Pwy yw aelodau newydd Talwrn y Beirdd?

  • Cyhoeddwyd
Rhai o'r aelodau newyddFfynhonnell y llun, Rhai o aelodau newydd Talwrn y Beirdd

Ar ôl apêl am dimau newydd i ymuno â Thalwrn y Beirdd ar Radio Cymru, bydd dau dîm newydd yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth barddoni yn 2022.

Daw un tîm o Gaerdydd a Llanelli, a'r tîm arall o Arfon a Môn.

Dechreuodd rhaglen radio Talwrn y Beirdd yn 1979 gyda Gerallt Lloyd Owen yn Feuryn - sef y beirniad a'r cyflwynydd - am 32 mlynedd.

Ceri Wyn Jones sy'n meurynna nawr ers 2012.

Dyma aelodau'r ddau dîm newydd:

Caerelli

Dechreuodd y tîm ar ôl i John Manuel weld hysbyseb gan Radio Cymru ar gyfer beirdd newydd oedd eisiau ymuno â thîm.

"Ar ôl trafodaeth gyda Radio Cymru, penderfynais ddod o hyd i aelodau eraill er mwyn creu tîm newydd, yn hytrach na ymuno ac un o'r timau eraill," eglura John.

"Roedd hyn yn bosib oherwydd bod y rowndiau eleni yn cael eu recordio'n rhithwir. Bydde hwn yn amhosib fel arfer.

"Es i ati i ofyn i fynychwyr fy nosbarth cynganeddu ac roedd diddordeb gydag Eirian a Dilwyn. Mae'r dosbarth yn cael ei drefnu gan Fenter Caerdydd o dan ein hathro Aron Pritchard (sydd yn aelod o dîm Aberhafren).

"Felly roedd tri aelod o Gaerdydd ac un o Lanelli. Doeddwn i na Eirian na Dilwyn heb gwrdd mewn person chwaith gan fod ein dosbarthiadau ni yn rhithwir. Ond roedden ni'n gallu cwrdd mewn person ar ôl ffurfio'r tîm gan ein bod ni'n (eithaf) lleol. Mae hefyd yn bwynt i godi ein bod ni gyd yn cynganeddu, er nid oes angen ar gyfer rhai tasgau. Dydyn ni ddim i gyd yn ystyried ein hunain yn 'feirdd' er ein bod ni'n talyrna!"

Dyma'r aelodau fydd yn cystadlu o dan enw Caerelli:

John Manuel

Ffynhonnell y llun, John Manuel

Athro mathemateg yn wreiddiol o Fedlinog ger Merthyr Tydfil, nawr yn byw yng Nghaerdydd.

Heblaw mathemateg ei ddiddordebau yw chwaraeon (yn enwedig rygbi), cerddoriaeth (yn canu gitâr) ac wedi dechrau cynganeddu dair blynedd yn ôl trwy fynychu gwersi gan Fenter Caerdydd.

"Doeddwn i erioed wedi ystyried fy hun fel cynganeddwr nes o'n i'n hŷn, ar ôl gwneud gradd mathemateg a dechrau darllen am y grefft yn llyfr Clywed Cynghanedd gan Myrddin ap Dafydd," meddai John.

Dilwyn Owen

Ffynhonnell y llun, Dilwyn Owen

Yn wreiddiol o Lannerch-y-medd ond bellach yn byw ym Mro Morgannwg.

Athro Cyfrifiadureg yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yw Dilwyn.

"Mae tebygrwydd rhwng codio a chynganeddu ac felly, yn ystod y cyfnod clo, fe wnes i benderfynu dysgu cynganeddu yn hytrach na dysgu iaith newydd ar gyfer codio. Dwi wastad wedi mwynhau gwrando ar Y Talwrn ac yn edrych ymlaen yn fawr i gyfrannu," eglura Dilwyn.

Mathew Tucker

Ffynhonnell y llun, Mathew Tucker

Mae Matthew yn 24 oed ac yn byw erbyn hyn ym mhentref Pen-bre, Sir Gaerfyrddin.

Mae'n athro Cymraeg ac yn Bennaeth Blwyddyn 8 wrth ei waith yn Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman.

Mae'n berfformiwr brwd ac wedi troedio llwyfannau, yn bennaf Theatrau Sir Gar, ers yn 17 oed. Dechreuodd ddysgu'r grefft o farddoni a chynganeddu tra yn y chweched dosbarth yn Ysgol y Strade, Llanelli, tan ofal agos y Prifardd Tudur Dylan Jones.

Mireiniodd ei grefft ymhellach tra'n fyfyriwr Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe tan olwg prifeirdd eraill, fel Tudur Hallam, Christine James, Alan Llwyd ac Aneirin Karadog.

Daeth yn drydydd ar gyfer y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd yn 2017 ac yn ail yn Eisteddfod 2020-21.

Eirian Dafydd

Ffynhonnell y llun, Eirian Dafydd

Yn wreiddiol daw Eirian o Flaenau Ffestiniog ac yno y treuliodd saith mlynedd gyntaf ei bywyd cyn i'r teulu symud i Lanerch-y-medd ar Ynys Môn.

Ymddiddorodd yn y gwyddorau tra'n ddisgybl yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch ac yna graddio mewn biocemeg ym Mhrifysgol Caerdydd ac aros ymlaen i wneud gradd ymchwil. Wedi chwarter canrif o ddysgu Ffiseg ac Electroneg yn ysgol Gyfun Cymer Rhondda ymddeolodd yn gynnar.

Dechreuodd gynganeddu ryw bum mlynedd yn ôl fel her newydd yn dilyn ei hymddeoliad.

Mae hefyd yn treulio sawl prynhawn yn gwylio adar yn ei milltir sgwâr ac yn hoff o fynd am dro. Pan ddaw cyfle mae'n hoff o fwynhau wythnos mewn gwahanol ardaloedd ar arfordir Cymru. Diddordeb arall yw coginio cacennau a phwdinau melys, a'u bwyta, wrth gwrs!

Emlyn Williams

Ffynhonnell y llun, Emlyn Williams

Yn enedigol o Lanbedrog, Pen Llŷn, mae Emlyn yn byw yng Nghaerdydd ers 45 o flynyddoedd, ac yn briod ag un mab.

Mae wedi gweithio fel golygydd ffilm, sgriptiwr a chyfarwyddwr ffilm a theledu, nyrs cynorthwyol yn Ysbyty Llandochau a darlithydd cyswllt mewn ysgolion ffilm yn yr Unol Daleithiau a'r Dwyrain Pell.

Bu raid i Emlyn ymddeol ar ôl iddo fo a'r Triumph Bonneville gael damwain yn 2012, ac mae wrthi'n astudio Ffrangeg ar y funud, yn ogystal â gwneud ei orau glas i osgoi'r draws fantach [math o gynghanedd] yn dilyn cyngor ei athro barddol.

Dwy Ochr i'r Bont

Aelodau o Arfon a Môn sydd yn ffurfio Dwy Ochr i'r Bont.

O'r chwe aelod, mae pedwar yn newydd i'r Talwrn, a phedair ohonynt hefyd yn ferched.

Osian Owen

Ffynhonnell y llun, Osian Owen

Daw Osian o'r Felinheli, ond mae'n byw yng Nghaernarfon.

"Penderfynodd cyn-dîm fi a Gareth Evans-Jones (Y Chwe Mil), roi'r gorau i gystadlu oherwydd ymrwymiadau eraill gan weddill yr aelodau. Ond roedd awydd parhau gen i a Gareth, felly dyma greu tîm newydd," eglura Osian.

"Mi oeddan ni'n benderfynol o gadw'r elfen o fwynhad. Rydw innau a Gareth yn ffrindiau ers blynyddoedd, ac mi ydw i'n ei ystyried yn fentor llenyddol yn ogystal â ffrind da. Mi weithion ni ar lot o brosiectau efo'n gilydd ym Mhrifysgol Bangor, ac mi wnes i hyd yn oed action mewn drama wedi ei 'sgwennu gan Gareth."

Gareth Evans-Jones

Ffynhonnell y llun, Gareth Evans Jones

Mae Gareth Evans-Jones (O Farian-glas, Sir Fôn) yn 'sgrifennwr profiadol sydd wedi ennill gwobrau.

Mae'n ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor. Mae'n hoff o lenydda ac yn gweithio efo cwmni drama'r Frân Wen ar hyn o bryd ar eu sioe wanwyn.

Yn gyn-aelod o dîm y Chwe Mil, cymerodd ran yn ei ornest Talwrn gyntaf y llynedd, gan serennu efo'i delynegion. Mae'n nofelydd, yn ogystal â dramodydd, ac fe gipiodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol 2019 a 2021.

Anest Bryn

Ffynhonnell y llun, Anest Bryn

Mae Anest yn dod o Benisarwaun yn wreiddiol ond yn byw ar lannau'r Fenai yng Nghaernarfon bellach.

"Mi oedd Gareth a finnau'n trio meddwl am unigolyn ffraeth ar gyfer y tasgau sy'n gofyn am fymryn o ddigrifiwch, a dyma godi'r ffôn ar Annest!" meddai Osian.

Bethan Eirian Jones

Ffynhonnell y llun, Bethan Eirian Jones

Un o Fôn ydi Bethan Eirian Jones, ac mae hi'n ei disgrifio'i hun fel "cyw bardd".

Mae hi wedi byw yn yr Almaen, a heb farddoni fawr ers dyddiau ysgol ond wedi dechrau dysgu cynganeddu yn Ysgol Farddol Caerfyrddin - Yr Holl Fyd ers ychydig o fisoedd. Mae hi'n gweithio fel rheolwr yn y cyngor ac yn nain falch i ddwy wyres fechan.

Manon Wynn Davies

Ffynhonnell y llun, Manon Wynn Davies

Daw Manon Wynn Davies o Lanfairpwll ar Ynys Môn yn wreiddiol. Cwblhaodd ddoethuriaeth ar farddoniaeth Iwan Llwyd yn 2016.

Mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd ac y ngweithio i Gomisiynydd y Gymraeg.

Elin Walker-Jones

Ffynhonnell y llun, Elin Walker-Jones

Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, symudodd Elin a'i theulu i Fangor dros ugain mlynedd yn ôl. Mae Elin yn gweithio fel seicolegydd clinigol i'r GIG efo plant ag anabledd dysgu a chyflyrau niwroddatblygiadol.

Mae hefyd yn gynghorydd yn ei hamser sbâr ac yn gyw-gynganeddwraig! Mae Elin yn hen law ar sgrifennu englyn bellach ond dechreuodd fynychu sesiynau cynganeddu Osian yn rhithiol yn 2020.

Pynciau cysylltiedig