Covid-19: Nifer sy'n ddifrifol wael yr isaf ers haf 2021

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gwely golfal ddwysFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae nifer y cleifion ysbyty sy'n ddifrifol wael oherwydd Covid-19 ar ei lefel isaf ers haf y llynedd, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Ar gyfartaledd roedd 560 o gleifion ysbyty oedd wedi profi'n bositif am y coronafeirws ar 3 Chwefror, sef ffigyrau tebyg i'r wythnos gynt.

Mae gostyngiad diweddar yn niferoedd cleifion wedi arafu, ond yn yr un cyfnod 12 mis yn ôl, roedd dwywaith gymaint o gleifion Covid yn yr ysbyty.

Ar 3 Chwefror roedd 13 o gleifion yn derbyn cymorth anadlu neu mewn gwlâu gofal critigol ar draws ysbytai Cymru - y lefel isaf ers Gorffennaf 2021, yn ôl Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Mae'r cyfartaledd dyddiol wedi syrthio o 21 i 15 o fewn wythnos, tra roedd 109 yn derbyn gofal dwys yr adeg yma y llynedd.

I'w gymharu, mae 13 gwaith yn fwy o gleifion yn derbyn gofal critigol sydd ddim yn berthnasol i Covid.

O ran derbyniadau cyffredinol i'r ysbyty, mae cyfartaledd o 24 y dydd oherwydd Covid - ffigyrau tebyg i'r wythnos ddiwethaf - sef 2.3% o holl dderbyniadau ysbytai Cymru.

Ond o nifer yr achosion o Covid ble mae'r person angen gofal ysbyty, mae'r ffigwr cyfredol yn ostyngiad sylweddol ar y 12% yr adeg yma y llynedd.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adrodd cyfradd o 521.5 achos i bob 100,000 o bobl

Er hyn, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn amcangyfrif bod gan 139,000 o bobl yng Nghymru Covid dros y penwythnos diwethaf - neu 4.57% o'r boblogaeth.

Roedd hynny'n gynnydd o'r 99,500 y penwythnos cynt.

Mae'r amcangyfrif yn adrodd ei fod fwyaf cyffredin ymysg y plant ieuengaf, hyd at 19.5% o blant dyflwydd oed yng Nghymru, ond yn gostwng i tua 10% o'r rhai 11 oed.

Ond ymysg pobl hŷn mae'r gyfradd yn disgyn i tua 2% o oedolion yn eu 50au, ac ymhellach i 1.6% o bobl dros 85.

Dangosodd ffigyrau'r ONS hefyd fod 74 person wedi marw'n uniongyrchol oherwydd Covid-19 yn ystod yr wythnos hyd at 21 Ionawr - cyfartaledd o 10 y diwrnod - o'i gymharu gyda 399 yn ystod yr un wythnos 12 mis yn ôl.

Bu farw 102 yn ystod yr wythnos hyd at 21 Ionawr eleni ble roedd Covid wedi cyfrannu i'w marwolaeth.

Yn ogystal â'r rheiny fu farw yn yr ysbyty, mae'r ffigwr yn cynnwys hosbisau, cartrefi gofal a phobl yn eu cartrefi eu hunain.

Mae ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos sefydlogi ac yn adrodd cyfradd o 521.5 achos i bob 100,000 o bobl dros y saith diwrnod hyd at Ionawr 30.

Er hyn, mae angen cymryd i ystyriaeth y newidiadau gyflwynwyd i'r rheolau profi fis Ionawr.

O gymharu, roedd 1,274.2 achos i bob 100,000 o bobl yn ystod y saith diwrnod hyd at 9 Ionawr eleni.