Johnson ar daith

  • Cyhoeddwyd

Pethau rhyfedd ar y naw yw teithiau ffarwel lle mae artist neu fand yn penderfynu gwneud un tyrn olaf o gwmpas y bloc cyn rhoi eu traed i fyny a gwrando ar Shân Cothi neu wylio Bargain Hunt.

Dwn i ddim am ba hyd y parodd taith ffarwel Hogia'r Wyddfa ond roedd hi'n teimlo fel blynyddoedd lawer a gwell i ni beidio dechrau siarad ynghylch ffarwel Meic Stevens!

Mae hynny'n dod a ni at symudiadau Boris Johnson dros yr wythnos ddiwethaf.

Dyma gwestiwn i chi. Pe bai chi yn Brif Weinidog a'i ddyfodol yn nwylo ei aelodau seneddol a'i beiriant llywodraethol yn troi'n dipyn o lanast, lle byddech chi yn dewis treulio'ch amser?

Yr ateb amlwg, am wn i, yw y byddech chi'n treulio pob awr o'r dydd ar nos yn shmwso eich aelodau meinciau cefn ac yn ceisio adfer y difrod yn Downing Street.

Nid felly Boris Johnson.

Yn yr wythnos ddiwethaf mae'r Prif Weinidog wedi ymweld â Deganwy, Caergybi, Tilbury, Kiev a Blackpool. Ac eithrio yn yr Iwcrain, doedd y bocs gwisg ffansi byth yn bell o'i benelin ac roedd Johnson ei hun yn ddigon parod i roi ei fawd i fyny a pherfformio ei greatest hits.

Yr esboniad, mae'n debyg, yw bod y Prif Weinidog am greu delwedd o ddyn wrth ei waith, ei fod e'n delio â'r pynciau sydd o bwys i'r etholwyr gan adael i eraill obsesio ynghylch ei bartïon honedig.

Y broblem gyda hynny wrth gwrs yw bod ymddygiad y Prif Weinidog o bwys ar lawr gwlad. Nid swigen honedig San Steffan sy'n gyrru'r stori ond dicter yr union etholwyr y mae Johnson yn ceisio eu swyno.

Efallai bod Boris Johnson yn gwybod hynny yn ei galon a taw taith ffarwel a welwyd yr wythnos hon ond mae 'na un esboniad posib arall.

Os ydy Downing Street yn debycach i lys canoloesol na llywodraeth fodern y dyddiau hyn, fe fydd y rheiny sy'n cynllwynio yn y cysgodion yn ymwybodol o bwysigrwydd cadw'r brenin yn brysur rhag iddo sylwi ar yr hyn sy'n digwydd tu ôl i'w gefn.

Yr wythnos hon fe gymharodd y Prif Weinidog ei hun ag Othello gyda Dominic Cummings yn chwarae rhan Iago ond efallai mai Richard III yw ddrama addas ar gyfer y sefyllfa hon.

Gyda Harri Tudur yn agosáu at Bosworth, ydy'r llinellau hyn yn taro tant?

"Bloody thou art, bloody will be thy end; Shame serves thy life and doth thy death attend."

Pynciau cysylltiedig