Bygwth diarddel CPD Dinas Bangor oherwydd dyled

  • Cyhoeddwyd
NantporthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe symudodd CPD Bangor i'w cartref newydd yn Nantporth bron i 10 mlynedd yn ôl

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi rhoi saith diwrnod i glwb Dinas Bangor dalu dyledion gwerth £53,000 neu wynebu eu diarddel o'r gynghrair.

Mae'r clwb o'r Cymru North yn barod wedi'i gwahardd yn dilyn methiant i dalu chwaraewyr a staff.

Ond mae'r Dinasyddion nawr wedi derbyn rhybudd byddan nhw'n cael eu diarddel o'r ail haen os na thelir yr £53,000 sy'n daladwy erbyn 19 Chwefror.

Oherwydd y gwaharddiad mae'r clwb wedi methu â chwarae pum gêm yn barod.

Ond hyd yn oed os bydd yr arian yn cael ei dalu, mae'r gymdeithas hefyd wedi rhybuddio'r clwb bydd methu mwy o gemau y tymor yma yn golygu diarddel ar unwaith.

Fe gadarnhawyd fis Ionawr nad oedd y clwb wedi gwneud cais am drwydded ar gyfer tymor 2022/23, sy'n golygu na fydd modd chware ar lefel uwch na'r bedwaredd haen y tymor nesaf.

Mae'r clwb, sy'n chwarae yn stadiwm Nantporth ar gyrion y ddinas ac yn cael ei ystyried yn draddodiadol yn un o gewri'r byd pêl-droed yng Nghymru, wedi wynebu nifer o drafferthion yn y blynyddoedd diwethaf.

Wedi colli'i lle yng nghyngrair JD Cymru Premier yn dilyn methiant i sicrhau trwydded ar gyfer tymor 2018/19, aeth nifer sylweddol o'r cefnogwyr ymlaen i greu clwb newydd, Bangor 1876, oherwydd pryderon ynglŷn âr ffordd yr oedd Clwb Dinas Bangor yn cael ei redeg.