweliad i raglen Newyddion S4C, mae elusen sy'n gweithio gyda phobl digartref a difreintiedig yng Ngwynedd nawr wedi galw ar Gymru i efelychu'r polisi hwnnw.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ganddyn nhw eisoes gynllun sy'n gwneud teithio'n rhatach i rai pobl ifanc, ond y byddan nhw'n edrych i ehangu hynny yn y dyfodol.

'Llai fforddiadwy i rai nag i eraill'

Yn ôl Sian Tomos, prif weithredwr elusen Gisda, byddai cyflwyno polisi o'r fath yn hwb mawr i bobl ifanc sy'n ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd.

"Mae'n anodd mynd i'r gwaith, cael bysus ar yr adeg iawn - bysa jyst tynnu y rhwystr yna [o ran cost] yn gwneud andros o wahaniaeth."

Sian Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Fe fyddai pas o fudd i lawer o bobl mewn gwahanol amgylchiadau, medd Sian Tomos

Gallai'r cynllun helpu pob math o bobl, meddai - o rieni sy'n gorfod gwario'n sylweddol ar gost bysus ysgol i'w plant, i bobl ifanc sy'n dibynnu ar fysus i deithio i'r gwaith, coleg, neu gyfweliadau swydd.

"O ran y bobl ifanc mae Gisda'n ei gefnogi, mae'n eithriadol o ddrud, ac hefyd yn byw yng nghefn gwlad Cymru does 'na ddim lot o fysus yn mynd o amgylch."

Ychwanegodd fod y rheiny sy'n dweud bod bysus yn ddigon fforddiadwy yn barod angen cofio nad yw pawb yn yr un sefyllfa.

"Mae pob dim yn gymharol, dydi - os 'dach chi ar gyflog mawr 'di talu £5 am fws i Fangor yn ddim byd," meddai.

"Ond os 'dach chi ddim ar lawer o bres, neu ar fudd-daliadau isel, mae £5 yn andros o lot o bres o ran canran o'ch incwm chi.

"Dwi'n meddwl 'sa fo'n dda iawn i'r amgylchedd hefyd o ran hybu defnydd o drafnidiaeth cyhoeddus."

Osian a Lennon
Disgrifiad o’r llun,

Osian a Lennon - dau sy'n teithio ar fysus ac o blaid cynllun tebyg i un Yr Alban

Wrth aros am fws yng Nghaernarfon roedd Osian a Lennon, y ddau'n 17, yn croesawu'r syniad yn fawr.

"Dwi'n gweithio rhan amser, ac hefyd efo inflation mae pob dim yn costio lot, felly mae gennai barely dim byd yn y banc," meddai Osian.

"Mae rhan fwyaf o pres fi'n mynd ar fysus, mae o'n jôc dydi.

"Mae pobl Caernarfon a Gwynedd, 'dan ni'n bobl gweithio, mae pawb yn dal bysus. Mae pethau'n costio gormod ar y funud, y bysus yn enwedig."

Ychwanegodd Lennon: "Fysa fo'n help mawr i bobl fel fi, a ffrindiau, a phobl sy'n 'neud trip bob dydd."

Amy
Disgrifiad o’r llun,

A hithau'n fyddar, mae Amy, 21, eisoes yn gallu manteisio ar bas bws

Ar hyn o bryd dim ond pobl dros 60 oed a'r rheiny ag anableddau sy'n gymwys i gael pas bws am ddim yng Nghymru.

Fel person byddar mae Amy, 21, sy'n gweithio mewn siop yn y dref, eisoes yn gallu manteisio ar y pas, ac yn dweud y byddai'n help mawr i eraill.

"Dwi'n gweld o'n really handi i bawb i gael bws am ddim, i bobl gael trafeulio i gwaith yn lle meddwl am stryglo," meddai.

Yn ôl Sian Tomos, fe allai cynllun o'r fath wneud gwahaniaeth rhwng cael gwaith neu ddim i rai pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig.

"Dydi o ddim yn ddigon i drio cynnig gwaith ac hyfforddiant a chyfleoedd i bobl ifanc os na 'dach chi'n ystyried y trafnidiaeth, y fforddio i fynd yna, a sut maen nhw'n cyrraedd yna," meddai.

"Mae cael trwydded gyrru jyst ddim yn fforddiadwy ar hyn o bryd i lot o bobl ifanc."

Ar hyn o bryd cynllun mwy cyfyngedig sydd gan Lywodraeth Cymru, sy'n cynnig gostyngiad o 30% ar bris tocyn bws i bobl ifanc rhwng 16 a 21.

"Rydym yn edrych ar ffyrdd o ymestyn Fy Ngherdyn Teithio ar gyfer teithio rhatach i bobl ifanc fel rhan o'n hagenda trawsnewid bysiau," meddai llefarydd.