Annog plant bregus 5-11 oed i gael brechlyn Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Elizabeth yn cael ei brechu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elizabeth, 10, yn byw gyda chlefyd diabetes - cafodd ei brechlyn yn Llandudno

Mae bwrdd iechyd y gogledd yn annog plant 5-11 oed sy'n fregus i gael brechlyn Covid-19.

Ers rhai wythnosau, mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod yn cynnig y brechlyn i'r grŵp hwn.

Daw hyn wrth i'r Cyd-bwyllgor ar frechu ac imiwneiddio (JCVI) ddweud y dylai plant ifanc sydd mewn grŵp "risg", neu'n rhannu cartref gyda rhywun bregus, gael eu brechu.

Ond, yn ôl un ganolfan yn y gogledd, mae angen i fwy o blant yn y categori hwnnw ddod i gael eu brechu.

Yn ôl Dirprwy Reolwr Nyrsio Canolfan Frechu Llandudno, Nia Williams, mae nifer y plant sydd wedi dod i gael eu brechlyn wedi bod yn "araf".

Ond dywedodd ei fod yn "benderfyniad mawr i rieni ddod â'u plentyn" ac mae'n annog teuluoedd i ddod i drafod.

"Mae'n cymryd amser i wneud penderfyniad da, y penderfyniad cywir i'ch plentyn," eglurodd.

"Dwi'n credu gyda beth sy'n mynd ymlaen yn y cyfryngau hefyd, efallai eu bod nhw'n oedi neu'n dal i feddwl amdano.

"Ein gweledigaeth ni yw y dylai plant gael eu brechu. Dewch â nhw i lawr, trafodwch unrhyw achosion, 'da ni'n hapus i helpu a thrafod unrhyw benderfyniad 'da chi eisiau ei gymryd gyda'ch plentyn."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Elizabeth, 10, ei brechlyn ddydd Sul ac mae'n annog plant eraill i wneud yr un peth

Mae Elizabeth o Ddwygyfylchi, Sir Conwy, yn byw gyda chlefyd diabetes. Roedd hi'n un o'r tri o blant a aeth i ganolfan frechu yn Llandudno ddydd Sul.

Mae hi'n dweud y dylai plant eraill fynd i gael eu brechlyn.

"Wnaeth o ddim brifo... roeddech chi jyst yn gallu teimlo ei fod o yna," meddai.

"Dwi'n falch am hynny, oherwydd llawer o'r amser 'da chi'n cael brechlyn pan 'da chi'n mynd i'r ysbyty ac mae'n pigo gymaint."

Ychwanegodd Elizabeth y byddai cael y brechlyn yn golygu y bydd hi'n gallu ymweld â'i thaid a nain yng Nghanada'r haf hwn.