Cwmystwyth: Diffodd hen rwydwaith ffôn yn achos pryder
- Cyhoeddwyd
Mae 'na bryderon mewn pentre' anghysbell yng Ngheredigion y byddan nhw'n colli cysylltiad â'r byd tu fas os yw cynlluniau i ddiffodd llinellau ffôn copr yn mynd yn eu blaen yn 2025.
Mae BT yn bwriadu diffodd y rhwydwaith sydd wedi bod mewn bodolaeth ers oes Fictoria, gan symud eu cwsmeriaid i'r system ffibr - Digital Voice - sy'n ddibynnol ar gyflenwad trydan.
Pryder pobl Cwmystwyth yw na fydd ganddyn nhw ffordd o gyfathrebu mewn ardal sydd heb signal ffôn symudol os fyddan nhw'n colli pŵer trydan.
Maen nhw wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C fod hyn yn rhywbeth sy'n digwydd yn aml y dyddiau yma gyda stormydd cyson.
Dywed BT bod 'na gynlluniau i wella signal ffôn symudol yn y dyfodol ac y byddan nhw'n gweithio gyda phobl leol er mwyn datrys unrhyw broblemau.
Mae byw gyda'r pryder o golli cyflenwad trydan a dim signal ffôn, ynghyd â stormydd eira, yn rhai o ffeithiau bywyd yng Nghwmystwyth.
Mae cael system gyfathrebu ddibynadwy yn hanfodol ac mae diffodd y llinellau ffôn copr yn bygwth hynny, yn ôl trigolion lleol.
Tua 16 milltir o Aberystwyth, siwrne o hanner awr mewn car, mae'r pentref wedi ei leoli yn un o gymoedd mwyaf anghysbell Cymru
Ar lefel 300m uwchben lefel y môr dyw'r tywydd ar adegau ddim y mwyaf mwyaf croesawgar.
Eira, gwynt, glaw - mae Cwmystwyth yn cael y cwbl, a hynny'n gyson.
Cysylltu mewn argyfwng
Ar hyd y blynyddoedd mae pobl leol wedi dibynnu ar y llinellau ffôn copr i gysylltu ag eraill.
Roedd hi'n sioc felly i glywed y byddai BT yn diffodd y gwifrau yn 2025, meddai Eluned Evans un o drigolion Cwmystwyth.
"Mae lot o dai efo ffibr ac mae'r landline ar ffibr.
"Da ni efo ffibr ac wrth gwrs efo ffibr os y'ch chi'n colli'r cyflenwad trydan wel dyna fo, ac mae hwnna'n digwydd yn aml iawn. Mae Ofcom yn dweud 'Storm Arwen, mae hwnna'n exceptional," meddai.
"Na dyw e ddim, nid i ni yma yng Nghwmystwyth.
"Ry'n ni'n colli'r electric os ydy'r gwynt yn chwythu yn gryf. Wedyn ry'n ni heb unrhyw ffordd o gysylltu â'r gwasanaethau argyfwng."
Mae Sandy Neville sydd hefyd yn byw yng Nghwmystwyth yn poeni am bobl fregus sy'n byw yn y pentref.
"Dwi'n poeni achos pan ry'n ni'n colli trydan neu ffibr dy'n ni ddim yn gallu gwneud galwadau brys, galwadau 999, dim.
"Llynedd neithon ni golli trydan sawl gwaith, pedwar gwaith efallai.
"Mae llawer o hen bobl yn byw yma ac mae llawer yn byw ar eu pennau eu hunain.
"Pan mae damwain, neu angen ffonio'r gwasanaethau brys a does dim trydan, dim ffibr, beth ydyn nhw'n gallu gwneud? "
"Mae'n broblem fawr i gael ambiwlans neu heddlu neu unrhyw beth yma. Ond pan dy'n ni ddim yn gallu ffonio mae'n broblem fawr fawr."
Mae'r teimladau yng Nghwmystwyth yn cael eu rhannu gan gymunedau eraill ledled Cymru a'r DU - ond mae angen uwchraddio'r dechnoleg yn ôl Pennaeth Materion Rheoleiddiol Ofcom yng Nghymru, Elinor Williams.
"Mae'r hen rwydwaith copr wedi bod yn ei le ers blynyddoedd maith," meddai. "Mae e wedi neud ei waith ond erbyn hyn wrth gwrs mae'n hen, mae'n ddrud i'w gynnal, a dwi'n credu bod ishe technoleg mwy dibynadwy ar ddefnyddwyr.
"Felly fe fydd y newid yma o analog i ddigidol yn sicrhau gwell ansawdd gwasanaeth i ddefnyddwyr."
Mae'r aelod lleol yn Senedd Cymru, Elin Jones, yn dweud nad yw sefyllfa Cwmystwyth yn unigryw o ran ardaloedd gwledig sy'n poeni am y fath broblemau unwaith mae BT yn diffodd y gwifrau copr.
"Mae 2025 tair blynedd yn unig bant a dwi ddim yn rhagweld y bydd gyda ni 100% o ffonau symudol yn gallu cael eu dibynnu ar y llwyr ymhob rhan o Geredigion a chefn gwlad a hyd yn oed ardaloedd trefol erbyn hynny," meddai.
'Dipyn o gonsyrn"
"Felly bydd pobl yn nerfus fod gyda nhw ddim system wrth gefn os fydd y trydan yn diffodd arnyn nhw.
"Bydden i'n cynghori BT a phawb i fod yn edrych ar ohirio tan fod nhw'n gallu rhoi'r sicrwydd yna y bydd y system wrth gefn y bydd pawb yn gallu dibynnu arno."
"Ma 'na lot fawr o gymunedau sydd bob hyn a hyn yn colli cysylltiad trydan oherwydd stormydd neu pa bynnag reswm arall.
"Mae hynny'n gallu bod am gyfnod byr ond hefyd am gyfnod estynedig a bydd e'n dipyn o gonsyrn."
Mewn datganiad fe ddwedodd BT bod hi'n "ddrwg iawn ganddyn nhw bod eu cwsmeriaid yng Nghwmystwyth wedi colli cysylltiad oherwydd stormydd diweddar".
"Ry'n ni wedi cysylltu gyda phawb ac yn gweithio'n galed i ddatys eu pryderon.
"Ry'n ni wedi bod yn edrych ar y signal ffôn yng Nghwmystwyth ac mae yna gynlluniau i gyflwyno darpariaeth well ar gyfer y gymuned yn y dyfodol," meddai'r datganiad.
"Ry'n ni'n deall bod symud i system Digital Voice yn bryder i nifer bach o bobl sy'n credu eu bod yn byw mewn ardal lle nad oes signal ffôn neu fod y posibilrwydd o golli trydan yn debygol iawn.
"Yn y sefyllfaoedd yma fe fyddwn ni'n oedi cyn eu huwchraddio ac yn gweithio gyda nhw i ddatrys y problemau."
Yn y cyfamser, mae is-gwmni BT, Openreach, wedi cyhoeddi y bydd yn creu tua 250 o swyddi yng Nghymru yn 2022 fel rhan o'i fuddsoddiad yn y rhwydwaith band eang.
Dywedodd y cwmni y bydd dros 200 o'r rheiny yn brentisiaethau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2020