Enwebiad Oscar i ffilm fer animeiddwyr o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Affairs of the ArtFfynhonnell y llun, Affairs of the Art
Disgrifiad o’r llun,

Mae Affairs of the Art yn dilyn stori Beryl, wrth i obsesiwn â chelf gymryd drosodd ei bywyd

Mae dau animeiddiwr o Gaerdydd wedi cael eu henwebu am Oscar am eu ffilm fer, Affairs of the Art.

Wedi ei chyfarwyddo gan Joanna Quinn, a'i hysgrifennu a'i chynhyrchu gan Les Mills, mae'r ffilm eisoes wedi ennill amryw o wobrau ar draws y byd.

Mae hi nawr yn un o bum ffilm sydd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau yng Ngwobrau'r Academi, ac roedd hi eisoes ar y rhestr fer ar gyfer yr un wobr yn y BAFTAs.

Cafodd fersiwn Gymraeg o'r ffilm - Y Cythraul Celf - ei darlledu ar S4C dros y Nadolig.

Disgrifiad,

Un o leisiau'r ffilm, Mali Ann Rees, fu'n esbonio stori Affairs of the Art ar Dros Frecwast

Mae'r ffilm fer - a wnaeth gymryd chwe blynedd i'w chwblhau - yn dilyn Beryl, sy'n 59 oed, ac sydd wedi bod yn gweithio mewn ffatri ar hyd ei hoes, wrth i obsesiwn â chelf gymryd drosodd ei bywyd.

Mae lleisiau cyfarwydd y byd teledu Cymraeg i'w clywed ynddi hefyd - gan gynnwys Menna Trussler a Mali Ann Rees.

Pynciau cysylltiedig