Anthony Hopkins: Cysgu tra'n ennill Oscar
- Cyhoeddwyd
Yn seremoni'r Oscars nos Sul, enillodd y seren Hollywood, y Cymro Syr Anthony Hopkins, ei ail wobr Actor Gorau, a hynny yn 83 oed.
Enillodd am ei rôl yn The Father, ffilm am hen ŵr sydd yn diodde' â dementia, sy'n ei chael hi'n anodd i ddeall yr hyn sy'n digwydd o'i gwmpas wrth i'w gof ballu.
Ond nid oedd y gŵr o Bort Talbot yn Los Angeles i dderbyn ei wobr. Nid oedd chwaith yn un o 'hybiau' eraill y gwobrau yn Llundain neu Ddulyn.
Yn hytrach, roedd yn cysgu'n braf yn ei wely yn ne Cymru lle mae wedi bod ers dychwelyd yma ar wyliau ddechrau'r mis, o'i gartref ar draws yr Iwerydd.
Mae sôn nad oedd yr Academi wedi caniatáu iddo roi ei araith diolch dros Zoom, pe bai'n fuddugol. Gan nad oedd y wobr yn cael ei chyhoeddi tan oriau mân y bore yma yng Nghymru, rhaid fod y gwely wedi bod yn ormod o demtasiwn, ac ni chlywodd ei fod wedi ennill un o brif wobrau'r seremoni tan ar ôl iddo ddeffro.
Cafodd ei araith ei chyhoeddi ar Instagram, fore drannoeth y seremoni, gyda golygfa hyfryd o gefn gwlad Cymru yn y cefndir tu ôl iddo.
Caniatáu cynnwys Instagram?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.
Ar 11 Ebrill, enillodd wobr BAFTA am yr actor gorau am yr un rôl ac mae'n debyg nad oedd yn gwybod am ei fuddugoliaeth bryd hynny chwaith, tan iddo glywed ei gymdogion drws nesa' yn gweiddi a churo'r waliau!
Enillodd ei Oscar cyntaf yn 1992 am ei rôl fel Dr Hannibal Lecter yn The Silence of the Lambs. Ag yntau yn ei wythdegau, ef yw'r dyn hynaf i ennill y wobr am yr actor gorau, ac fel y dywedodd yn ei araith, nid oedd yn disgwyl ennill o gwbl.
'Roedd o dal yn ei wely!'
Cymro arall nad oedd yn disgwyl ennill Oscar, ac felly nad aeth i'r seremoni wobrwyo, oedd Hugh Griffith, nôl yn 1960.
Roedd wedi cael ei enwebu am wobr yr actor cynorthwyol gorau am ei ran yn Ben Hur. Ond fel soniodd ei nai, Wiliam Roger Jones, doedd yr actor o Ynys Môn ddim yn teimlo ei bod hi werth gwneud y daith i LA, ag yntau ond â siawns o un mewn pump o ennill yr Oscar.
Cafodd wybod ei fod wedi ennill gan ei chwaer, Elen Roger Jones, oedd hefyd yn actores adnabyddus ac yn fam i Wiliam Roger Jones.
"Roedden ni'n byw yn Ninbych ar y pryd," cofiodd Wiliam. "Roedd Mam wedi clywed ei fod wedi ennill y peth cynta' yn y bore ar y newyddion, ac mi ffoniodd hi ei brawd yn syth i ddweud - roedd o'n dal yn ei wely!"
Yn ei gwely oedd y dylunydd graffeg Annie Atkins hefyd, pan gafodd glywed ei bod hi wedi ennill Oscar yn 2015.
Hi oedd yn arwain y tîm a oedd yn gyfrifol am y broses o ddylunio a chreu edrychiad y ffilm Grand Budapest Hotel, ac a enillodd y wobr am y Dylunio Gorau mewn Cynhyrchiad.
Er bellach yn byw yn Nulyn, roedd Annie yn ôl yn Nolwydden gyda'i theulu ar noson y seremoni, ac wedi cael noson braf i ddathlu'r achlysur, meddai.
"O'n i wedi dod draw ar y cwch i Gymru i fod gyda fy rhieni. Gawson ni steak a chips a champagne ac fe gafodd y ci asgwrn o siop y cigydd. Alla'i ddim dychmygu ffordd well o dreulio'r noson.
"Wedyn gwnaethon ni setlo lawr i wylio'r seremoni ar y teledu, ond oedd rhaid i mi fynd i'r gwely tua 2:30. Deffrodd Dad fi am 6:00 y bore wedyn yn ei byjamas i ddweud ein bod ni wedi ennill!"
Hefyd o ddiddordeb: