Gorseinon: Bachgen 14 oed wedi'i drywanu, dau wedi'u harestio
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 14 oed mewn cyflwr difrifol ond sefydlog ar ôl cael ei drywanu yng Ngorseinon, Abertawe.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 18:05 nos Iau, 10 Chwefror i orsaf fysiau Gorseinon ar Stryd y Gorllewin.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod y bachgen wedi ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd er mwyn trin ei anafiadau.
Mae tri bachgen - dau 14 oed ac un 15 oed - wedi eu harestio ar amheuaeth o ymosod.
Mae'r heddlu yn dweud fod hysbysiad Adran 60 yn weithredol yn ardal Gorseinon, sy'n rhoi'r awdurdod iddyn nhw stopio ac archwilio unrhyw un hyd at 22:10 nos Wener.
Maen nhw'n apelio am wybodaeth.