'Da bod Cymro Cymraeg yng nghalon Llywodraeth y DU'

  • Cyhoeddwyd
Guto Harri a David TC Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae penodiad Guto Harri (chwith) i'w groesawu, medd David TC Davies

Mae Gweinidog yn Swyddfa Cymru wedi croesawu'r ffaith bod "Cymro Cymraeg yng nghanol" Llywodraeth y DU yn dilyn penodiad Guto Harri fel cyfarwyddwr cyfathrebu newydd Boris Johnson.

Mewn cyfweliad ar raglen Bore Sul BBC Radio Cymru, dywedodd AS Mynwy, David TC Davies, bod y penodiad, a gafodd ei gadarnhau nos Sadwrn, yn "brilliant".

Dywedodd bod ganddo "ffydd 100%" y bydd y cyflwynydd a'r newyddiadurwr yn helpu adfer hyder yn y Blaid Geidwadol.

Awgrymodd hefyd bod cael Cymro Cymraeg yn Downing Street yn golygu "fyddwn ni'n mynd i gael rhywun sy'n deall pwysigrwydd [yr] iaith yn ein gwlad ni".

'Yn falch' o dderbyn y swydd

Wrth ymateb i'w benodiad ar Twitter yn ddiweddarach nos Sul, dywedodd Mr Harri ei fod "yn falch" o fod wedi derbyn y rôl.

Cyhoeddodd neges yn cynnwys llun ohono gyda'r actor Peter Capaldi, oedd yn portreadu'r cymeriad Malcom Tucker - cyfarwyddwr cyfathrebu i lywodraeth y dydd - yng nghyfres gomedi ddychanol y BBC, The Thick Of It.

Dywedodd: "Ar ôl dilyn cyngor gan ragflaenydd enwog [Malcom Tucker], rwy'n falch o gadarnhau fy mod wedi derbyn rôl Cyfarwyddwr Cyfathrebu Boris Johnson.

"Rwy'n ymuno â thîm aruthrol i ganolbwyntio ar y pethau sy'n bwysig a chyflawni'r hyn y mae [Boris Johnson] wedi'i addo i'r bobl."

Cadarnhaodd S4C nos Sadwrn na fydd Mr Harri'n parhau i gyflwyno'r rhaglen Y Byd Yn Ei Le ar y sianel yn sgil y penodiad.

Mewn ymateb i ymholiad ar Twitter fore Sul, dywedodd y sianel: "Roedd Guto yn gyflwynydd llawrydd. Ni fydd o bellach yn cyflwyno ar S4C tra yn y swydd bresennol."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Guto Harri gyda Boris Johnson yn 2009 pan roedd yn gyfarwyddwr cyfathrebu yn nhymor cyntaf y Prif Weinidog yn Faer Llundain

Roedd cyfarwyddwr cyfathrebu Mr Johnson, Jack Doyle, ymhlith pum aelod allweddol o'i dîm a ymddiswyddodd ddyddiau ar ôl cyhoeddiad adroddiad cychwynnol i bartïon yn 10 Downing Street tra bod cyfyngiadau Covid mewn grym.

Mae sawl AS Ceidwadol hefyd wedi cadarnhau eu bod wedi ysgrifennu llythyrau'n datgan diffyg hyder yn y Prif Weinidog.

Yn ôl Mr Johnson fe fydd y bydd penodiadau newydd "yn gwella'r ffordd y mae Rhif 10 yn gweithredu".

Newid diwylliant

Mae'n "rhaid derbyn", medd David TC Davies, bod "sefyllfa ble roedd pobl yn yfed alcohol yn ystod y dydd yn anghywir".

Dywedodd: "Fel mae'r wasg wedi pwyntio mas heddiw, mae Guto yn dweud y gwir at rym ac mae hynny'n bwysig iawn.

'Maen bwysig ymddangos fel petai'r diwylliant yn mynd i newid yn Downing Street. Yn fy marn i - mae hyn yn dipyn bach o stereotype - ond efallai mae gormod o bobl tipyn bach yn rhy ifanc sy'n gweithio yno."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhaid newid y diwylliant y tu ôl i ddrws 10 Downing Street, medd David TC Davies

Dywedodd mai "cwestiwn anodd" yw awgrymu cyngor i Mr Harri sut mae adfer ffydd yn y blaid wedi'r dadlau dros dorri rheolau Covid yn Downing Street.

Mae'r blaid, meddai, "yn fwy" na "grŵp bach o bobol gyda rhyw fath o lifestyle" penodol, ac "mae miloedd ohonon ni sy'n byw dydd i ddydd sy' wedi dilyn y rheolau drwy'r Covid pandemic sy'n disgwyl i'r rhai yn Stryd Downing g'neud hynny hefyd".

Pwysleisiodd yr angen i fynd i'r afael â materion "sy'n mynd i effeithio arnon ni am flynyddoedd i ddod, fel costau byw a'r hyn sy'n digwydd yn Iwcrain" gan ychwanegu "dwi'n siŵr bod Guto yn mynd i wneud hynny".