Caerffili: Cyhuddo dyn o lofruddio menyw 15 mis yn ôl
- Cyhoeddwyd

Cafwyd hyd i Adell Cowan yn farw mewn eiddo yn Nol-yr-Eos, Caerffili
Mae dyn lleol wedi cael ei gyhuddo o lofruddio menyw 43 oed yng Nghaerffili dros 15 mis yn ôl.
Daeth yr heddlu o hyd i Adell Cowan yn farw mewn eiddo yn Nol-yr-Eos ar ôl cael eu galw yno tua 12:20 ddydd Sul, 18 Hydref 2020.
Cafodd Carl Silcox, 43 ac o Aberbargoed, ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae ditectifs bellach wedi ei gyhuddo o'r drosedd.
Fe wnaeth ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Gwener, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa.
Mae teulu Ms Cowan, oedd o'r dref, yn parhau i gael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.