Costau byw: 'Costau'n cynyddu ond incwm yn ddisymud'
- Cyhoeddwyd
Bydd yr argyfwng costau byw yn effeithio ar bawb ac i'r rhai sy'n gofalu am blant ag anableddau, mae'n bryder arall.
Mae Sheri Jenkins yn treulio'r rhan fwyaf o'i hamser yn gofalu am ei mab Luke a dywedodd ei bod yn teimlo'n "ddiwerth" oherwydd nad yw'n gallu helpu'r teulu yn ariannol drwy gael swydd.
Dywed Sheri ei bod angen ei char i fynd â Luke i'r coleg ac ni all ddiffodd y gwres oherwydd imiwnedd isel Luke.
"Mae popeth yn mynd i fyny ond mae incwm yn ddisymud," meddai.
Mae gan Luke syndrom Down, problemau clyw ac apnoea cwsg felly tra bod Sheri wedi ystyried sut i leihau costau, mae hi hefyd yn cydbwyso sut y byddant yn effeithio ar ofal ei mab.
Mae Sheri, fel llawer ledled y DU, yn gorfod asesu cyllid eu teulu yng nghanol argyfwng costau byw gyda phrisiau yn y DU yn codi ar y gyfradd gyflymaf ers bron i 30 mlynedd ac mae pobl wedi cael eu rhybuddio y gallai waethygu.
Gallai biliau ynni uwch, cyflogau sefydlog a chodiadau treth - gan gynnwys pobl sy'n talu mwy o Yswiriant Gwladol - olygu bod aelwydydd cyffredin yn wynebu costau ychwanegol o £1,200 y flwyddyn.
"Mae pris gwres wedi mynd drwy'r to ac oherwydd imiwnedd isel Luke mae'r gwres ymlaen yn aml," ychwanegodd Sheri, sy'n byw yn ne Cymru.
"Allwn ni ddim dweud wrth Luke am wisgo siwmper arall oherwydd ni all ddeall hynny. Felly mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn."
Mae Luke yn mynd i'r coleg ychydig ddyddiau'r wythnos ger ei gartref ym Merthyr Tudful ond nid yw cerdded neu fynd ar drafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn.
"Allwn i ddim ei gerdded i'r coleg gan na fydden ni byth yn cyrraedd yno," meddai Sheri. "Felly mae'n rhaid i ni gael car.
"Doedd hi ddim yn bell yn ôl y byddech chi'n llenwi'ch car. Dyw hynny ddim yn digwydd bellach. Felly rwy'n rhoi £10 o danwydd mewn nid £20.
"Mae 'na bethau hurt fel 'na ddylech chi orfod meddwl amdanynt."
Pan dynnwyd y codiad wythnosol o £20 i Gredyd Cynhwysol Luke i ffwrdd, cynyddodd y ffioedd y mae'n rhaid iddo eu talu am ofalwyr, gan olygu yn gyffredinol ei fod £120 y mis ar ei golled.
Daw prif incwm y teulu gan ŵr Sheri, Derek, sy'n rheolwr prosiect mewn cwmni offer garej, ond mae Sheri wedi meddwl y gallai hi o bosibl helpu i ddod â rhywfaint o arian i mewn.
Ond mae hi'n teimlo bod ei "dwylo wedi'u clymu" yn gofalu am ei mab.
"Gydag oriau Luke yn y coleg, allwn i ddim hyd yn oed gael swydd rhwng y rheini," meddai. "Ac, a dweud y gwir, fyddwn i ddim yn effro i'w gwneud nhw chwaith hanner yr amser… dwi mor flinedig.
"Mae'n gwneud i chi deimlo'n ddiwerth. Pan fydd eich dwylo wedi'u clymu mae'n anodd iawn."
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod mwy o bobl nag ar unrhyw adeg yn ystod y pandemig Covid wedi derbyn taliad caledi brys gan Lywodraeth Cymru yn ystod tair wythnos gyntaf mis Ionawr.
Cafodd mwy na 23,000 o aelwydydd nad oeddent yn gallu fforddio bwyd neu ynni y taliad gwerth tua £65.
Mae Sheri yn aml yn mynychu Hyb Cymunedol Twyn ym Merthyr Tudful lle mae'r argyfwng costau byw hefyd yn peri gofid i Jean Jones a Vicky Popp.
Dywed Jean ei bod fel pensiynwraig ar incwm sefydlog yn poeni am y dyfodol gyda phrisiau'n codi.
"Mae gen i fesurydd clyfar ac mae prisiau wedi codi bron i ddwbl yn ystod y tair wythnos diwethaf," meddai.
"Rwy'n defnyddio fy meicrodon lawer mwy na'r popty oherwydd mae'n gyflymach ac yn llai costus felly rwy'n ceisio torri'n ôl fel y mae'r rhan fwyaf o bobl."
I Vicky, y peth anoddaf am gostau cynyddol yw methu â fforddio mynd â'i hwyres i chwarae meddal neu allan am ginio.
"Mae'n fy ypsetio ac yn fy nigalonni," meddai Vicky. "Dydyn ni ddim eisiau mynd i ddyled."
Mae hi a'i gŵr yn dibynnu ar ei bensiwn ac maen nhw wedi gorfod torri'n ôl.
"Pan dwi allan dyw fy ngŵr ddim yn rhoi'r gwres ymlaen," ychwanegodd Vicky.
Mae Louise Goodman yn rhedeg yr Hyb ac yn gweld llawer o bobl bob wythnos ac mae hi'n meddwl bod llawer o bobl "ddim yn ymdopi a dweud y gwir, maen nhw'n rhygnu byw".
Mae hi wedi sylwi ar fwy o bobl yn defnyddio banciau bwyd ac angen cymorth gyda chostau nwy a thrydan.
"Mae'n anodd iawn. Maen nhw'n meddwl nad oes ganddyn nhw unrhyw help," meddai Louise.
Beth mae llywodraethau yn ei wneud?
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyblu ei thaliad tanwydd gaeaf i £200 i bobl ar fudd-daliadau penodol.
Mae gweinidogion yng Nghaerdydd eisiau i Lywodraeth y DU gyflwyno "tariff ynni cymdeithasol" i helpu cartrefi incwm is.
Dywedodd Llywodraeth y DU ei bod yn cydnabod bod pobl yn "wynebu pwysau" gyda chostau byw:
"Rydym yn darparu cefnogaeth helaeth i'r rhai sydd ar yr incwm isaf, gan gynnwys rhoi cyfartaledd o £1,000 yn fwy y flwyddyn ym mhocedi teuluoedd sy'n gweithio ar Gredyd Cynhwysol, cynyddu'r isafswm cyflog a helpu gyda chost biliau tanwydd," meddai llefarydd Llywodraeth y DU.
Bydd mwy ar y stori hon ar Wales Live, BBC One Wales, am 22:30 ddydd Mercher neu ar BBC iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2021