Canslo cynlluniau i wella cyffyrdd ar ffordd yr A55
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i gael gwared ar ddau gylchfan yn Sir Conwy wedi'u canslo wrth i gomisiwn trafnidiaeth newydd ar gyfer gogledd Cymru ganolbwyntio ar drafnidiaeth cynaliadwy.
Roedd y gwaith £75m i gael cyffyrdd aml-lefel a slipffyrdd yn Llanfairfechan a Phenmaenmawr i fod i ddechrau yn y gwanwyn.
Ond mae adolygiad ffyrdd Llywodraeth Cymru wedi ailystyried y cynllun ar gyfer gwella cyffyrdd 14/15 a 16/16A yr A55.
Brynhawn Iau fe gyhoeddodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog ar gyfer Newid Hinsawdd, y bydd Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru yn efelychu y comisiwn a sefydlwyd wedi canslo'r cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru'r M4 yn y de-ddwyrain.
Bydd comisiwn y gogledd hefyd yn cael ei arwain gan yr Arglwydd Burns, cyn Ysgrifennydd Parhaol Trysorlys y DU.
Daw'r cyhoeddiad wedi argymhellion gan Banel Adolygu Ffyrdd Llywodraeth Cymru ac adolygiad diweddar gan Gadeirydd Network Rail, Syr Peter Hendy - fe wnaeth e nodi bod angen adolygiad "aml-ddull" ar gyfer coridor yr A55.
Bydd yr adolygiad blwyddyn o hyd yn datblygu argymhellion ar gyfer teithio ar y ffyrdd, y rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol ar draws pob rhan o ogledd Cymru.
Dywedodd Mr Waters: "Os ydym o ddifrif am wynebu'r Argyfwng Hinsawdd, mae'n rhaid i ni fod yn barod i wneud pethau'n wahanol, ac yn bwysicach na dim gynnig dewisiadau eraill ac ymarferol i bobl ar draws gogledd Cymru yn lle defnyddio eu ceir ar gyfer y rhan fwyaf o deithiau.
"Yn ogystal ag edrych ar goridor yr A55, bydd Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru hefyd yn edrych ar sut y gallwn wella opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy mewn ardaloedd gwledig.
"Bydd angen buddsoddi rhagor mewn trafnidiaeth gyhoeddus ac rwy'n falch iawn bod yr Arglwydd Burns wedi cytuno i arwain panel o arbenigwyr lleol i lunio rhestr fanwl o brosiectau y bydd eu hangen i wireddu hyn."
Ychwanegodd nad oedd hyn yn golygu bod codi ffyrdd yn dod i ben ond "mae'n golygu mwy o bwyslais ar ofalu am y ffyrdd sydd gennym eisoes yn ogystal â buddsoddi mewn opsiynau eraill ac ymarferol i roi dewis gwirioneddol i bobl".
Croeso i'r newyddion
Dywedodd llefarydd ar ran Sustrans - elusen sy'n ei gwneud yn haws i bobl gerdded a beicio eu bod yn croesawu'r newyddion.
"Er mwyn taclo argyfwng hinsawdd a gwella'r aer rhaid trawsnewid trafnidiaeth a rhoi blaenoriaeth i drafnidiaeth gyhoeddus.
"Rhaid delio ag allyriadau carbon i gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru ac mae delio â thrafnidiaeth yn rhan bwysig o'r frwydr honno," meddai.
Yr un croeso oedd gan Cyfeillion y Ddaear Cymru.
"Ry'n yn falch nad yw'r cynlluniau i newid cyffyrdd 14-16 ar ffordd yr A55 yn mynd rhagddynt," meddai Haf Elgar, cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru.
"Y peth diwethaf mae ein planed ei angen yw cynlluniau ffyrdd difrodol sydd yn ein gwneud yn fwy dibynnol ar geir ac sy'n creu o ganlyniad mwy o allyriadau sy'n niweidio'r amgylchedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd15 Medi 2020
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2017