Covid-19: Absenoldeb ysgolion ar ei waetha' fis Ionawr

  • Cyhoeddwyd
ysgol Caerffili

Roedd absenoldeb o'r ysgol o achos Covid yn waeth ym mis Ionawr nag ar unrhyw adeg yn ystod y pandemig yn ôl prifathro fu'n siarad a rhaglen Newyddion S4C, ac mae ffigyrau swyddogol yn tanlinellu faint o broblem sydd o hyd.

Yn ôl Stats Cymru 85.4% o ddisgyblion oedd yn yr ysgol yn ystod wythnos ola'r mis, sef 24 - 28 Ionawr, i lawr o 87.8% yn ystod yr wythnos cyn hynny.

Y rheswm mwyaf cyffredin dros golli ysgol oedd absenoldeb o achos Covid-19.

"Ar gyfartaledd dros yr wythnosau diwetha' efo Omicron dan ni'n edrych ar rhwng 30 a 40 o ddisgyblion i ffwrdd yn ddyddiol" meddai Lynn Griffiths, prifathro Ysgol Gynradd Gymraeg Caerffili, "a 'dan ni'n edrych ar rhwng chwech a saith o staff, athrawon a staff cynorthwyol i ffwrdd hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lynn Griffiths mai "dyma'r gwaethaf mae 'di bod ers dechrau'r pandemig".

"O ran y disgyblion, 'dyn nhw ddim yn arbennig o sâl ond maen nhw'n profi'n bositif oherwydd bod mwy o brofion 'lateral flow' yn cael eu gwneud.

"O ran y nifer sy'n absennol, dyma'r gwaetha mae 'di bod ers dechra'r pandemig."

Prinder athrawon cyflenwi

Mae'n dweud mai ychydig iawn o athrawon cyflenwi sydd ar gael - a hynny'n rhyw beth sy'n cael ei adleisio gan undeb athrawon UCAC.

"Mae prinder athrawon cyflenwi yn bendant yn broblem" meddai Is-Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, Rebecca Williams.

Disgrifiad o’r llun,

Mae diffyg staff cyflenwi yn "broblem tymor hir" medd Rebecca Williams o undeb UCAC

"Mae 'di bod yn broblem tymor hir a dan ni di gweld hynny'n waeth byth yn ystod y pandemig achos bod na fwy o lefel o absenoldeb a hefyd mwy o bryder ymhlith y gweithwyr cyflenwi ynghylch dod mewn i ysgolion ... mae'n rhyw beth y mae gwir angen i Lywodraeth Cymru ei daclo nawr."

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n cydnabod bod prinder staff mewn ysgolion wedi bod yn her ar draws y DU yn ystod y pandemig.

"Yng Nghymru mae awdurdodau lleol ac asiantaethau wedi bod yn gweithio i fodloni'r galw am staff ar hyd y cyfnod.

"Rydyn ni wedi cyllido lleoliadau i 400 o athrawon newydd gymhwyso, sydd wedi cynyddu'r capasiti mewn ysgolion. Yn ogystal, rydyn ni wedi gweithio gydag asiantaethau ac eraill i gynyddu'r staff cyflenwi sydd ar gael, gan gynnwys cymryd camau i annog cyn-athrawon i ddod yn ôl i'r maes.

"Mae yna nifer o ffyrdd i ysgolion ac awdurdodau lleol recriwtio staff cyflenwi, yn gyffredinol neu mewn cyfnodau o absenoldeb uwch - gan gynnwys drwy asiantaethau a gymeradwywyd, neu'n uniongyrchol."

Wedi'r gwyliau hanner tymor mae Llywodraeth Cymru'n gobeithio y bydd modd i'r ysgolion wneud penderfyniadau eu hunain yn unol a'r fframwaith Covid.

Pynciau cysylltiedig