Y gyfraith a pharch i'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
I nodi 60 mlynedd ers i Saunders Lewis draddodi ei ddarlith radio Tynged yr Iaith, Cymru Fyw sy'n cyhoeddi cyfres o erthyglau yn bwrw golwg ar sefyllfa'r iaith heddiw.
Yn yr ail erthygl o'r gyfres, Gwion Lewis CF sy'n trafod y berthynas rhwng y gyfraith a'r Gymraeg. Mae Gwion yn Gwnsler y Frenhines yn siambrau Landmark yn Llundain ac yn arbenigo yn y gyfraith gyhoeddus a hawliau dynol.
Heb os, mae'r sefyllfa'n well nag yr oedd hi yn 1962.
Deddf Iaith dila a gafwyd yn 1967 yn canolbwyntio'n bennaf ar yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn llysoedd yng Nghymru.
Chwarter canrif yn ddiweddarach, daeth Deddf Iaith 1993 a sefydlodd yr egwyddor y dylai cyrff cyhoeddus yng Nghymru drin y Gymraeg yn gyfartal ȃ'r Saesneg.
Cam ymlaen?
Roedd hynny'n gam ymlaen ond yn ergyd ar yr un pryd. Ni wnaed unrhyw ymdrech yn y ddeddf i osod cyfrifoldebau ar gwmnïau preifat o safbwynt y Gymraeg, er gwaethaf eu grym cynyddol.
Pan gyhoeddwyd y byddai Cymru yn cael ei Chynulliad ei hun ddiwedd y ganrif ddiwethaf, y gobaith oedd y byddai gan wleidyddion ym Mae Caerdydd fwy o awydd (ac amser) na'u cyfoedion yn San Steffan i lunio deddf iaith a fyddai'n deilwng o'r Gymraeg.
Yr hyn a gafwyd oedd Mesur y Gymraeg 2011.
Mesur y Gymraeg 2011
Mae digon yn y Mesur hwnnw i'w groesawu. O'r diwedd, cafwyd datganiad fod gan y Gymraeg "statws swyddogol" yng Nghymru.
Nid datganiad symbolaidd yn unig yw hwn. Gwn o brofiad pa mor ddefnyddiol yw "statws swyddogol" y Gymraeg wrth geisio darbwyllo barnwr mewn llys fod polisïau addysg uchelgeisiol sy'n hyrwyddo'r iaith yn rhai rhesymol.
Diolch i Fesur y Gymraeg 2011, mae gennym oll hefyd y "rhyddid" yn gyfreithiol i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'n gilydd, a'r hawl i ofyn i Gomisiynydd y Gymraeg ymchwilio i unrhyw ymyrraeth ȃ'r rhyddid hwnnw.
Cwmnïau preifat
Serch hynny, ddegawd yn ddiweddarach, parhau i ddisgwyl ydym am unrhyw ymdrech o bwys i osod cyfrifoldebau cyfreithiol ar gwmnïau preifat o safbwynt yr iaith.
Os yw cwmni'n dymuno codi stad o dai yng Nghymru mewn safle sy'n sensitif yn amgylcheddol, mae'n ofynnol iddo ddarparu asesiad manwl o effeithiau amgylcheddol y cynllun yn unol ȃ rheoliadau.
Ni roddir yr un parch i'r Gymraeg. Gadewir i bob awdurdod lleol yng Nghymru benderfynu ei hun i ba raddau y dylid asesu effeithiau datblygiadau newydd ar y Gymraeg. Nid yw'r gyfraith yn cynnig arweiniad ar y broses.
O ganlyniad, mae'r ymdriniaeth o'r Gymraeg yn y gyfundrefn gynllunio yng Nghymru yn anghyson. Ran amlaf, dogfen druenus o arwynebol yw'r 'Asesiad Effaith ar y Gymraeg' a gyflwynir gan ddatblygwyr.
Addysg
Yr un yw'r broblem yn y maes addysg. Os yw awdurdod lleol yn dymuno ad-drefnu ei ysgolion mewn modd a allai effeithio ar ysgolion sy'n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, mae polisi Llywodraeth Cymru yn datgan yn fras fod angen paratoi "asesiad o'r effaith ar y Gymraeg".
Unwaith yn rhagor, nid oes rheolau pellach ynglŷn ȃ chynnwys asesiad o'r fath, yn wahanol i'r cyd-destun amgylcheddol. Rhoddir rhwydd hynt i awdurdodau lleol llai blaengar o safbwynt y Gymraeg baratoi "asesiadau" diog a disylwedd gan nad yw'r gyfraith yn gofyn mwy ohonynt.
Rhagor o ddeddfau?
Mae'n hen bryd cyflwyno deddf sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cynnwys yr asesiadau ieithyddol a gynhyrchir yn y meysydd cynllunio ac addysg. Mae llawer gormod o benderfyniadau pellgyrhaeddol yn cael eu cymeradwyo yng Nghymru ar sail "asesiadau" ieithyddol amwys a di-fudd.
Nid yw effeithiau ieithyddol yn llai pwysig, mewn egwyddor, nag effeithiau amgylcheddol. Daeth yn amser i Senedd Cymru gydnabod hynny.
Fory: Yr Athro Colin Williams sy'n trafod y targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Hefyd o ddiddordeb: