Camu ar lwyfan y Theatr Genedlaethol ar y funud olaf
- Cyhoeddwyd
Dridiau yn unig cyn i sioe Our Generation gan Theatr Genedlaethol Lloegr gyrraedd llwyfan y Dorfman Theatre yn Llundain, cafodd y berfformwraig Leah Gaffey alwad yn gofyn iddi lenwi mewn gan fod actor wedi dal Covid.
Gyda dim ond llond llaw o oriau o ymarfer yn bosib mae Leah, sy'n cyflwyno Stwnsh Sadwrn ar S4C, wedi gorfod paratoi at y sioe gair am air (ferbatim) sydd wedi ei seilio ar chwe blynedd o gyfweliadau gyda deuddeg person ifanc.
Ond yn gysur i Leah mae'r ffaith ei bod yn nabod un cymeriad mae hi'n chwarae yn dda iawn oherwydd ers 2016, o dan arweiniad y dramodydd Alecky Blythe, mae hi wedi bod yn bry ar wal i ddau unigolyn o Ynys Môn sydd â'u straeon yn cael eu hadrodd o brif lwyfan y Theatr Genedlaethol dros y misoedd nesaf.
Mae Our Generation, wnaeth agor gyda pherfformiad rhagflas ar 14 Chwefror, yn gyd-gynhyrchiad rhwng y Theatr Genedlaethol a'r Chichester Theatre ac mae'r Cymro Daniel Evans yn cyd-gyfarwyddo.
Mae'n torri tir newydd ym myd theatr gan bortreadu bywydau pobl ifanc Prydain drwy gyfnod eu harddegau a Covid-19. "Mae fel dod allan o'r rwbal," meddai un cymeriad. "Mae fy ngwinedd yn hirach na fy nyfodol," meddai un arall.
Ynddi mae hanes pob mathau o rwystrau - o heriau iechyd meddwl, arholiadau, Covid-19, y cyfryngau cymdeithasol, teuluol a thrais.
Cafodd Cymru Fyw air gyda Leah Gaffey a'r cyfarwyddwr Daniel Evans am y sioe.
'Unigryw'
"Mae hanes creu'r sioe yn unigryw," meddai Daniel Evans, cyfarwyddwr Chichester Festival Theatre, ble fydd y sioe yn ymddangos.
"Mae'r ddrama yn bortread o bobl ifanc yn gadael plentyndod ac yn cyrraedd bod yn oedolyn. Dyma un o'r dramâu cyntaf sydd yn trafod profiadau bywyd go iawn bobl oedd yn byw dan gysgod Covid hefyd."
O dan arweiniad y ddramodwraig Alecky Blythe, wnaeth ysgrifennu'r sioe gerdd enwog London Road, mae casglwyr wedi bod yn dilyn bywydau'r bobl ifanc a'u teuluoedd bob tri mis am chwe blynedd, a'r union eiriau a recordiwyd sydd yn cael eu defnyddio ar lwyfan.
Un casglwr oedd y berfformwraig Leah Gaffey, ac mae hi wedi bod yn dyst i lwybrau difyr y ddau unigolyn o Ynys Môn (sydd â'r enwau llwyfan Mia a Taylor) yn datblygu o fod yn bobl ifanc 12 oed i fod yn oedolion 18 oed. Wrth lenwi mewn ar yr wythnos gyntaf, a "bendith arni" am wneud hynny, meddai Daniel, mae Leah yn chwarae rhan Mia.
"Roedd o yn bach o sioc i ddechrau," meddai Leah. "Ond nes i ddim meddwl dwywaith. Mae o'n un o'r llwyfannau gorau yn y byd i berfformio arni.
"Mae'n gwneud o yn fwy arbennig bo' fi wedi gweithio arno mor hir ac yn cael y cyfle i chwarae cymeriad Mia, person dwi wedi dod i nabod mor dda."
Wrth gofio yn ôl i pan gafodd fynediad i ysgol yn 2016 i ddewis dau berson, sy'n aros yn gyfrinachol, meddai Leah: "Roedd 'na lot o grio a chwerthin a joio a theimlo yn nerfus ag ofn be' sydd i ddod.
"Roedd Taylor yn sefyll allan oherwydd roedd ganddo ddiddordeb mawr yn y dictaphone 'ma oedd gen i ac roedd o yn awyddus iawn i rannu ei stori efo fi.
"Roedd Mia yn cerdded ar hyd y coridorau ac yn gweld fi 'chydig bach fel esgus ella i beidio gorfod mynd i ddosbarth."
Profiadau cenhedlaeth
Mae trawsdoriad amlwg rhwng y ddau gymeriad mae Leah wedi eu dilyn. Ar un ochr mae Taylor yn cyrraedd treialon tîm pêl-fasged cadair olwyn. Ar yr ochr arall mae Mia yn wynebu heriau teuluol dwys a pherthynas anodd gyda'i chariad.
Ymhlith straeon y bobl eraill mae hanes bachgen yn cael ei saethu tra ar wyliau a hanes bachgen sydd yn rhan o grŵp acapella yn ei ysgol.
Ond er y gwahaniaethau o ran y straeon a chefndiroedd sosio-economaidd yr holl bobl ifanc yn Our Generation, mae elfennau tebyg sy'n perthyn i'w cenhedlaeth.
"'Da ni wedi gweld strwythur yn adeiladu a be' sy'n anhygoel ydi er bod y bobl ifanc 'ma i gyd yn dod o gefndiroedd gwahanol iawn, mae 'na lot yn debyg iawn amdanyn nhw, a dyna sy'n gwneud o yn ddifyr," meddai Leah Gaffey.
Mae Daniel Evans yn cytuno: "Rwyt ti'n sôn am bobl ifanc sydd yn gorfod delio gyda'r cyfryngau cymdeithasol a sut mae'r rheiny yn effeithio ar eu hiechyd meddwl nhw.
"Maen nhw hefyd yn gorfod delio gydag addysg a shwt mae diffyg arian ar gyfer addysg ganddyn nhw, sut mae eu hiechyd meddwl nhw trwy gydol Covid wedi dirywio, sut wnaeth y llywodraeth ddelio gyda'r sefyllfa arholiadau ac yn y blaen.
"Ti'n cael y teimlad a'r portread o fewn y ddrama o'r bwlch sydd yn cynyddu rhwng y bobl sydd yn freintiedig ac yn ddifreintiedig.
"Ond er hynny ti hefyd yn cael gweld bod 'na bethe sydd ganddyn nhw i gyd yn gyffredin fel cenhedlaeth, ac mae hynny yn fy ysgwyd i."
Theatr Ferbatim
Un o'r pethau sydd yn wahanol am y broses o greu sioe gair am air ydi does 'na ddim sgript. O dan Alecky Blythe mae'r actorion yn derbyn eu geiriau nhw drwy eu clustiau drwy system sain wrth ymarfer. Yna mae'n rhaid i'r actorion ail ddweud y geiriau yn union fel mae'r bobl go iawn yn eu dweud nhw gyda phob chwerthiniad ac ebychiad.
Mae Leah Gaffey yn un sydd yn ymddiddori yn y math yma o theatr. Ysgrifennodd sioe air am air ar bobl tref ei phlentyndod, Porthmadog, o'r enw Known wrth astudio drama yng ngholeg Goldsmiths. Astudiodd gwaith Alecky Blythe, sy'n arbenigo ar y dechneg, hefyd.
"Mae cadw purdeb yn rhywbeth pwysig ofnadwy i Alecky," meddai Leah.
"Y dechneg recorded delivery mae Alecky yn defnyddio mewn arferion… lle mae'r actorion yn gwrando ac yn clywed y recordiad gwreiddiol ac yn dweud yr union yr un fath.
"Mae o yn dechneg unigryw iawn ac mae o'n gwneud o yn authentic ofnadwy."
'Symbolaidd'
Gwreiddioldeb ydi un o fanteision sioeau air am air, sef y peth agosaf i ddrama ddogfen mewn theatr.
Meddai Daniel: "Mae 'na rywbeth symbolaidd am glywed eu straeon nhw a'u clywed yn cael eu hadrodd fel petai ti'n gweld bywyd go iawn.
"Mae'r ieithwedd maen nhw'n defnyddio yn gyffrous ac mae'n ddrama i unrhyw berson sydd wedi bod yn eu harddegau - sef wrth gwrs, pawb.
"Mae 'na bethau lle ti'n gallu uniaethu â nhw a ti'n cofio. Ti'n cofio cael dy arholiadau, ti'n cofio cwympo mewn cariad, ti'n cofio cael dy ddympio. Ond hefyd mae 'na fanylion am bob un cymeriad lle ti'n cael mewnwelediad i fywyd lle falle sydd ddim yn rhan o dy ddiwylliant di. Ac mae hynny mor ddiddorol ac yn wefreiddiol."
Cymraeg ar lwyfan y Theatr Genedlaethol
Mae sylw i Gymru yn beth prin i'w ddarganfod ar lwyfannau mawreddog theatr Llundain. Ond gyda Leah Gaffey a Daniel Evans yn rhan ganolog o Our Generation, a stori dau unigolyn o Ynys Môn yn cael ei adrodd mae Cymry a'r Gymraeg yn cael cynrychiolaeth o flaen miloedd yn y misoedd i ddod.
"Dwi'n ymfalchïo yn y ffaith fod 'na ddau gymeriad o ogledd Cymru," meddai Daniel Evans.
"Mae'n grêt fod 'na ddwy linell o Gymraeg yn y ddrama. Ac wrth gwrs mae'r acen yna o ogledd Cymru yn acen dydyn ni ddim yn clywed ar y cyfryngau ym Mhrydain yn aml iawn o gwbl."
Meddai Leah: "Mae o yn anrhydedd perfformio cymeriad o Ogledd Cymru ar lwyfan y National gan adrodd union eiriau person go iawn o Ynys Môn."
Hefyd o ddiddordeb: