Carcharu darlithydd am ladd menyw trwy yrru'n beryglus
- Cyhoeddwyd
Mae darlithydd coleg wedi'i garcharu am bum mlynedd a hanner am achosi marwolaeth menyw trwy yrru'n beryglus.
Clywodd y llys bod Iestyn Jones wedi bod yn chwarae gyda radio'r car, pan wyrodd i ochr anghywir y ffordd a tharo'r car roedd Shirley Culleton a'i gŵr Michael yn teithio ynddo.
Roedd Mr a Mrs Culleton yn teithio adref ar hyd yr A4046, Ffordd Cwm ger Glyn Ebwy, ar ôl bod yn siopa pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar 6 Gorffennaf 2019.
Cafodd y ddau eu hanafu'n ddifrifol. Fe gafodd Shirley Culleton ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, lle bu farw'r diwrnod canlynol.
Fe dreuliodd Michael Culleton saith wythnos yn cael triniaeth yn Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni.
'Y golled gymaint ag erioed'
Yn ystod yr achos llys ddiwedd y llynedd, clywodd y rheithgor bod Jones wedi dweud wrth dystion ei fod wedi bod yn chwarae gyda radio'r car cyn y gwrthdrawiad
Yn Llys y Goron Caerdydd brynhawn Gwener, fe fu merch yng nghyfraith Shirley Cullerton yn darllen datganiad ar ran y teulu.
Dywedodd bod "y golled gymaint ag erioed hyd yn oed dwy flynedd a hanner ar ôl ei marwolaeth", a bod "calon y teulu wedi'i thynnu i ffwrdd".
Ychwanegodd bod "y teulu yn methu deall pam bod y fath beth wedi digwydd i rywun mor garedig a gofalgar".
Roedd Iestyn Jones wedi'i gael yn euog o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus, ac o achosi niwed difrifol trwy yrru'n beryglus.
Fe fydd yn gorfod treulio o leiaf hanner ei ddedfryd dan glo, cyn cael ei ryddhau ar drwydded.
Mae hefyd wedi'i wahardd rhag gyrru am bum mlynedd a naw mis.
Mewn datganiad yn dilyn yr achos, dywedodd Leighton Mawer o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Mae'r achos hwn yn atgoffa pawb pa mor bwysig yw hi i ganolbwyntio'n llwyr tra'n gyrru."