Cysylltiad we ffibr yn 'newid byd' i bobl Mydroilyn
- Cyhoeddwyd
Ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu, mae pobl ym mhentref Mydroilyn, Ceredigion bellach â mynediad i gysylltiad band eang cyflym.
Wedi i gynlluniau ar gyfer isadeiledd ffibr gael eu gohirio yno yn 2016, mae sicrhau cysylltiad cyflym â'r we wedi bod yn her i'r pentrefwyr ers blynyddoedd.
Yn ôl un o arweinwyr yr ymgyrch, roedd hi'n "dipyn o frwydr" i redeg busnes ac addysgu plant o adref yn ystod y pandemig gyda chysylltiad araf i'r we a signal ffôn gwael.
Ond wedi ymgyrch hir a chefnogaeth gan gynghorwyr, gwleidyddion a'r rheoleiddiwr Ofcom, mae dros 230 o gartrefi bellach wedi eu cysylltu â ffibr.
Dywedodd un o'r pentrefwyr oedd yn arwain yr ymgyrch, Yvonne Holder: "O'dd hi'n wael iawn cyn cael e - un neu ddau megabeit o'dd gyda ni ym Mydroilyn ar y gorau, a dim 4G.
"O'dd trial rhedeg busnes yn her, wedyn dysgu o adref yn ystod y pandemig... odd e'n hunllef. Tipyn o frwydr."
Mae Yvonne a'i gŵr, Jon, yn berchen ar fusnes annibynnol sy'n gwerthu hen greiriau.
Mae'r ddau yn ddibynnol ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol er mwyn hysbysebu eu cwmni.
Dywedodd Yvonne: "O'dd e [y we] yn crasho - colli'n gwaith ni, ail-neud gwaith.
"Ni wastad wedi gorfod bod ar-lein achos bo ni'n fusnes cefn gwlad. S'neb yn pasio ni, felly ni'n defnyddio Instagram ac ati i ddangos lluniau a rhoi esboniad o'r creiriau i bobl.
"Ma 'da ni 10,000 o ddilynwyr ar Instagram, felly ma'r pressure i gadw lan gyda'r cynnwys a cynnal ein busnes ni," ychwanegodd.
"Ond o'n ni'n edrych yn dwp wedyn - pobl yn gofyn i weld lluniau neu fideo, a ni ddim yn gallu eu hanfon nhw. Pan ti'n trio rhedeg busnes proffesiynol, mae'n anodd."
Yn ogystal â rhedeg busnes, fe ddaeth y cyfnod clo cyntaf â heriau eraill wrth i'w plant, Llion a Gwesyn, orfod dysgu o adref.
"Hit and miss oedd hi o ran y gwersi ar-lein. Ma' Llion yn awtistig hefyd felly o'dd hynny'n fwy o her.
"O'dd plant a rhieni'r pentref i gyd yn yr un cwch - pawb yn trio ymuno â'r gwersi a gwneud gwaith cartref ond hynny'n neud pethe'n waeth," ychwanegodd.
"Roedd hi'n anodd esbonio pa mor araf oedd pethau i'r ysgol hefyd."
Dywedodd Yvonne Holder: "Ma' hi 'di bod yn rili, rili anodd. Cyfarfodydd gyda BT ac Openreach bron bob wythnos, galwadau ffôn hir gyda gwahanol bobl, nôl a mlaen a neb yn cymryd sylw ohonom ni, o'dd y cyfathrebu'n anodd.
"Ond gethon ni lot fawr o gefnogaeth gan bobl fel y Cynghorydd Clive Davies, Ben Lake AS, Elin Jones y Llywydd a'r holl bentrefwyr - ni gyd yn un.
'Fel ci gydag asgwrn'
Un o'r prif anfanteision i drigolion Mydroilyn oedd diffyg signal ffôn yn y pentref.
Mae hynny yn un o'r rhesymau pam iddyn nhw lwyddo yn eu brwydr, trwy gael USO [Universal Service Obligation] i sicrhau'r cytundeb.
Ond yn ôl Yvonne, dim ond 37 o dai oedd yn mynd i gael eu cysylltu dan y cynllun cyntaf. Dywedodd nad oedd hynny'n ddigon da.
"Do'n ni ddim yn mynd i stopio fan 'na. Ro'n ni'n rhan o'r 37 o dai yn y cynllun gwreiddiol - ond roedd hwn yn brosiect i'r pentref. Do'n ni ddim eisiau gadael neb ar ôl, felly nethon ni gadw fynd. O'n ni fel ci gydag asgwrn."
Er i Yvonne a'i gŵr ddisgrifio'r profiad fel "hunllef" dywedodd eu bod yn edrych ymlaen i ddatblygu eu busnes ac edrych i'r dyfodol.
"Ni'n edrych mlaen nawr i weld be' sy' nesa i ni a'r busnes. Ma' hi wir wedi bod yn newid byd yn barod.
"Byddwn ni'n gallu neud clipiau fideo a galwadau byw gyda chwsmeriaid yn lle cael nhw i ddod i'r siop - bydd hwn yn fantais fawr iawn gan bo ni'n byw mewn pentref mor wledig.
"Yn bendant, ma' hi 'di bod yn brofiad positif yn y diwedd - ni'n falch iawn o be ni a phawb wedi llwyddo i 'neud."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2020